Rhaid i gartrefi cynnes fod yn flaenoriaeth yng Nghymru

Published: 22 Sep 2022

Mae rhai ohonom yn gorfod dewis rhwng gwres a bwyd. Mae angen i ni gynnig cymorth i'r rheini sydd ei angen fwyaf - a lleihau ein allyriadau carbon - wrth insiwleiddio cartrefi sy'n gollwng gwres, yn oer ac yn ddrud i'w cynhesu.

Picture of an elderly woman keeping warm in a house.

Picture of Haf Elgar
Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Yn ymateb i drafodaeth y Senedd ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Ni ddylai pobl orfod wynebu dewisiadau amhosib fel p'un ai i brynu bwyd neu wresogi'r ty. Rhaid sicrhau cartref cynnes i bawb fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. 

“Mae'r cynnydd mewn prisiau ynni yn effeithio grwpiau bregus a phobl sy'n byw mewn tai heb insiwleiddio da fwyaf.

“Rhaid i ni daclo hyn gyda'r brys ac i'r raddfa mae'n ei haeddu - rydyn ni'n wyneb argyfwng hinsawdd yn ogystal ac argyfwng costau byw. Bydd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn lleihau biliau ac allyriadau carbon, gan greu gwaith mewn cymunedau ledled Cymru.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen Cartrefi Clyd newydd sy'n fwy o faint, yn targedu'n ddoethach ac yn wyrddach, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor.”

Ymatebodd Cyfeillion y Ddaear Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y rhaglen Cartrefi Clyd yn gynharach eleni.

 

Share this page