A yw eich pensiwn yn dinistrio’r blaned?
Published: 11 Oct 2021
Beth sydd gan Gyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn, Coleg Gwent, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri a nifer o Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru yn gyffredin?
Maent i gyd yn talu i mewn i'w Cronfeydd Pensiwn Awdurdod Lleol (LAPFs) priodol.
Iawn, digon teg, ynde?
Ond……mae yna 8 o'r LAPFs hyn yng Nghymru ac fel y gwnaeth Cyfeillion y Ddaear a Platform ddarganfod yn gynharach eleni maent yn dal i fuddsoddi o gwmpas £500 miliwn mewn cwmnïau tanwydd ffosil.
Beth yw'r broblem?
Dywed y wyddoniaeth hinsawdd ddiweddaraf fod yn rhaid i allyriadau nwyon tŷ gwydr gyrraedd uchafbwynt o fewn 4 blynedd felly, mae'n warthus a dweud y gwir bod y cronfeydd pensiwn hyn yn dal i fuddsoddi mewn cwmnïau olew mawr.
Ond nid yw cwmnïau olew yn bod yn rhagweithiol iawn ar faterion hinsawdd?
Umm, wel, na!
“Yn 2020, asesodd y Transition Pathway Initiative 125 o gynhyrchwyr olew a nwy, cwmnïau glo, a grwpiau trydan ar eu parodrwydd ar gyfer economi carbon is. Fe wnaethant ddarganfod ‘Nid oes unrhyw gwmni olew, nwy na glo mawr ar y trywydd iawn i alinio eu busnes â nod hinsawdd Paris o gyfyngu’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang i ymhell islaw 2°C erbyn 2050”.
Pwy sy’n talu i mewn i’r Cronfeydd Pensiwn Awdurdod Lleol (LAPFS)?
Mae'n eithaf diddorol (na, wir!), gweld pwy yw'r holl sefydliadau a chyrff eraill sy'n talu i mewn i’r 8 LAPF yng Nghymru.
Mae Cynghorau Cymuned, colegau, ymddiriedolaethau hamdden, cymdeithasau tai a llawer o rai eraill yn ffurfio'r ychydig gannoedd o sefydliadau sy'n cyfrannu.
Mae'n bryd rhoi gwybod iddyn nhw.
Rydym yn ysgrifennu at yr holl sefydliadau a restrir yn adroddiadau blynyddol y cronfeydd pensiwn i'w gwneud yn ymwybodol o faint y mae eu cronfeydd pensiwn yn ei fuddsoddi mewn tanwydd ffosil sy'n niweidio’r hinsawdd. Un peth na allant ei wneud nawr yw dweud nad ydyn nhw'n gwybod beth yw'r mater a sut maen nhw'n ffitio i mewn.
Am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi bod yn arwain y frwydr i gael cronfeydd pensiwn cyrff cyhoeddus i dynnu eu harian allan o gwmnïau tanwydd ffosil (dadfuddsoddi). Rydym wedi gweld rhai llwyddiannau fel cronfa bensiwn Aelodau’r Senedd yn dadfuddsoddi a chynghorau fel Sir Fynwy, Caerdydd, Ceredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin i gyd yn pleidleisio i ddadfuddsoddi. Yn anffodus, nid yw rhai o’r pleidleisiau hyn wedi arwain at eu cronfeydd pensiwn yn dadfuddsoddi.
Felly, nawr rydym yn troi ein sylw at sefydliadau eraill sy’n talu i mewn i’w Cronfeydd Pensiwn Awdurdod Lleol.
A ydynt yn hapus bod eu cronfa bensiwn yn buddsoddi mewn cwmnïau olew sy’n gyrru newid hinsawdd? Faint o’r cwmnïau hyn sydd hyd yn oed yn gwybod ym mha gwmnïau y mae eu cronfa bensiwn yn buddsoddi ynddynt?
Ond y cwestiwn yw - beth maen nhw’n barod i’w wneud?
A ydynt yn barod i gysylltu â’u cronfa bensiwn i godi helynt? A ydynt yn barod i ofyn iddynt bennu amserlen ar gyfer dadfuddsoddi? A ydynt yn fodlon codi’r mater yn gyhoeddus er mwyn i bawb weld pwy sydd yn ymuno â’r alwad i gefnu ar danwyddau ffosil, a phwy sydd ddim?
Neu a fyddant yn hapus i aros yn dawel?
Fe gawn ni weld.
A oes unrhyw beth cadarnhaol wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf?
Oes, a dweud y gwir.
Pan ddechreuom yr ymgyrch hon, roedd gan yr 8 LAPF dros £1 biliwn wedi'i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil, ac erbyn hyn mae hyn i lawr i hanner y swm hwnnw gyda miliynau yn fwy hefyd bellach wedi'u buddsoddi mewn cronfeydd carbon isel. Mae symud £500 miliwn allan o danwyddau ffosil yn llwyddiant mawr, ond mae yna ddarn mawr ar ôl.
All Llywodraeth Cymru ddim gofyn i’r cronfeydd pensiwn hyn ddadfuddosddi?
Yn anffodus, nid yw mor syml â hynny.
Mae Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol yn dal i gael eu rheoleiddio ar lefel y DU, ond rhywbeth yr ydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru, y LAPFs a Phartneriaeth Pensiwn Cymru (y grŵp ymbarél ar gyfer 8 LAPF Cymru) i'w wneud, yw eistedd i lawr gyda'i gilydd i geisio dod o hyd i ffordd ymlaen. Nid oes rhaid iddo fod yn gymhleth.
Mae gan gronfeydd pensiwn hawl gyfreithiol i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith, ond pan wnânt hynny, nid ydynt i weld yn buddsoddi mewn prosiectau yng Nghymru.
Oni fyddai’n gwneud synnwyr i fuddsoddi mewn seilwaith yng Nghymru a thrwy hynny gefnogi swyddi a chymunedau Cymru ac ar yr un pryd sicrhau cyfradd enillion dda ar fuddsoddiadau i ddeiliaid cronfeydd?
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i’r sector cyhoeddus gyrraedd statws sero-net erbyn 2030. Ond, os yw cronfeydd pensiwn awdurdod lleol yn buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, sut allent honni eu bod yn sero-net? Yn syml, ni allant!
Ac mae hyn wrth gwrs yn ffordd y gallai Llywodraeth Cymru roi’r cyfeiriad sydd ei angen - cynnwys buddsoddiadau pensiwn yn nhargedau sero-net y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'u cronfeydd pensiwn ar ddatgarboneiddio eu buddsoddiadau a chefnu ar danwyddau ffosil.
Hydref 2021
Gyda sgyrsiau newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn cael eu cynnal yn Glasgow yr hydref hwn, does bosib nad oes amser gwell i’r LAPFs a Phartneriaeth Pensiwn Cymru gymryd y cam olaf a rhoi amserlen ar waith i gael gwared ar y buddsoddiadau hyn. Os yw cronfeydd pensiwn yn parhau i fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil maent yn parhau i fod yn rhan o'r broblem. Er nad ydyn nhw bob amser wedi gwerthfawrogi'r ffaith hon, mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r ateb. Wedi’r cwbl, os na fyddwn ni'n gweithredu nawr ac mae anhrefn hinsawdd drychinebus yn gafael go iawn, ni fydd dyfodol ar ôl sydd werth ymddeol ynddo.