Sut i ddatgarboneiddio pensiynau'r sector cyhoeddus

Published: 18 Feb 2022

Photo of Bleddyn Lake

Bleddyn Lake,
Rheolwr Datblygu ac Ymgyrchoedd,
Cyfeillion y Ddaear Cymru

 

Yng Nghymru, pan mae'n dod yn fater o gronfeydd pensiynau'r sector cyhoeddus yn cael gwared ar eu buddsoddiadau tanwydd ffosil, mae pawb yn edrych ar bawb arall yn disgwyl iddynt weithredu. Yn y blog yma, mae Bleddyn, ymgyrchydd hirdymor ar y mater, yn archwilio beth yn union fydd ei angen i ddatrys yr oedi hwn.

How old will you be in 2050?

Granted, a strange question to start an article about climate change.

Faint fydd eich oed chi yn 2050?

Heb os, cwestiwn od i ddechrau erthygl am newid yn yr hinsawdd.

Mi fydda i yn, ym, well gen i beidio â dweud! Ond dwi'n gobeithio na fydd raid imi adael f'ymddeoliad i longyfarch y rhan fwyaf o'r cronfeydd pensiwn yng Nghymru am gael gwared ar eu stociau a chyfranddaliadau tanwydd ffosil olaf!

Ffos-y-fran open cast mine in the north east of Merthyr Tydfil
Mwynglawdd brig Ffos-y-fran yn ne ddwyrain Merthyr Tudful

Yn anffodus, dydi o ddim yn ddoniol, nac ydi?! Ond ar hyn o bryd, dyna beth sydd i'w ddisgwyl.

Pan wnaethon ni ddechrau ein hymgyrch yn 2015 i gael pensiynau'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gael gwared ar eu buddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil, ychydig a wyddom y byddem yn dal i eistedd yma yn 2022 yn dal i siarad am yr un broblem.

Does bosib mai synnwyr cyffredin ydi o? Mae tanwyddau ffosil yn achosi newid yn yr hinsawdd, mae buddsoddi arian mewn cwmnïau tanwydd ffosil yn rhoi'r cyllid a'r drwydded gymdeithasol iddynt fynd yn eu blaenau gyda'u gweithrediadau. Felly, rydym yn tynnu ein harian allan o danwyddau ffosil.

Fel y gwnaeth Mark Carney ein rhybuddio, pan oedd o'n  bennaeth Banc Lloegr, mae'r math yma o fuddsoddiadau yn risg tymor hir, yn enwedig mewn byd sy'n gweithredu hyd yn oed yn fwy ar newid yn yr hinsawdd. Ar ryw bwynt bydd tanwyddau ffosil yn ddianghenraid, felly mae buddsoddi ynddynt yn risg a allai fod yn hollol ddi-werth.

 

Y peth da

Nid yw popeth wedi bod yn newyddion drwg yng Nghymru, fodd bynnag. Rhwng 2017 a 2022 fe wnaeth yr 8 Cronfa Bensiwn Awdurdodau Lleol Cymru (LAPFs) leihau eu gafael mewn cwmnïau tanwydd ffosil o tua hanner, o tua £1bn i tua £500miliwn. Maen nhw wedi dechrau symud tameidiau o'u potiau pensiwn i gronfeydd carbon isel hefyd.

Yn ystod yr un cyfnod, mae cronfa bensiwn Aelodau Senedd Cymru wedi ymrwymo i ddadfuddsoddi, ac mae Cronfa Bensiwn Abertawe wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio erbyn 2037.

Mae cynghorau eraill megis Powys, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Fynwy wedi gneud rhyw fath o benderfyniad dadfuddsoddi, ond nid yw eu cronfeydd pensiwn nhw wedi gweithredu ar hyn.

Ac yno mae'r broblem yn anffodus.

Mae yna sawl chwaraewr ac maen nhw'n dal i edrych ar ei gilydd i gymryd y cam a gweithredu.

 

Y peth drwg

Mae gormod o gynghorwyr a chynghorau yn amharod i drafod neu basio cynigon ar ddadfuddsoddi (mae rhai o'r rhesymau roddodd cynghorwyr yn ymylu ar fod yn chwerthinllyd!), felly nid yw pwyllgorau cronfa bensiwn yn cael arweiniad clir gan yr union sefydliadau y maen nhw’n cyfrannu i'w cronfeydd.

Mae sefydliadau llai eraill, megis cynghorau cymuned a thref, sy'n cyfrannu i'r cronfeydd hyn yn dweud eu bod yn rhy fach i wneud fawr o wahaniaeth ac felly ddim yn lleisio'u barn a galw am newid. Gan nad yw rheoliadau cronfeydd pensiwn wedi eu datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn honni na allant wneud dim byd.

Ac wedyn mae gennym y Bartneriaeth Pensiwn Cymru (WPP) sy'n clymu 8 LAPF Cymru. Tra eu bod yn gwneud cynnydd yn symud oddi wrth danwyddau ffosil, mae eu cynghorwyr ymgysylltu a phleidleisio yn dweud wrthynt ei bod hi'n well iddynt ddal eu gafael ar stociau tanwydd ffosil, oherwydd fel arall byddai sefydliadau a chorfforaethau llai egwyddorol o bosib yn eu prynu ac o ganlyniad yn gwneud gweithredu ar newid yn yr hinsawdd yn llai tebygol! Wrth gwrs, mae yna sawl twll yn y math yna o ddadl, yn anad dim, os mai dyna'r achos oni fyddai hi'n well prynu mwy o stociau a chyfranddaliadau tanwydd ffosil ac felly cael mwy o ddylanwad ar y cwmnïau hyn? Gobeithio mai nid at fan hyn yr ydym yn anelu!

Yn ddiddorol fodd bynnag, pan ewch chi ar wefan y cynghorwyr fe welwch restr o gannoedd o gwmnïau y maent wedi eu heithrio o'u buddsoddiadau yn barod, a hynny ar sail yr hinsawdd gan eu bod, rhywsut, yn eu hystyried yn 'ddrwg iawn i'r hinsawdd.' Felly lle mae hynny'n gadael ESSO, Shell, BP a'u tebyg? Sut nad ydyn nhw'n 'ddrwg iawn i'r hinsawdd'? Beth yn y byd ydi'r rhesymeg dros feddwl felly? Felly eto, mae'n enghraifft arall o bethau'n gwneud dim synnwyr o fath yn y byd.

 

Wind turbines and solar panels, location unknown (istock)
Wind turbines and solar panels, location unknown (istock)

 

 

 

A nawr fe ddown at y datrysiadau...

  • Penderfyniadau da

Mae yna gymaint o bethau y bydd yn rhaid inni gyd eu gwneud yn y 10 mlynedd nesaf os ydym am osgoi effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd, ond nid dyma un o'r rhai anoddaf. Penderfyniadau da sydd eu hangen.

Mae angen i gronfeydd pensiwn glywed gan y rhai sy'n eu talu eu bod am iddynt gael gwared ar fuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Y rhain ydi sefydliadau megis cynghorau cymuned a thref, colegau, ymddiriedolaethau hamdden a llawer o gyrff cyhoeddus yr ydych wedi clywed amdanynt ond efallai y byddech yn dychryn o glywed bod ganddynt fuddsoddiadau mewn cwmnïau tanwydd ffosil. Wna i ddim eu rhestru nhw fan hyn gan y byddai hynny'n cymryd gormod o amser ond mae'r wybodaeth ar gael yn gyhoeddus ar wefannau LAPF gwahanol.

Rydym wedi ysgrifennu at bob un ohonynt ond dim ond canran fechan sydd wedi ymrwymo i weithredu. Cadwch mewn cof mai'r unig gais a wnawn iddynt ydi i gysylltu â'u cronfeydd pensiwn a gofyn iddynt roi amserlen mewn lle ar gyfer cael gwared ar fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil. Tydi hynny ddim yn ofyn afresymol, nac ydi?

Mae angen i awdurdodau wneud cynigion ar ddadfuddsoddi, eu pasio drwy bleidlais syml ac i'r neges yna dreiddio i'r cronfeydd pensiwn. Os oes ganddynt unrhyw amheuon, does ond angen gofyn i'r bobl sydd hefo'r pensiynau hyn. Gofynnwch a ydynt am i'w harian gael ei fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil ai peidio. Dydi'r cam syml yna ddim yn cael ei wneud hyd yn oed.


 

  • Llywodraeth Cymru

Ac mae hyn yn dod â ni'n braf at rôl Llywodraeth Cymru Mae yna ychydig o bethau i'w nodi fan hyn. Yn gyntaf, mae ganddyn nhw swm bychan o arian dal wedi ei fuddsoddi yng Nghronfa Bensiwn Rhondda Cynon Taf. Maen nhw felly yn buddsoddi (er ei fod yn ganran fechan iawn) mewn tanwyddau ffosil. Mae yna amrywiaeth o gyrff hyd braich neu gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sydd hefyd yn talu i wahanol LAPFs.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau rheoleiddio dros y cronfeydd pensiwn hyn ond y cwestiwn ydi - ydan ni yntau nid ydan ni mewn argyfwng hinsawdd? Mae'r ateb yn glir, ydan. Felly rhaid dod o hyd i ffordd o ddelio â'r broblem nad oes ganddyn nhw bwerau rheoleiddio. Yr unig beth sydd ei angen ydi'r ewyllys i wneud.

 

  • Gweithio gyda'n gilydd

Mae Llywodraeth Cymru a'r sector gyhoeddus wedi cydweithio i roi cynllun yn ei le i'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gyrraedd y targed 'sero net erbyn 2030'. Fodd bynnag, pan oedden nhw ac eraill yn cynllunio hyn, fe wnaed y penderfyniad i beidio cynnwys pensiynau yn y cynlluniau, a doedd hynny'n fawr o gymorth.

Os na weithredir ar bensiynau, fe allwn yn hawdd fod mewn sefyllfa lle bydd awdurdodau lleol yn cyrraedd eu targedau sero net eu hunain erbyn 2030 ond y bydd eu cronfeydd pensiwn yn dal i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil am 20 mlynedd arall (gyda 2050 yn ddyddiad targed ar gyfer rhai o'r cronfeydd pensiwn hyn).

Cyn bo hir fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun ar gyfer cyrraedd statws sero net fel sefydliad erbyn 2030. Ni fydd hyn yn bosib os byddant yn parhau i dalu i gronfeydd pensiwn (waeth pa mor isel y symiau a waeth pa mor anuniongyrchol) sydd yn eu tro, yn buddsoddi mewn tanwyddau ffosil.

Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus yn cydweithio ar hyn, i roi cynlluniau mewn lle i ddatgarboneiddio eu pensiynau erbyn 2030 ac felly efelychu targedau presennol y sector cyhoeddus. Petaent i gyd yn cydweithio yna fe fyddai rhaid i'r cronfeydd pensiwn weithredu.

 

Pawb ar eu hennill

Mae yna 'fuddugoliaethau' cysylltiedig eraill fan hyn hefyd. Mae cronfeydd pensiwn yn rheoli llawer o arian ac mae ganddynt hawl cyfreithiol i fuddsoddi canran benodol mewn prosiectau seilwaith. Oni fyddai'n wych o beth petai'r prosiectau seilwaith hyn yma yng Nghymru yn hytrach na rhannau eraill o'r byd? Byddai'r prosiectau hyn, wedi eu gwasgaru ar draws Cymru, o gymorth i greu swyddi ac ysgogi economi leol tra ar yr un pryd yn rhoi cyfradd enillion dda i ddeiliaid cronfeydd pensiwn. Pawb ar eu hennill ymhob man! Mae'r senario yna yn fwy tebygol o ddigwydd os ydi pob parti yn gweithio gyda'i gilydd ar gynllun i gefnu ar danwyddau ffosil a chefnogi buddsoddiadau lleol.

Mae hyn angen arweinyddiaeth ac mae modd i Lywodraeth Cymru ddarparu hynny.

Rydym i gyd yn gwybod os ydym yn wynebu problem yn ein bywydau ac nad ydym yn gallu'n gweld sut i'w datrys yn syth bin, rydym yn dechrau meddwl o amgylch y broblem i drio dod o hyd i ddatrysiad. Dyma'n union sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus.

Dychmygwch pa fath o ddatganiad fyddai hynny'n ei roi, mi wnaeth Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus gydweithio gan greu nid dim ond cynllun ar gyfer datgarboneiddio eu pensiynau erbyn 2030 ond hefyd rhoi cynllun yn ei le i fuddsoddiadau seilwaith i fod o fewn Cymru.  

 

L​ocal communities celebrate the council's unanimous decision to reject an application for a new opencast coal mine, in Nant Llesg, near Merthyr Tydfil in south Wales, Caerphilly County Council, 5 August 2015
Cymunedau lleol yn dathlu penderfyniad unfrydol y cyngor i wrthod cais am bwll glo brig, yn Nant Llesg, ger Merthyr Tudful yn ne Cymru, Cyngor Sir Caerffili, 5 Awst 2015

 

Mae yna sefyllfa lle bydd pawb ar eu hennill yn aros amdanom.

Does ond angen i ychydig o bobl weithredu.

Fe fyddai'n ddatganiad anferth o fwriad ar weithredu ar yr hinsawdd yma yng Nghymru ar yr union adeg y mae angen hynny.

Share this page