Ffasiwn i'r Dyfodol yng Nghymru Ein llwybr at ffasiwn gynaliadwy
O ystyried yr argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd, rhaid inni archwilio’r hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru i sicrhau bod ffasiwn yn fwy fforddiadwy a chynaliadwy.
Amcangyfrifir bod y diwydiant ffasiwn yn gyfrifol am tua 10% o allyriadau nwyon tŷ gwydr y byd. Dyma'r ail ddiwydiant budron yn y byd, wrth ymyl y diwydiant olew.
Wrth gwrs, dylanwad cyfyngedig sydd gennym ar y diwydiant ffasiwn byd-eang, ac mae llawer o’r ymyriadau polisi a fyddai’n helpu i wneud gwahaniaeth yma yn rhai a gedwir yn San Steffan.
Ond o ran syniadau ac arloesedd, mae gan Gymru y potensial i fod yn arweinydd byd mewn ffasiwn gynaliadwy.