Cynllun Pensiwn ACau yn symud oddi wrth danwyddau ffosil
Published: 24 May 2020
Mae hyn yn dilyn cyfarfodydd adeiladol gydag Aelodau Cynulliad, y Bwrdd Pensiwn a'u cynghorwyr ariannol.
Dywedodd y llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru, Bleddyn Lake:
"Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir a groesewir yn fawr, ac mae'n golygu bod Cynllun Pensiwn yr ACau yn gyson â thros 1000 o sefydliadau ledled y byd sydd wedi addo i roi'r gorau i fuddsoddi eu pensiwn a buddsoddiadau eraill mewn cwmnïau tanwydd ffosil sy'n dinistrio'r hinsawdd.
"Mae ein hymgyrch wedi derbyn cefnogaeth sylweddol gan filoedd o bobl ledled Cymru sydd wedi ysgrifennu at eu Haelodau Cynulliad, neu wedi cwrdd â nhw, i ofyn iddynt gefnogi ein galwad i ddadfuddsoddi.
“Mae nifer fawr o Aelodau Cynulliad o bleidiau gwleidyddol gwahanol wedi cefnogi ein galwad yn gyhoeddus a hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.
"Ond mae llawer i'w wneud o hyd ac rydym yn ailadrodd ein galwad i holl gyrff cyhoeddus Cymru dynnu eu buddsoddiadau allan o'r cwmnïau tanwydd ffosil hyn. Mae'n gwneud synnwyr o safbwynt ariannol a moesegol, ac nid oes gennym amser ar ôl i osgoi'r gwir, edrych i ffwrdd a rhoi pen yn y tywod lle mae'r penderfyniadau hyn yn y cwestiwn.
"Yfory bydd Cyngor Ceredigion yn cymryd eu pleidlais eu hunain ar ddadfuddsoddi, a gobeithiwn y byddant yn ymuno â Chynllun Pensiwn yr ACau i wneud yr wythnos hon yn wythnos galonogol yng Nghymru yn y frwydr yn erbyn anhrefn hinsawdd fyd-eang."
Mae'r Bwrdd Pensiwn wedi cytuno i symud 15% o asedau'r Cynllun, oddeutu £6 miliwn, i gronfa adenillion cynaliadwy, gan weld buddsoddiadau'r Cynllun yn y sector olew a nwy yn gostwng oddeutu 30% i oddeutu 1.99%. Mae hefyd wedi mabwysiadu polisi i ostwng buddsoddiadau'r Cynllun yn y sector olew a nwy i sero dros gyfnod o bum mlynedd, yn amodol ar argaeledd cyfryngau buddsoddi addas dros y cyfnod hwnnw, o ystyried maint y Cynllun.