Miloedd yn ymuno mewn rali ledled Cymru ar gyfer COP 27
Published: 18 Nov 2022
Daeth miloedd o bobl i strydoedd Cymru ar 12fed o Dachwedd 2022 i fynnu cyfiawnder hinsawdd.

Ymunodd Cyfeillion y Ddaear Cymru ag aelodau grwpiau lleol o Gaerdydd, Pontypridd a Merthyr ym mhrifddinas Cymru. Bu i ITV gyfweld â Caspar o Gyfeillion y Ddaear Pontypridd, ac ymgyrchydd ifanc o Gyfeillion y Ddaear Ifanc Pontypridd.
Llifodd y dyrfa fel afon trwy’r ddinas gyda’u placardiau yn siglo yn yr awyr – rhai wedi eu dylunio gartref a rhai’n broffesiynol: ‘Mae’n rhaid i ni weithredu- mae’n argyfwng,’ ‘Deffrwch’ a ‘Newid i’r system, nid newid i’r hinsawdd’.
Dywedodd Shavanah Taj, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, ac un o'r siaradwyr yn y gwrthdystiad yng Nghaerdydd: " Mae angen Trawsnewid Cyfiawnder a Arweinir gan Weithwyr arnom – ailweirio ein system mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag anghyfiawnder, tlodi ac anghydraddoldebau. Rhaid i gyfiawnder lleol a byd-eang fod wrth wraidd y trawsnewid hwn, trwy systemau ynni datganoledig sy’n eiddo i bobl, ehangu gwasanaethau gofal, bwyd o ffynonellau lleol, tai gwyrdd a fforddiadwy a thrafnidiaeth gyhoeddus.”
Mynychodd aelod o Gyfeillion y Ddaear Abertawe, Karen Lawrence, y rali yn y ddinas a dywedodd, “Mae'n brofiad gwirioneddol wych bod gyda grŵp o bobl eraill sy'n poeni'n angerddol am gyfoeth iechyd a hapusrwydd bodau dynol, y blaned a’i chreaduriaid. Rwy'n caru Abertawe a'r criw hardd, gofalgar rwy'n perthyn iddo. Rhaid i mi gofio hyn a chymryd rhan fwy, nid llai, yn yr ymdrech i wrthdroi newid hinsawdd... Gerddi’r Castell oedd y lle i fod heddiw.”
Mae'r mudiad cyfiawnder hinsawdd yn tyfu drwy'r amser gydag undebau llafur, grwpiau undod rhyngwladol, ymgyrchwyr gwrthdlodi a chyfiawnder yn gweithio gydag ymgyrchwyr amgylcheddol.
Nod y mudiad yw cysylltu’r brwydrau byd-eang a lleol i symud mewn ffordd deg i ffwrdd o ddefnyddio tanwydd ffosil, mewn modd sy’n cefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn y DU ac o gwmpas y byd.
Ydych chi eisiau gweithredu ar newid hinsawdd?
Want to take action on climate change?
Ymunwch â’n hymgyrch Cartrefi Cynnes
Caerdydd

Abertawe

Caernarfon

Caerfyrddin
