Llunio dyfodol cyfrifol i dyfwyr

Published: 14 May 2025

Andy Smith

Andy Smith, Rheolwr Cleientiaid, Cymdeithas Tyfwyr Prydain 

Wrthi’n gwneud ychydig o waith yn eich gardd neu randir? Mewn penbleth o ran pa gompost i’w ddefnyddio? Darllenwch flog Andy Smith i gael rhywfaint o atebion.

 

Soil
Llun gan Gabriel Jimenez ar Unsplash

A ninnau ar drothwy’r haf wedi gwanwyn bendigedig, mae sawl un ohonom yn brysur yn ein gerddi.  

Ond pa fath o gynhyrchion ddylem ni fod yn ystyried eu defnyddio i dyfu pethau? Os ydych wedi bod yn pendroni dros ba gynhyrchion sy’n fwy cynaliadwy, a pha rai sydd â’r ôl-troed amgylcheddol lleiaf yn gyffredinol, yna efallai mai gan y System Gyrchu Gyfrifol / ‘Responsible Sourcing System’ (RSS) y mae’r atebion. 

 

Accredited member responsible sourcing scheme

 

 

Mae’r System Gyrchu Gyfrifol (RSS) ar gyfer cyfryngau tyfu yn gynllun a arweinir gan y diwydiant, sy’n annog cwsmeriaid i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch effaith y cynhyrchion a brynir ac a ddefnyddir ganddyn nhw fel cyfryngau tyfu (fel compost amlbwrpas er enghraifft) o safbwynt yr amgylchedd. Darperir system oleuadau traffig sy’n hawdd i’w deall i gwsmeriaid, sy’n eu grymuso i allu cymharu’r graddiad cyfrifoldeb amgylcheddol yn rhwydd, gan eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus. Gall y cwsmer fod yn hyderus, ar yr olwg gyntaf, bod cynnyrch sydd wedi’i raddio’n ‘A’ gwyrdd wedi’i gyrchu mewn modd mwy cyfrifol na chynnyrch sydd wedi’i raddio’n ‘C’ melyn.

 

Traffic light system for growing media

 

Pam gafodd y system hon ei chreu? 

Roedd angen i’r diwydiant garddwriaeth ddatblygu ac arloesi yn sgil y cynnig a gynlluniwyd gan y Llywodraeth i wahardd defnyddio mawn yn y sector garddio amatur. Gan fod bwriad i fynd ati’n raddol i roi’r gorau i ddefnyddio mawn o fewn cyfryngau tyfu, byddai swbstradau eraill yn cael eu defnyddio, ac roedd yn hanfodol bwysig i asesu cynaliadwyedd yr hyn y byddid yn ei ddefnyddio yn lle mawn. Nid oedd yn fater mor syml â dod i gasgliad bod dewisiadau eraill yn lle mawn, fel rhisgl coconyt neu risgl arferol, yn gynaliadwy, dim ond oherwydd nad mawn oedden nhw. Byddai angen asesu pob swbstrad y gellid ei ddefnyddio fel cyfrwng tyfu mewn modd cyfartal, yn erbyn set gaeth o feini prawf. Ar ôl 10 mlynedd o waith datblygu, ynghyd â gweithio mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol yn y diwydiant, a DEFRA, lansiwyd y System Gyrchu Gyfrifol yn 2022.

 

Pa effaith a gafodd hi? 

Ers ei chreu, mae’r RSS wedi cymryd camau sylweddol ymlaen o ran hyrwyddo cyfrifoldeb amgylcheddol ymhlith y rheiny sy’n gweithio gyda’r sector cyfryngau tyfu, ac oddi mewn iddo. Drwy greu system raddio glir, ar sail tystiolaeth, mae hi wedi gwneud y diwydiant yn llawer mwy tryloyw. Ac mae mawr angen hynny, yn enwedig ar adeg o ansicrwydd o ran swbstradau y gellir eu defnyddio fel cyfryngau tyfu, gan fod y diwydiant yn symud i ffwrdd o ddibynnu ar fawn. Mae gweithgynhyrchwyr, tyfwyr a manwerthwyr sy’n ymuno â’r cynllun nid yn unig yn ymrwymo i’r arferion cynaliadwy hyn, ond hefyd yn gallu arddangos pa mor gyfrifol ydyn nhw o safbwynt amgylcheddol, drwy ddangos logo RSS â balchder, i gwsmeriaid a phartneriaid o fewn y diwydiant.

 

Beth nesaf?

Mae’r RSS yn canolbwyntio ar ehangu’r graddau y gellir ei gyflwyno o fewn y diwydiant cyfryngau tyfu, ynghyd â’i effaith yn y diwedd ar broses benderfynu’r cwsmer terfynol. Drwy ddarparu graddiad clir a thryloyw, mae gan y cwsmer y wybodaeth a fynnir i wneud penderfyniad mwy cyfrifol o ran prynu. Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei gryfhau drwy ragor o newidiadau yn y dyfodol, yn enwedig o ran cynyddu dyfnder rhai o’r meini prawf o safbwynt graddio. Er enghraifft, oherwydd cymhlethdod y data, mae’r meini prawf o ran ynni’n cael eu sgorio drwy fesur yr ynni a ddefnyddiwyd yn ystod y broses gynhyrchu. A thra bo hwn yn fodd effeithiol a chywir iawn i fesur yr effaith o ran ynni, y nod yn y dyfodol yw mynd ati hefyd i fesur yr effaith o ran carbon, yn unol â hynny. 

Yn ogystal â’r newidiadau uchod y gobeithir eu cyflawni, mae’r cynllun hefyd yn gweithio gyda’r gweithgynhyrchwyr ymhlith ei aelodau i gryfhau’r meini prawf P7 ar gyfer profi. Mae’r meini prawf P7 (y gellir eu gweld yma - https://www.responsiblesourcing.org.uk/key-documents) yn gofyn i’r gweithgynhyrchwyr ymhlith aelodau’r cynllun ddangos tystiolaeth bod y cynnyrch a werthir ganddyn nhw fel cyfrwng tyfu yn gyfrwng tyfu effeithiol. Mae’r P7 yn amlinellu’r dull, yn profi’r weithdrefn a’r cnydau, ymhlith manylion eraill, ac mae’r canlyniadau’n cael eu hasesu gan archwilydd annibynnol y cynllun. Mae effeithiolrwydd cynhyrchion a ddefnyddir fel cyfryngau tyfu yn hanfodol i’r cwsmer, yn enwedig ar hyn o bryd, pan mae swbstradau newydd o ran cyfryngau tyfu yn cael eu defnyddio mewn cyfuniad o ffyrdd, fel rhywbeth yn lle mawn. Mae’n hanfodol bwysig i’r cwsmer bod y cynnyrch nid yn unig yn gynaliadwy o safbwynt amgylcheddol, ond hefyd yn gweithio. Wedi’r cwbl, mae cwsmeriaid hapus a gwybodus, sy’n gallu mynd ati’n llwyddiannus i dyfu’r planhigion neu flodau a fynnir ganddyn nhw, yn wych ar gyfer y diwydiant yn ei gyfanrwydd.

 

Pwy sy’n aelodau ar hyn o bryd? 

Mae’r RSS yn amcangyfrif bod 90% o weithgynhyrchwyr cyfryngau tyfu, ar sail cyfaint y deunydd hwn, yn rhan o’r cynllun. Ar y cyd â sylfaen gadarn o aelodau sy’n dyfwyr ac yn fanwerthwyr, bydd hyn yn caniatáu fframwaith llwyddiannus ar gyfer twf yn y dyfodol. Gellir gweld rhestr gyfredol o aelodau’r RSS ar wefan yr RSS, a bydd aelodau ychwanegol yn cael eu hychwanegu yn ystod 2025. Am ddiweddariadau, ewch i www.responsiblesourcing.org.uk.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag [email protected]

QR code for Responsible Sourcing Scheme

 

 

Share this page