Faint yn fwy cynhwysol yw beicio erbyn hyn?

Published: 7 Sep 2021

Sam Farnfield

Gan Sam Farnfield
Uwch Swyddog Pedal Power

Mae llawer mwy ohonon ni’n beicio o amgylch ein trefi a'n dinasoedd ar lonydd beicio cynyddol, ond i ba raddau y mae beicio wedi dod yn fwy cynhwysol dros y pandemig? Mae Sam Farnfield, Uwch Swyddog Pedal Power, elusen wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, yn edrych ar beth mae’r term 'beicio cynhwysol' yn ei olygu, a faint yn nes ydyn ni at wireddu'r term yng Nghymru.

Mae'n ymddangos ein bod ni ar fin gallu ailgydio yn y gweithgareddau hynny rydyn ni’n eu mwynhau fwyaf. Fe groeswn ein bysedd. 

Beth mae'r flwyddyn ddiwethaf a’r misoedd lawer o gyfnodau clo wedi'i ddangos i ni yn y byd beicio cynhwysol? Dyma fy safbwynt i o weithio yn Pedal Power, elusen beicio cynhwysol yng Nghaerdydd. 

Mae'n wych gweld bod cymaint mwy o bobl yn beicio o amgylch ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd, ac, i'r rhan fwyaf ohonon ni, mae'n debyg ei bod yn haws beicio nag erioed o'r blaen.

 

'Fe all ac fe ddylai beicio fod yn rhywbeth i bawb' 

Ond a yw beicio wedi dod yn fwy cynhwysol ar ôl y cyfnod clo mewn gwirionedd? Oherwydd, wrth i ni gymryd camau i wneud ein gwlad yn fwy cyfeillgar i feicwyr, mae'n bwysig cofio y gall ac y dylai beicio fod yn rhywbeth i bawb.

 

Beth yw beicio cynhwysol?

Efallai eich bod wedi clywed y term 'beicio cynhwysol' ond beth mae'n ei olygu'n union? Wel, pan fydd cymaint o bobl â phosibl yn cael y cymorth a'r cyfle i feicio – pobl o bob oed ac o bob gallu. Yn ymarferol, mae'n darparu'r amodau cywir drwy gymorth, gwybodaeth, arbenigedd, offer arbenigol a digonedd o amser a hwyl i helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau beicio.

Os na wnaethoch chi erioed ddysgu beicio neu, fel oedolyn, rydych chi’n dioddef o ddiffyg hyder yn sgil profiad beicio gwael, yna efallai y bydd angen help a chefnogaeth arnoch chi i fynd ar feic. Os byddai plentyn awtistig wrth ei fodd yn dysgu reidio beic dwy olwyn, yna byddai hynny’n bosibl gydag amser a gwybodaeth arbenigol. 

I'r rhai ag anawsterau dysgu, efallai mai treic fyddai’r dewis gorau, tra bod treiciau ochr-yn-ochr yn arbennig o addas i rywun sy'n byw gyda dementia, gan eu galluogi i gael cymorth a sgwrs wrth fynd ar eu cyflymder eu hunain. 

Os ydych yn gwella ar ôl cael strôc, efallai y bydd angen addasu treic gorweddol i gyd-fynd â'ch anghenion. Er enghraifft, byddai pedal cynorthwyol a choes gynhaliol ar un ochr yn eich helpu i deimlo'n gyfforddus, ac ar yr ochr arall byddai eich brêcs a’ch gêrs i gyd wedi'u gosod i gynorthwyo beicwyr sydd â gwendid mewn un ochr. 

Os ydych mewn cadair olwyn, gellir gosod y gadair ar dreic cargo llwytho-blaen fel y gall eich ffrind, gofalwr neu aelod o'ch teulu fynd â chi am dro hamddenol o amgylch y parc. 

Mae'r rhestr yn un faith iawn, ond rwy'n gobeithio y bydd hyn yn eich procio chi i feddwl am feicio cynhwysol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y bobl sy'n beicio ar ddwy olwyn. Penderfynodd llawer o bobl – er nad oedden nhw wedi beicio o'r blaen neu heb feicio ers amser maith – fynd am ‘sbin’.  

Rwy’n meddwl bod llawer o bobl wedi darganfod neu ail-ddarganfod manteision niferus beicio – mae'n ffordd wych o gadw'n heini ac mae'n dda i'ch lles meddyliol yn ogystal â'ch iechyd corfforol. 

 

Gwella isadeiledd 

Hefyd, fe welson ni isadeiledd yn codi o amgylch trefi a dinasoedd, yn sicr yma yng Nghaerdydd. Erbyn hyn gall beicwyr deithio ar draws y ddinas ar rwydwaith o lonydd beicio newydd sy'n igam-ogamu drwy’r ddinas fel gwythiennau. Mewn rhai llefydd, mae setiau newydd o oleuadau wedi’u gosod yn arbennig ar gyfer beicwyr ac, mewn mannau, llwybrau tarmac llydan llyfn. Mae'n ddyddiau cynnar, ond mae'r llwybrau newydd hyn yn gwneud beicio'n fwy hygyrch, gan roi opsiynau saff a diogel i feicwyr deithio mwy – llawer mwy nag oedden nhw’n gallu teithio o’r blaen.

Ond er y gallai llwybr sy'n 98% hygyrch swnio'n dda, nid yw’n hygyrch o gwbl i feicwyr anabl, sy’n golygu na allant fynd arno o gwbl. 

Dychmygwch eich bod yn gwella ar ôl cael strôc, ac yn reidio treic gorweddol, sy'n rhoi rhyddid ac annibyniaeth i chi a’ch bod yn dibynnu arno i adfer eich cryfder, eich cael chi allan o'r tŷ, a'ch cadw chi’n symud. Gallai dod oddi ar dreic heb gymorth fod yn eithaf anodd i chi, felly fe allech fod yn beicio gyda'ch cymar neu ffrind a gorfod mynd i’r afael â threic 2-fedr o hyd. 

Nid yw llwybrau sy'n culhau i lai na medr, neu sydd â rhwystrau gosod neu ‘fframiau-a” tynn yn gyfeillgar i dreiciau. Mae’r un peth yn wir am llwybrau sy’n eich taflu chi allan ar ffordd A heb roi lle i chi droi neu stopio a thynnu i’r ochr. Felly, yn esgidiau'r beicwyr hynny, a fyddech chi'n dewis llwybr sy’n rhy gul i’ch beic fynd  drwyddo, yn enwedig os na fyddech chi'n gallu troi'n ôl mewn man cyfyng? Na. Dylai isadeiledd fod yn hawdd ei ddefnyddio yn hytrach na’n rhywbeth sy’n rhwystro neu godi cywilydd ar ei ddefnyddwyr. 

Nawr dychmygwch eich bod yn defnyddio cadair olwyn, ac yn croesi'r ffordd wrth y goleuadau. Rydych chi'n defnyddio'r cwrb gostwng ac yn dilyn y llinellau wedi'u paentio, ond pan fyddwch chi'n cyrraedd yr ochr arall does dim gostwng yno, sy’n golygu eich bod chi’n sownd ar y lôn ac yn gorfod dod o hyd i ffordd o droi'n ôl yn ddiogel. Yn ffodus, mae hyn yn llai tebygol o ddigwydd y dyddiau hyn.

Ond mae'r neges yn glir – mae llwybr hygyrch yn 100% hygyrch neu nid yw'n hygyrch o gwbl. Ffaith. 

Picture of an A frame on a cycle path

 

 

'Cynllunio ar gyfer dyfodol o feicio cynhwysol'

 

Mae isadeiledd yn gwella i bob beiciwr ac mae hynny'n beth da, ond fe ddylen ni gynllunio ar gyfer dyfodol o feicio cynhwysol lle mae mwy o dreiciau, beiciau llaw a thandemau i’w gweld ar strydoedd Prydain.

Mae sawl rheswm pam nad ydych chi’n n gweld llawer o dreiciau, tandemau a beiciau wedi'u haddasu ar strydoedd Prydain.

Yn gyntaf, mae'r treiciau hyn yn ddrud, ac yn aml ni ellir didynnu TAW oddi arnyn nhw fel cymorth symudedd, hyd yn oed os ydych wedi'ch cofrestru'n anabl. Mae modd prynu treiciau drwy rai cynlluniau ‘beicio i'r gwaith’, ond nid yw llawer o bobl sydd â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor mewn gwaith.

A hyd yn oed os gallwch chi fforddio prynu treic, byddwch angen lle i'w storio arnoch chi. Allwch chi ddim halio un i fyny’r grisiau i'ch fflat na'i adael y tu allan wedi'i glymu ar bostyn lamp! Y rheswm mwyaf tebygol pam eich bod yn reidio un o’r beiciau hyn yw am fod gennych chi broblem symudedd, ond er mwyn gwella eich symudedd mae’n rhaid i chi ddefnyddio beic sy'n drymach ac yn fwy beichus ar y cyfan na beic dwy olwyn arferol. 

  

 

'Dylai llogi treiciau fod yn haws' 

Gallwch logi treic yn Pedal Power ac mewn gwirionedd dylid gallu llogi neu fenthyg un ym mhob dinas ym Mhrydain, ond yn anffodus nid ydyw. Wrth gwrs, mae yna ganolfannau ledled Prydain, ond nid ym mhob tref neu ddinas. 

Yn ystod y cyfnod clo, fel llawer o sefydliadau sy'n gyfrifol am gefnogi pobl sy'n agored i niwed, bu’n rhaid i Pedal Power gau oherwydd pryderon diogelwch. Oherwydd hyn, methodd ein defnyddwyr gwasanaeth â gwneud unrhyw feicio cynhwysol am amser hir, gan golli cyfleoedd i ymarfer corff, cymdeithasu a bod yn rhan o gymuned gyfeillgar a chefnogol. 

Erbyn hyn, rydyn ni ar agor 6 diwrnod yr wythnos, yn cynnig beicio i bawb drachefn. Mae ein sesiynau hyfforddi a dysgu beicio a  hybu hyder yn cael eu cynnal unwaith eto, a’n gweithdy yn trwsio beiciau ac yn adeiladu treiciau newydd. Hefyd, bydd ein caffi hygyrch, a gaeodd yn ôl ym mis Mawrth 2020, yn ailagor yn fuan! 

Mae gen i deimlad y bydd beicio cynhwysol yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn ystod  y flwyddyn nesaf. Mae gan Pedal Power brosiectau sy'n ailgychwyn a fydd yn galluogi beicwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd i fwynhau holl fanteision beicio. Rydyn ni’n edrych ar y posibilrwydd o weld mwy o e-feiciau yn cael ei reidio yng Nghaerdydd er mwyn arddangos manteision beicio cynhwysol ymhell ac agos.

 

Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn Pedal Power yr haf hwn, felly chwiliwch amdanon ni. Dilynwch ni ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol arferol i gael blas ar feicio cynhwysol, dewch o hyd i'ch elusen neu sefydliad lleol ac efallai wirfoddoli neu drydar neu sgwrsio am y posibiliadau sydd ar gael i ffrindiau a theulu. Mae Pedal Power bob amser yn hapus i helpu, ateb cwestiynau a rhannu; dyma'r ffordd i annog mwy o bobl i feicio a deall fod mwy i feicio na dwy olwyn.

 

Share this page