Cefnogwch ein galwad am gynllun cyfnewid gwisg ysgol Cymru gyfan
Published: 24 Nov 2022
Rydym yn wynebu argyfwng costau byw ac argyfwng yr hinsawdd.
Mae gwisg ysgol newydd yn ddrud a gwastraffus. Mae plant yn tyfu allan ohonynt yn gyflym, ac ni all llawer ohonom eu fforddio.
Mae trwsio neu uwchgylchu dillad, prynu dillad ail-law, neu gymryd rhan mewn cyfnewid dillad, o wisg ysgol i ddillad chwaraeon, yn ffordd wych o arbed arian a lleihau ôl-troed carbon.
Mae rhai ysgolion a chymunedau yng Nghymru yn cynnal siopau cyfnewid gwisg ysgol yn barod ond nid oes gan y rhan fwyaf o deuluoedd fynediad hawdd at wisg ysgol.
Cefnogwch ein cais i bob ysgol yng Nghymru gael siop cyfnewid gwisg ysgol er mwyn:
· gwneud gwisg ysgol yn fwy fforddiadwy
· lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
· lleihau stigma ynghylch dillad ail-law
· grymuso pobl i wneud penderfyniadau cynaliadwy
Anfonwch e-bost at Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd heddiw yn gofyn iddi gyflwyno cynllun cyfnewid gwisg ysgol ledled Cymru. Mae croeso ichi ddefnyddio neu addasu ein llythyr templed, neu gallwch greu un eich hun o'r newydd.