Adrodd galwadau am siopau cyfnewid gwisg ysgol yn holl ysgolion

Published: 23 Nov 2022

Mae’r adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw (24 Tachwedd 2022) eisiau gwneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy i bobl a grymuso pobl i wneud penderfyniadau cynaliadwy.
School uniform swap shop
Rhai o’r eco-bwyllgor yn Ysgol Gyfun Cynffig o flaen eu siop cyfnewid gwisg ysgol (trwy garedigrwydd Mrs Edwards)

 

Bydd Dillad Cynaliadwy a Thecstilau Cymru (SCTC)1, sef grŵp o fusnesau a sefydliadau o Gymru, yn lansio eu hadroddiad newydd heddiw (Dydd Iau 24 Tachwedd) mewn digwyddiad cyfnewid gwisg ysgol yn Ysgol Gyfun Cynffig ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r adroddiad, sydd â’r teitl Ffasiwn i'r Dyfodol yng Nghymru - ein llwybr at ffasiwn gynaliadwyng Wales’s Future – our path to sustainable fashion and textiles, yn galw ar bob ysgol yng Nghymru i ddarparu siop gyfnewid gwisg ysgol a chit chwaraeon i wneud gwisg ysgol yn fwy fforddiadwy, lleihau’r stigma o ran dillad ail law, a grymuso pobl i wneud penderfyniadau cynaliadwy. 

 

Dywedwch wrth Lywodraeth Cymru eich bod am iddynt gyflwyno cynllun siop cyfnewid gwisg ysgol a chitiau chwaraeon Cymru gyfan

Gweithredu nawr

 

School uniform swap shop

 

Dywedodd Corrie Edwards, athrawes yn Ysgol Gyfun Cynffig:

‘Rydyn ni’n falch iawn o’n siop gyfnewid gwisg ysgol, sydd wedi bod ar waith ers 2019, diolch i’r eco-bwyllgor a wnaeth ein helpu i sefydlu pethau. Mae’n boblogaidd ymysg ein rhieni a gofalwyr, sy’n gwerthfawrogi gallu sicrhau gwisg ysgol ail law o ansawdd da yn rhwydd ac yn rhad ac am ddim. Yn ogystal ag arbed arian, mae hefyd yn helpu i ddileu’r stigma o ran dillad ail law.’ 

 

Dywedodd Bleddyn Lake, Rheolwr Ymgyrchoedd a Datblygu Cyfeillion y Ddaear Cymru, aelod o SCTC:

“O ystyried yr argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd, rhaid inni archwilio beth allwn ni ei wneud yng Nghymru i sicrhau bod ffasiwn yn fwy fforddiadwy i bobl, a ddim yn rhy ddrud o lawer.

“Er nad oes gennym lawer o ddylanwad ar y diwydiant ffasiwn byd-eang, mae rhai pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud i wneud hi’n haws i bobl wneud penderfyniadau cynaliadwy. Rydym yn falch o lansio ein hadroddiad ffasiwn cynaliadwy heddiw yn Ysgol Gyfun Cynffig.

“Mae gan Gymru’r potensial i fod yn arweinydd byd-eang o ran ffasiwn cynaliadwy, ac mae’r adroddiad hwn yn dangos sut y gallwn ddechrau arwain. Un ffordd o wneud hynny yw sicrhau bod gan bob rhiant a gwarcheidwad yng Nghymru fynediad i siop gyfnewid gwisg ysgol a chit chwaraeon.” 

 

Dywedodd Bryony Bromley, Rheolwr Addysg Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae siopau cyfnewid gwisg ysgol yn gwneud gwisgoedd ysgol yn fwy fforddiadwy ac yn grymuso pobl i wneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae’n wych gweld cymaint o ysgolion yn cynnal y siopau cyfnewid hyn. Pe byddai bob ysgol yn agor siop o’r fath, byddai’n helpu i leihau’r stigma o ran dillad ail law. Dyma pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun cenedlaethol.”

 

Ymhlith argymhellion eraill yr adroddiad mae creu Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru er mwyn atal microffibrau plastig rhag llygru tir a chyrsiau dwr o amgylch Cymru a chyflwyno rôl Cyfarwyddwr Ffasiwn Cynaliadwy a Thecstilau newydd yn Llywodraeth Cymru i sicrhau gweithredu ym mhob sector, a hynny yn gydlynol ac yn gweithio i bobl, swyddi, cymunedau a’r amgylchedd yng Nghymru.

Mae Dillad Cynaliadwy a Thecstilau Cymru (SCTC) yn glymblaid o elusennau, busnesau lleol, darparwyr addysg ac unigolion angerddol. Ein cenhadaeth yw arddangos y gwaith ardderchog ac amrywiol sy’n gwneud ffasiwn a thecstilau yn fwy cynaliadwy yng Nghymru, ac ysbrydoli’r rhai all newid pethau i gefnogi’r diwydiant yn well, ei gysylltu’n well a’i wneud yn fwy amlwg yn y genedl. Ymhlith yr aelodau mae: Rhaglen Eco-Ysgolion Cadwch Gymru’n Daclus, Caffi Trwsio Cymru, Ffasiwn Cynaliadwy Cymru, Young Darwinian, Play it Again Sport, a Chyfeillion y Ddaear Cymru.

 

 

Share this page