Sut i achub y blaned rhag penderfyniadau gwael: blog
Published: 2 Jul 2021
Mae penderfyniadau’n sail i’n gallu i atal newid hinsawdd catastroffig. Bydd rhai o’r penderfyniadau hyn ar ein hysgwyddau ni’n unigol, megis penderfynu a fyddwn yn mynd i ffwrdd ar wyliau rhywbryd neu benderfynu a fyddwn yn amnewid ein cyflenwad trydan i dariff ynni adnewyddadwy ai peidio.
Bydd rhai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan bobl mewn busnesau a chwmnïau mawr, er enghraifft bydd rheolwyr archfarchnadoedd yn penderfynu pa mor gyflym y dylid gwaredu pecynnau plastig, rhoi drysau ar eu hoergelloedd a symud at ddefnyddio olew palmwydd cynaliadwy ar gyfer eu cynnyrch yn unig.
Bydd penderfyniadau eraill yn cael eu gwneud gan bobl mewn cyrff cyhoeddus, waeth a ydynt yn aelodau etholedig megis cynghorwyr lleol neu Aelodau’r Senedd, neu swyddogion yn gweithio yn y sefydliadau hyn.
Mae rhywun yn rhywle’n gyfrifol am wneud yr holl benderfyniadau hyn sydd gyda’i gilydd yn effeithio ar fywydau ein plant a chenedlaethau’r dyfodol, gan beryglu ystod o rywogaethau eraill sy’n rhannu ein planed gyda ni.
Beth am ddechrau gydag ychydig o bethau positif.
Roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen gyda Ffordd Osgoi’r M4 yn benderfyniad cadarn yr oeddem yn falch o’i weld, yn ogystal â’i chyhoeddiad diweddar ar strategaeth drafnidiaeth newydd (Llwybr Newydd), moratoriwm ar losgyddion mawr a newydd, y Strategaeth Mwy Nag Ailgylchu ac atal prosiectau adeiladu ffyrdd newydd, a chreu’r Weinyddiaeth Newid Hinsawdd newydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ac wedi ymrwymo i dargedau allyriadau hinsawdd cyfreithiol newydd "fydd yn gorfodi gostyngiad o 63% erbyn 2030 ac 89% erbyn 2040, gyda Chymru'n cyflawni sero net - yn ei hanfod gostyngiad o 100% - erbyn 2050".
Ond sut allwn ni fodloni’r targedau hyn pan fydd penderfyniadau a wneir ar bob lefel yn ychwanegu miloedd neu hyd yn oed filiynau’n fwy o dunelli CO2 i’r atmosffer?
‘Rydym angen i unigolion wneud penderfyniadau da.'
Gallwn i gyd drafod yr angen i leihau allyriadau o bob sector, megis trafnidiaeth neu dai, ond yr hyn sydd ei angen yw i unigolion wneud penderfyniadau da. Ar ryw bwynt, bydd pob prosiect, a phob datblygiad, angen un neu fwy o bobl i benderfynu peidio â gwneud rhywbeth.
Weithiau, bydd y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau hyn yn ymwybodol bod eu penderfyniadau’n sylweddol yn yr her yn erbyn newid hinsawdd; adegau eraill, efallai na fyddent mor sylweddol.
Mae tri phenderfyniad diweddar gan gynghorau lleol yn amlygu’r broblem yn eithaf da.
1. Cyngor Wrecsam yn cymeradwyo tanwyddau ffosil
Yr wythnos ddiwethaf (23ain Mehefin) pleidleisiodd Cyngor Wrecsam, ymysg pethau eraill, i ‘Ofyn i’w cynrychiolydd/cynrychiolwyr Cronfa Bensiynau Clwyd i wthio am ddadfuddsoddiad cyflym i gwmnïau tanwyddau carbon ar bob cyfle posibl.’
Er i’r cyngor ddatgan yn unfrydol ‘argyfwng hinsawdd’ yn 2019, roedd gofyn i’w cynrychiolwyr eu hunain ar bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd gefnogi dadfuddsoddiad yn ormod i fwyafrif o gynghorwyr, a chollwyd y bleidlais gydag 19 yn erbyn a 5 o blaid.
Felly, beth am fod yn glir ar hyn. Mae Cyngor Wrecsam yn un o lawer o gyrff sy’n talu i mewn i Gronfa Bensiynau Clwyd. Maent yn dal i fuddsoddi yng nghwmnïau tanwyddau ffosil.
Mae’r mudiad dadfuddsoddi’n dadlau ei bod hi’n bwysig yn ariannol ac yn foesegol i stopio buddsoddi yn y cwmnïau sy’n llywio newid hinsawdd.
Mae dadfuddsoddi’n ymwneud â phenderfynu i beidio â buddsoddi i’r cwmnïau hyn mwyach, a chreu amserlen i hynny ddigwydd.
Roedd y cynnig gerbron Cyngor Wrecsam yn ymwneud â gofyn i’w gynrychiolwyr ar bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd i fynd i gyfarfodydd a gwthio am ddadfuddsoddi. Nid oedd hyd yn oed yn ymwneud ag arbed arian o un diwrnod i’r llall.
Roedd hi’n siomedig, a dweud y lleiaf, bod 19 o gynghorwyr wedi pleidleisio yn erbyn a arweiniodd at golli’r cynnig.
Beth sydd hyd yn oed yn fwy rhwystredig yw gweld a chlywed rhai o’r rhesymau a roddodd y cynghorwyr dros bleidleisio yn erbyn y cynnig!
Mae’r rhain yn amrywio o ddim eisiau ‘busnesu’ ym materion ymddiriedolwyr (y gronfa bensiwn) i ddyfynnu gwefan Shell ei hun fel tystiolaeth fod popeth yn iawn a’u bod yn gwneud cymaint ag y gallent, i drafod sut fyddai’r Heddlu’n gallu gwneud eu gwaith heb betrol yn eu ceir.
Gallai’r 8 Cronfa Bensiwn Awdurdod Lleol yng Nghymru ofyn i bobl sydd â phensiynau gyda nhw a ydynt yn awyddus i’w harian fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil ai peidio. Byddai’n hawdd, dim ond trafod yr achos dros barhau i fuddsoddi i gwmnïau tanwyddau ffosil, ochr yn ochr â’r wyddoniaeth ddiweddaraf ar newid hinsawdd a’r achos dros ddadfuddsoddi. Yna, gallai pobl benderfynu dros eu hunain. Wrth gwrs, mae’r cronfeydd pensiynau’n amharod i wneud hyn oherwydd mae’n debyg na fyddant yn hoffi’r ateb! Go brin y dylem adael i ddemocratiaeth rwystro’r un hen drefn!
2. Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo ffatri biomas
I’r gwrthwyneb, mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu dadfuddsoddi ei bensiynau mewn tanwyddau ffosil ond yn gynharach eleni, rhoddodd ei Bwyllgor Cynllunio ganiatâd cynllunio newydd ar gyfer ffatri fiomas fyddai’n llosgi 75,000 tunnell o bren newydd o Latfia bob blwyddyn. Mae hyn er i Gyngor Caerdydd ddatgan ‘argyfwng hinsawdd’ yn flaenorol.
Heblaw am y pryderon a nodir yn y ddolen uchod, faint o help yw mewnforio a llosgi pren newydd o Latfia i’r argyfwng hinsawdd?
Dim o gwbl yw’r ateb byr.
3. Cyngor Casnewydd yn cymeradwyo llosgydd
Ymlaen at fater cynllunio arall.
Cafodd cynlluniau i drosi’r hen orsaf bŵer llosgi glo yn Aber-wysg ger Casnewydd yn llosgydd fyddai’n llosgi pelenni plastig o’r enw ‘Subcoal’, eu cefnogi gan swyddogion Pwyllgor Cynllunio Cyngor Casnewydd.
Gweler tudalen 61 i ddarllen pecyn dogfennau cyhoeddus pwyllgor cynllunio Cyngor Casnewydd:
‘Mae manteision y cynllun yn sylweddol fwy na’r anfanteision, a rhaid pwyso a mesur unrhyw effeithiau andwyol allai ddeillio o’r cynllun ar y dirwedd ac amwynderau lleol yn erbyn y manteision hynny. Mae’r swyddogion o’r farn nad yw’r cynnig yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd. Yn hyn o beth, credir bod manteision y cynllun yn gorbwyso’r gwrthwynebiadau, ac mae’r cynnig wedi’i ganiatáu yn unol ag amodau.’
Mae’n werth darllen y llinell hon eto dwi’n meddwl… ‘Mae’r swyddogion o’r farn nad yw’r cynnig yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd'.
Sori?
Diolch byth, yn dilyn ceisiadau gan Gyfeillion y Ddaear Cymru, CPRW a Chyfeillion Lefelau Gwent, gweithredodd Llywodraeth Cymru’n gyflym ar y funud olaf a chyflwynodd ‘cyfarwyddyd oedi’ i atal Pwyllgor Cynllunio Cyngor Casnewydd rhag gwneud penderfyniad. Maent bellach wedi galw’r cais hwn i mewn yn swyddogol.
Yr angen i feddwl yn gydlynol
O ystyried y byddai’r cynnig Aberwysg wedi allyrru swmp enfawr o 1,550,000 tunnell o CO2 y flwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf, diolch byth bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu mor gyflym! I roi’r allyriadau posibl hyn mewn cyd-destun, byddent gyfwerth ag ychwanegu 68% arall o allyriadau ceir Cymru ar ben allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol Cymru.
O ystyried pa mor fawr yw’r dasg o leihau allyriadau hinsawdd yn gyffredinol, y peth olaf y dylem ei wneud yw ychwanegu llwyth enfawr o allyriadau pellach. Gobeithio nawr y bydd Llywodraeth Cymru’n penderfynu gwrthod caniatâd i’r cynnig. Ar ôl ei chyhoeddiad diweddar o foratoriwm ar losgyddion ar raddfa fawr, does dim modd cymeradwyo’r cynnig… nac oes?
Gyda phob awdurdod lleol yng Nghymru bellach wedi paratoi eu cynlluniau ‘datgarboneiddio erbyn 2030’ eu hunain, mae penderfyniadau’n hanfodol, yn ogystal â’r angen i bawb feddwl yn gydlynol. Does dim pwynt i’r ‘llaw chwith’ gynllunio i ddatgarboneiddio’n llwyr os yw’r ‘llaw dde’ yn cymeradwyo ffynonellau allyriadau enfawr newydd.
Yn yr un modd, os yw awdurdodau lleol yn bwriadu gweithredu go iawn ar newid hinsawdd, ni allant anwybyddu galwadau i dynnu eu harian allan o fuddsoddiadau tanwyddau ffosil, ac mae angen i Gronfeydd Pensiwn Awdurdodau Lleol (CPALlau) wrando ar gynghorau pan maent yn galw am ddadfuddsoddi. Er gwaethaf llawer iawn o bwysau ar y cynghorau hyn dros y 4 neu 5 mlynedd ddiwethaf, byddech chi’n synnu faint o gynghorau sydd wedi bod yn amharod i drafod a phleidleisio ar ddadfuddsoddi. Yn syml, mae rhai ohonynt yn anwybyddu’n fwriadol.
Ac wrth gwrs, nid yn unig y cynghorau sydd ar fai, mae llawer o sefydliadau eraill yn talu i mewn i CPALlau. Edrychwch ar dudalennau 74 a 75 Adroddiad Blynyddol CPALl Dyfed i gael syniad o ba fath o sefydliadau eraill sy’n talu i mewn i’r CPALlau hyn a phwy allai benderfynu gofyn i’w cronfa bensiwn eu hunain ddadfuddsoddi. Fodd bynnag, nid ydym yn clywed ganddyn nhw o gwbl. Mae llawer iawn o bobl eraill yn anwybyddu’r broblem hon a phenderfyniadau gwael, neu ddim penderfyniadau o gwbl, yn cael eu gwneud.
Felly, beth am archfarchnadoedd ac oergelloedd? Mae gwirfoddolwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Joe Cooke, wedi edrych yn fanwl ar effaith archfarchnadoedd yn gwrthod rhoi drysau ar eu hoergelloeddac effaith hyn ar yr hinsawdd. Peth bychan a syml iawn sy’n dal i gael ei wrthod gan archfarchnadoedd. Pam? Maent yn meddwl y byddant yn colli cwsmeriaid wrth roi drysau ar eu hoergelloedd - gwarthus!! Wrth gwrs, gallaf drafod am oes enghreifftiau fel hyn yn ddiweddar ac yn hanesyddol.
Maent yn dangos bod angen newid diwylliant (ac nid y fath newid a achosir gan newid hinsawdd!) o ran sut mae rhai pobl mewn cyrff cyhoeddus a sefydliadau yn ystyried eu rolau newid hinsawdd, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Felly, a oes modd datrys hyn?
Oes efallai.
Yr achos dros Lythrennedd Carbon
Mae prosiect diddorol ym Manceinion o’r enw Carbon Literacy.
Maent yn nodi: ‘Mae Llythrennedd Carbon yn golygu bod yn ymwybodol o effaith gweithgareddau bob dydd ar yr hinsawdd, a gwybod pa gamau all gael eu cymryd i leihau allyriadau fel unigolyn, grŵp cymunedol neu sefydliad, a pham ei bod hi’n bwysig i ni i gyd gymryd y camau hyn. Gall gweithredoedd unigolion wneud gwahaniaeth, ac maent yn gwneud gwahaniaeth. Mae modd i ddysgwyr sydd wedi cwblhau gwerth dydd o ddysgu Llythrennedd Carbon cymeradwy ennill tystysgrif Llythrennog Carbon.’
Mae rhai cynghorau a sefydliadau eraill eisoes yn ymgymryd â’r hyfforddiant hwn. Y syniad canolog mewn gwirionedd yw, unwaith yr ydych yn gwybod am effeithiau eich camau gweithredu ar newid hinsawdd, does dim modd eu hanghofio. Gobeithio y bydd hyn yn gwella ymwybyddiaeth o gamau gweithredu a phenderfyniadau.
Oni fyddai’n ddefnyddiol i bob cyngor, cyrff cyhoeddus eraill a chyrff cysylltiedig megis y cronfeydd pensiwn hyn fynd ar yr hyfforddiant Llythrennedd Carbon?
A fyddai hyn yn arwain at benderfyniadau gwell neu waeth ar yr hinsawdd? Gwell siŵr o fod! A fyddai’n debygol o arwain at fwy neu lai o allyriadau? Llai mae’n siŵr! A fyddai’n hawdd neu’n anodd ei wneud? Yn bendant, ni fyddai mor anodd â cheisio datrys planed sy’n cynhesu’n gyflym iawn!
Gyda thrafodaethau newid hinsawdd COP26 y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow’n nesáu tuag at ddiwedd y flwyddyn, byddai’n amser da i holl staff a swyddogion cyhoeddus mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru benderfynu ymgymryd â’r hyfforddiant llythrennedd carbon hwn.
Wrth gwrs, mae perygl mai dim ond yn yr ardaloedd lleol neu’r sectorau penodol y mae penderfyniadau gwael yn digwydd sy’n gwybod amdanynt, ac yna cânt eu hanghofio ychydig fisoedd yn ddiweddarach wrth i ni i gyd symud ymlaen gyda’n bywydau. Fodd bynnag, beth os bydden ni’n cadw cofnod o’r holl benderfyniadau, pwy sy’n eu gwneud nhw, a beth yw’r effaith gronnol o ran allyriadau carbon?
Dwi’n amau y byddem i gyd yn cael ein synnu.
Mae’r enghreifftiau uchod yn rhai ddaeth i’m meddwl gan eu bod nhw wedi digwydd yn eithaf diweddar.
A bydden i’n fodlon betio nad dyma’r unig benderfyniadau rhyfedd a diangen a wnaed yng Nghymru’n ddiweddar fydd yn cynyddu ein hallyriadau.
Sôn am hynny, un peth arall, mae’n hen bryd i ni stopio cymorthdalu’r cysylltiad awyr gogledd-de yma yng Nghymru. Go brin bod hynny’n cyd-fynd â tharged sero-net Cymru!
Mae hi’n amser gwneud penderfyniadau gwell.