Dylid cynnwys cronfeydd pensiwn y sector cyhoeddus yn Sero Net Cymru

Published: 25 Oct 2021

Rydym wedi anfon llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddynt gynnwys cronfeydd y sector cyhoeddus yn y cynllun Net Zero Plans, sydd i fod i gael ei gyhoeddi ar 28 Hydref 2021.

Picture of people holding a divest sign

Gyda gwyddoniaeth yr hinsawdd yn dangos bod angen i allyriadau fod wedi cyrraedd uchafbwynt o fewn y 4 blynedd nesaf, a gyda sgyrsiau COP26 y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd yn prysur agosáu, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys pensiynau'r sector gyhoeddus yn eu cynllun newydd Sero Net Cymru.

Er nad yw pensiynau'r sector gyhoeddus yn cael eu rheoleiddio o fewn Cymru, fe all Llywodraeth Cymru weithredu drwy eu cynnwys yn nharged y sector gyhoeddus i gyrraedd 'sero net' erbyn 2030.

Gyda Llywodraeth Cymru ar fin lansio cynllun Sero Net Cymru, mae hwn yn gyfle gwych i daclo'r tua £500miliwn sydd wedi ei fuddsoddi gan 8 Cronfa Bensiwn Awdurdodau Lleol Cymru mewn cwmniau tanwydd fossil.

Mae gan gronfeydd pensiynau’r hawl cyfreithiol i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith, felly mae’n gwneud synnwyr i Lywodraeth Cymru, yr WPP, ar 8 LAPFs, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a rhanddeiliaid eraill weithio gyda’i gilydd ar strategaeth i annog cronfeydd pensiynau i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith yng Nghymru

Byddai hyn yn helpu i greu swyddi newydd, rhoi hwb i economi Cymru, cynnig cyfradd enillion cynaliadwy ac addas ar gyfer dalwyr cronfeydd pensiynau yn ogystal â lleihau buddsoddiad cronfeydd pensiynau mewn tanwydd ffosil.

Mae'n hanfodol ein bod yn rhoi'r gorau i ariannu'r union gwmnïau sy'n gyrru’r anhrefn o ran ein hinsawdd.

Darllenwch ein llythyr agored

Share this page