Arian
Published: 4 Feb 2022
Ymgyrchwyr hinsawdd yn Llundain yn 2019 yn protestio yn erbyn y ffaith fod cynghorau’n buddsoddi mewn tanwyddau ffosil.
Oeddech chi’n gwybod bod hanner yr arian sydd yn y byd (oddeutu £32 triliwn) yn dod o’r diwydiant pensiynau byd-eang?
Yn anffodus, caiff gormod o’r arian hwn ei fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil.
Er enghraifft, yng Nghymru, dengys y ffigurau diweddaraf fod Cronfeydd Pensiwn yr 8 Awdurdod Lleol yng Nghymru yn dal i fuddsoddi oddeutu £500 miliwn mewn cwmnïau tanwydd ffosil.
Golyga hyn y gallai’r arian a dalwch i’ch pensiwn fod yn dwysáu’r argyfwng hinsawdd.
Hefyd, mae’n bosibl bod eich banc yn helpu i gynnal y diwydiant tanwydd ffosil.
Am beth ydyn ni’n galw?
Rydym eisiau i holl gyrff cyhoeddus Cymru a Phartneriaeth Pensiwn Cymru ymrwymo’n gyhoeddus i roi’r gorau i fuddsoddi eu cronfeydd pensiwn mewn cwmnïau tanwydd ffosil, gan osod terfyn amser iddyn nhw eu hunain ar gyfer gwneud hyn. Hefyd, rydym eisiau i Gymru ddilyn esiampl Seland Newydd trwy fesur cynnydd ar sail llesiant yn hytrach nag ar sail Cynnyrch Domestig Gros (GDP). Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu Fframwaith Safonau Byw i Gymru.