Cynigion bysiau trawsnewidiol yn gwneud trafnidiaeth yn decach a gwyrddach

Published: 1 Apr 2022

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawu papur gwyn Llywodraeth Cymru, ‘Un Rhwydwaith, Un Amserlen, Un Tocyn: Cynllunio Bysiau fel Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru’, a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 31 Mawrth).
Photo of Haf Elgar
Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Gan ymateb i’r papur gwyn, dyma a ddywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Rhaid inni newid y ffordd y teithiwn – mae trafnidiaeth yn gyfrifol am un rhan o bump o allyriadau carbon Cymru ac rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd. Bydd y cynigion yma’n sicrhau bod bysiau Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni hyn mewn ffordd deg.

“Ers gormod o amser, mae bysiau wedi bod yn wasanaeth ‘Sinderela’ yng Nghymru, er eu bod yn cludo teirgwaith yn fwy o deithwyr na threnau ac er mai dyma’r unig opsiwn ar draws rhan helaeth o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

“Os ydym am alluogi pobl i adael eu ceir gartref, a chynnig opsiwn teithio hygyrch a fforddiadwy i’r 23% o bobl yng Nghymru sydd heb fynediad at gar, rhaid inni roi trefn ar ein bysiau – a chreu rhwydwaith go iawn.

Er mwyn gwireddu hyn, rhaid i fysiau fod yn hawdd i'w defnyddio, yn hygyrch, a rhaid cael cysylltiadau da fel rhan o un rhwydwaith, gydag amserlen integredig ac un tocyn syml, rhad.

“Trwy gyfuno teithio llesol ar gyfer siwrneiau byrion gyda thrafnidiaeth gyhoeddus integredig ar gyfer siwrneiau hirach, bydd ein system drafnidiaeth yn decach i bobl ac i’r blaned – a thrwy ddefnyddio bysiau trydan yn lle ein fflyd o fysiau diesel budron, gallwn gymryd teithiau pellach heb niweidio ein hinsawdd.

“Mae gan y newidiadau a gynigir yn y papur gwyn hwn y potensial i weddnewid pethau – a gorau po gyntaf y cân nhw eu rhoi ar waith.”

Fel y sonnir mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Gyfeillion y Ddaear yn 2020, mae gan ganton Zurich yn y Swistir fysiau a threnau mwy mynych ar ôl cyflwyno trefn ‘un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn’.

Mae’r papur gwyn hwn yn adeiladu ar y strategaeth drafnidiaeth newydd – sef Llwybr Newydd – a lansiwyd y llynedd, ac mae’n arwydd o ddechreuad a chyfeiriad newydd ar gyfer polisi trafnidiaeth yng Nghymru.

 

Share this page