Rhaid gwrthod cais i ymestyn oes pwll glo ym Merthyr

Published: 11 Oct 2022

Mae gwrthwynebiad yn cynyddu ym Merthyr Tudful ac mewn pentrefi cyfagos ar ôl i drigolion yr ardal ddarganfod cais i ymestyn oes pwll glo brig Ffos y Fran.
Ffos y Fran open cast coal mine in Merthyr Tydfil (photo courtesy of Haf Elgar)
Pwll glo brig Ffos y Fran ym Merthyr Tudful (llun trwy garedigrwydd Haf Elgar)

Os caiff y cais ei ganiatáu, byddai’n arwain at fwy fyth o allyriadau sy’n niweidio’r hinsawdd ac yn cael effaith negyddol ar y gymuned leol a’r amgylchedd naturiol.

Roedd glofa Ffos y Fran i fod i gau ar 6 Medi 2022, ar ôl bod ar waith ers 15 mlynedd. Yn awr, mae Merthyr (South Wales) Ltd, sef y cwmni sy’n berchen ar y safle glo, wedi cyflwyno cais i Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful i ymestyn oes y pwll am 9 mis arall.

 

Os bydd Merthyr (South Wales) Ltd yn llwyddiannus yn ei gais, gallai 240,000 tunnell yn ychwanegol o lo cael ei gloddio, ac mae’r cwmni wedi nodi yn ei gais y bydd yn defnyddio’r amser hwn i baratoi cais cynllunio arall er mwyn gallu cloddio am lo am 3 blynedd arall wedyn - dyna 2.5 miliwn tunnell yn fwy o CO2, mwy na’r holl allyriadau o dryciau trwm a bysys yng Nghymru.

Local campaigners in Merthyr Tydfil October 2022 (photo courtesy of Haf Elgar)
Ymgyrchwyr lleol ym Merthyr Tudful (llun trwy garedigrwydd Haf Elgar)

Dim ond yn ddiweddar y gosodwyd hysbysiadau yn yr ardal, a bellach dim ond mater o ddyddiau sydd gan y trigolion i wrthwynebu’r cynlluniau i ymestyn y pwll glo.

Mae’r trigolion yn poeni am yr effaith a gaiff y llygredd aer a’r llygredd sŵn ar eu hiechyd a’u llesiant.

 

Chris and Alyson Austin from Merthyr Friends of the Earth (photo courtesy of Haf Elgar)
Chris ac Alyson Austin o Gyfeillion y Ddaear Merthyr (llun trwy garedigrwydd Haf Elgar)

Medd Chris ac Alyson Austin o Gyfeillion y Ddaear Merthyr, sef rhai o’r trigolion sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau:

“Mae byw drws nesaf i bwll glo yn erchyll – llwch y gwaith cloddio, sŵn y peiriannau cloddio enfawr am 12 awr y dydd. Mae’r gymuned yn y fan hon wedi dioddef yn fawr ers sawl blwyddyn, ac rydyn ni’n dal i ddioddef y llwch, ond trigolion Dowlais a Chaeharris sy’n dioddef effeithiau gwaethaf y pwll glo nawr.

 

“Roedden ni wedi bod yn cyfri’r dyddiau hyd nes y byddai’r pwll glo yn cau a hyd nes y byddai ein bywydau’n dychwelyd i’r drefn arferol. Ond nawr, fe allen ni orfod wynebu sawl blwyddyn arall o ddioddefaint. Pryd ddaw hyn i ben? Rydyn ni’n benderfynol o wrthwynebu’r estyniad hwn, er budd y trigolion ac er budd dyfodol Merthyr, ac rydyn ni’n gweithio ddydd a nos i roi diwedd ar yr anghyfiawnder hwn. Rydyn ni wedi dioddef y pwll glo hwn ers 15 mlynedd; digon yw digon.”

Mae Chris ac Alyson yn rhannu eu profiadau mewn erthygl Wales Online.

Darllenwch nawr

 

Photo of Haf Elgar in Ffos y Fran
Haf Elgar yn ymweld ag ardal Ffos y Fran ym mis Hydref 2022

Medd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru4:

“Rhaid i’r cais hwn i ymestyn oes Ffos y Fran gael ei wrthod. Bydd yn arwain at fwy fyth o allyriadau niweidiol i’r hinsawdd, gan effeithio hefyd ar drigolion yr ardal a’u hamgylchedd naturiol.

“Yn y blynyddoedd diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn gryf nad yw cloddio am ragor o danwyddau ffosil yn cyd-fynd â’n targedau hinsawdd, ac mae polisïau cynllunio a pholisïau glo yn datgan yn glir na ddylid cloddio am fwy o lo yng Nghymru.

“Dyw’r cais hwn ddim yn gydnaws â’r polisïau cenedlaethol hynny, o ran ymdrin â newid hinsawdd, llesiant y gymuned leol na’n cyfrifoldebau byd-eang fel cenedl. Rhaid rhoi stop arno.”

Os mai bwriad Cyngor Merthyr fyddai i gymeradwyo’r cais i ymestyn trwydded Ffos y Fran, bydd y cais yn cael ei anfon i Lywodraeth Cymru. Yna, Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen ag ef, ai peidio.

 

Share this page