Strategaeth drafnidiaeth Cymru - ein hymateb

Published: 23 Nov 2020

Mae strategaeth drafnidiaeth ddrafft Cymru yn rhoi gobaith i ni ar gyfer system drafnidiaeth sy'n fwy teg i bobl a'r blaned.

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi rhoi croeso cynnes i strategaeth drafnidiaeth ddrafft newydd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw (17 Tachwedd 2020).  

Mae 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Newydd Cymru' yn gosod gweledigaeth ar gyfer 'system drafnidiaeth gynaliadwy, hygyrch' sy'n 'dda i bobl a chymunedau' ac yn 'dda i'r amgylchedd.' 

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi adroddiad a gomisiynwyd gan Gyfeillion y Ddaear Cymru yn gynharach eleni, a oedd yn amlinellu cynlluniau i ailwampio'r system drafnidiaeth yn sylweddol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

 

Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:  

"Mae sector trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am gyfran gynyddol o allyriadau sy'n niweidio hinsawdd ein cenedl. Mae'n wych gweld mai lleihau allyriadau yw'r flaenoriaeth gyntaf. Mae hyn yn arwydd clir bod pobl yn cymryd yr argyfwng hinsawdd o ddifrif, a'i fod yn flaenoriaeth yn strategaeth drafnidiaeth Cymru, sef yr hyn y dylai fod.” 

 

"Mae'r strategaeth newydd yn addo cychwyn newydd i'r ffordd rydym yn edrych ar deithio a thrafnidiaeth yng Nghymru.

"Mae'n newid mawr oddi wrth flaenoriaethu'r defnydd o geir a gwario ar adeiladu ffyrdd - ac yn hytrach, mae'n blaenoriaethu cerdded a beicio, a buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus.

"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain y ffordd at system drafnidiaeth fwy teg a gwyrdd, sy'n gweithio i bobl a'r blaned." 

"Mae angen gweithredoedd arnom a fydd yn cyflawni'r uchelgeisiau a blaenoriaethau hyn - bydd hyn yn cynnwys trawsnewid ein system drafnidiaeth, gan gynnwys rhwydwaith o draffyrdd beicio, trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i hintegreiddio'n llawn i greu un rhwydwaith, un amserlen ac un tocyn, fel sydd ar gael yn y Swistir, a chyflwyno safonau gwasanaeth er mwyn i bobl elwa o amseroedd bysiau a threnau mwy rheolaidd, lle bynnag maent yn byw yng Nghymru."

Share this page