Adroddiad panel adolygu ffyrdd - ein hymateb
Published: 14 Feb 2023
Yn ymateb i adroddiad y Panel Adolygu Ffyrdd, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae’r adroddiad arloesol yma yn chwa o awyr iach sy’n addewid o ddyfodol gwyrddach a thecach i drafnidiaeth yng Nghymru. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dangos eu bod o ddifri am daclo’r argyfwng hinsawdd.
“Rhaid i ni dorri’r patrwm o adeiladu mwyfwy o ffyrdd ar gyfer rhagor o geir – mae hyn dim ond yn arwain at ragor o dagfeydd, llygru ein aer, a chynyddu’r allyriadau sy’n dinistrio’n hinsawdd.
“Er mwyn y blaned a’n iechyd, mae angen buddsoddi mewn gwell llwybrau cerdded a beicio, a gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus llawer iawn gwell hyd a lled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, i’w wneud yn haws i bobl adael y car adre.”