Diwygio trafnidiaeth yw’r allweddol i ddatrys yr argyfwng hinsawdd
Published: 1 Dec 2022
Mae’r Transport Action Network yn ymladd i roi terfyn a’r obsesiwn Llywodraeth y DU gydag adeiladu ffyrdd sy’n mynd yn fwy o hyd, ynghyd â’r modd y mae’r rheiny sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd.
Lle ydym ni arni erbyn hyn?
Mae asesiad digalon gan y Cenhedloedd Unedig, a gyhoeddwyd cyn COP27, yn awgrymu “nad oes llwybr credadwy” i gadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd yn is na’r trothwy allweddol o 1.5C. Dywed yr adroddiad, ers COP26 y llynedd, y bu cynlluniau llywodraethau ar gyfer lleihau allyriadau carbon yn “druenus o annigonol”.
Mae’r heriau hyn yn rhai byd-eang, ond cyfrifoldebau llywodraethau ar lefel genedlaethol a lleol yw chwarae eu rhan. Rhaid i’r newid hwn ddigwydd mewn sawl modd, ac ar draws pob sector.
Yn y DU, mae allyriadau o drafnidiaeth yn cyfrif am 24% o gyfanswm yr allyriadau, sy’n golygu mai hwn yw’r sector sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r allyriadau. Yng Nghymru, trafnidiaeth yw’r trydydd uchaf o blith y sectorau sy’n allyrru fwyaf, sy’n cyfrif am 17% o gyfanswm yr allyriadau, y mae 55% ohonynt o geir preifat.
Yr heriau
Mewn sawl rhan o Gymru, mae mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig, ac yn lle mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, mae honno’n aml o ansawdd wael, a/neu’n ddrud. Gwelwyd cynnydd o 3.5% mewn prisiau tocynnau bws o 2019 i 2020 yn unig, a chafwyd cynnydd o 3.8% ym mhrisiau tocynnau trên yn 2022. Hefyd, rhwng 2019 a 2020, mae Cymru wedi dioddef yn sgil colli 690 o safleoedd bws (tua 3%), sy’n ei wneud yn hyd yn oed anoddach i ddal bws.
Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn wrthreddfol, gyda rheidrwydd i fynd allan o’ch ffordd yn gyfan gwbl i Loegr er mwyn teithio rhwng y gogledd a’r de. I gymhlethu’r sefyllfa, nid yw’r gwasanaethau rheilffyrdd ond wedi’u datganoli’n rhannol (dim ond rheilffyrdd craidd y cymoedd sy’n dod o dan awdurdodaeth y Llywodraeth), ac mae Cymru wedi colli allan bob yn dipyn o safbwynt buddsoddi yn ei rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU.
Mae teithio llesol wedi derbyn buddsoddiad sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond mae’r rhwydwaith o lwybrau beicio a cherdded diogel yn dal i fod wedi’u cyfyngu’n ormodol i ardaloedd lleol, ac yn rhy wasgarog i hybu unrhyw newid radical mewn ymddygiad. Yn ogystal, er mwyn i’r newid hwn barhau, mae angen blaenoriaethu trafnidiaeth gynaliadwy, yn hytrach na’i gwthio i’r cyrion fel y mae ar hyn o bryd, o fewn y system gynllunio.
Mae hyn wedi creu sefyllfa lle mae llawer o bobl, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru, yn ddibynnol ar eu car, sydd â’i set ei hun o broblemau. Yn y mwyafrif o ardaloedd yng Nghymru, mae 40-50% o aelwydydd yn gwario mwy na 10% o’u hincwm ar gostau rhedeg car.
Yr atebion
Tra bo’r sefyllfa gyfredol yn ddrwg, o safbwynt gwleidyddol, mae’r sefyllfa’n barod am newid. Pan ddaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford i rym yn 2020, un o’i benderfyniadau mawr cyntaf oedd rhoi'r gorau i'r cynllun i adeiladu ffordd liniaru'r M4 ar sail amgylcheddol, a sefydlodd gomisiwn i edrych ar gynlluniau amgen. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth drafnidiaeth newydd sy’n addo gostyngiadau mawr mewn allyriadau o drafnidiaeth dros yr 20 mlynedd nesaf. Gosododd darged i gyflawni 45% o deithiau trwy drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio erbyn 2040, a sefydlodd hierarchaeth trafnidiaeth gyhoeddus sydd wrth wraidd pob penderfyniad sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.
O fewn y cabinet presennol, daw trafnidiaeth o fewn Gweinyddiaeth y Newid yn yr Hinsawdd, ac arweinir y portffolio gan Lee Waters, a fu gynt yn Ddirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.
Adolygiad Ffyrdd Cymru
Yn haf 2021, sefydlodd Lee Waters banel adolygu annibynnol i edrych ar bob prosiect adeiladu ffyrdd mawr nad yw wedi cychwyn eto. Caiff y rhain eu hasesu yn ôl y graddau y maent yn cyd-fynd ag amcanion y llywodraeth o safbwynt y newid yn yr hinsawdd, ynghyd â’i hymrwymiadau yng nghyswllt cyflawni sero net. Mae hyn yn arloesol, gan ei fod yn braenaru’r tir ar gyfer newid radical o ran buddsoddi mewn trafnidiaeth, yn hytrach na’r trywydd arferol, sef adeiladu ffyrdd.
Beth nesaf?
Bu oedi cyn cyhoeddi adroddiad y Panel Adolygu Ffyrdd a phenderfyniadau’r Llywodraeth ynghylch pa gynlluniau fydd yn mynd rhagddynt a pha rai fydd yn cael eu canslo. Mae ymateb i argymhellion y Panel yn gymhleth ac mae’r gostyngiad yng ngrym gwario Cymru yn dilyn cwymp ariannol Llywodraeth y DU wedi effeithio arno. Mae cyhoeddiad bellach yn fwyaf tebygol yn y Flwyddyn Newydd.
Mae’n siŵr y bydd ymateb y cyhoedd i’r penderfyniadau hyn yn herio ymrwymiad Llywodraeth Cymru. Disgwyliwn y bydd ffyrdd sy’n cael eu sgrapio yn sicr o ddal y penawdau, ond gobeithiwn y bydd y newid mewn polisi a fydd yn cyd-fynd â hyn yn gosod y paramedrau newydd ar gyfer prosiectau ffyrdd yn y dyfodol. Bydd hyn yn hanfodol ar gyfer adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Yn TAN byddwn yn cadw llygad barcud ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cefnogwyr wrth i'r cyhoeddiadau gael eu gwneud. Gallwch ddarganfod mwy am ein gwaith trwy ymweld â'n gwefan.
Amdanom ni
Sefydlwyd y Transport Action Network yn 2019, ac fe’i rhedir gan chwech o bobl sydd wedi ymrwymo i helpu cymunedau lleol i bwyso am drafnidiaeth fwy cynaliadwy yn Lloegr a Chymru. Mae hyn yn cynnwys ymladd yn erbyn toriadau i wasanaethau bws a rheilffyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ynghyd â gwrthwynebu cynlluniau ffyrdd niweidiol a datblygiadau mawr sy’n anghynaliadwy. Dyna pam yr ydym yn y DU yn mynd ati i herio cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer ffyrdd newydd niweidiol, ar sail yr hinsawdd. Rydym wedi cymryd camau cyfreithiol yn flaenorol yn erbyn y DU.
Gallwch ganfod rhagor am ein gwaith trwy ymweld â’n gwefan.