Ymchwil yn dangos 500 o fannau ag argyfwng ynni uchel yng Nghymru

Published: 16 Nov 2022

Mae'r cymdogaethau sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan brisiau ynni'n codi yng Nghymru wedi eu hadnabod gan Gyfeillion y Ddaear.
  • Rhondda Cynon Taf a Chaerffili sydd â'r nifer uchaf o fannau ag argyfwng ynni uchel.
     
  • Mae ymgyrchwyr yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno ei Rhaglen Cartrefi Clyd ar frys, gan flaenoriaethu'r aelwydydd a chymdogaethau sydd mewn angen fwyaf ar gyfer inswleiddio.  
Elderly woman waring extra layers and looking cold
Getty images

 

Wrth i arweinwyr byd gwrdd yn yr Aifft ar gyfer COP27, mae ymchwil diweddar yn dangos un ffordd gall Gymru ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng costau byw ar yr un pryd.

Mae ymchwil gan Gyfeillion y Ddaear wedi adnabod 588 o 'fannau ag argyfwng ynni uchel' yng Nghymru, gan dynnu sylw at y cartrefi aneffeithlon, sy'n colli gwres yng Nghymru. 

Mannau argyfwng ynni uchel yw ardaloedd ble mae'r defnydd o ynni yn uwch na'r cyfartaledd ac incwm arferol aelwyd yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol yng Nghymru. Mae'r cymunedau hyn mewn risg uwch o galedi ariannol difrifol oherwydd costau ynni sy'n rhy ddrud. 

Cyfunodd Cyfeillion y Ddaear ddefnydd o ynni ar lefel cymdogaeth, yn seiliedig ar amcangyfrifon llywodraeth y DU, gyda chostau ynni (yn cynnwys y rhai oddi ar y grid nwy), a data incwm.

Ruth Sharville / Classic Valleys terraces - with vehicles / CC BY-SA 2.0
Ruth Sharville / Classic Valleys terraces - with vehicles / 
CC BY-SA 2.0

Rhondda Cynon Taf a Chaerffili sydd â'r nifer uchaf o fannau argyfwng uchel. Powys a Sir Fynwy sydd â'r nifer lleiaf.  

Cyn belled â bod cyfartaledd cost biliau ynni yn y cwestiwn, mae pobl mewn mannau argyfwng ynni uchel yng Nghaerffili yn talu'r biliau ynni uchel o'u cymharu â gwledydd eraill.

Mae ardaloedd gwledig yng ngogledd orllewin Cymru megis Ynys Môn a Gwynedd hefyd yn talu rhai o'r biliau uchaf. Mae hyn am sawl rheswm: Mae pobl mewn ardaloedd gwledig yn llai tebygol o fod wedi eu cysylltu â'r grid nwy, felly nid ydynt yn rhan o'r capio pris ynni ar gyfer nwy, ac maent yn defnyddio tanwydd gwresogi nwy drutach megis olew ac LPG3. Mae ymchwil diweddar hefyd yn awgrymu fod cartrefi mewn ardaloedd gwledig, ar gyfartaledd, yn llai effeithlon o ran ynni.

Roedd pobl yn Sir Benfro, Caerdydd a Sir Fynwy yn talu llai o'u cymharu â siroedd eraill yng Nghymru. 

Yn ôl Sefydliad Bevan, Cymru sy'n cael ei tharo waethaf yn y DU gan yr argyfwng ynni oherwydd 'incwm aelwydydd is na'r cyfartaledd' ac 'effeithlonrwydd ynni isel stoc cartrefi yng Nghymru'. 

 

Elderly man reading electricity bill
Getty images

Mae cymunedau yng Nghymru yn talu biliau uchel i gynhesu eu cartrefi, ond mae swm uchel o ynni yn cael ei wastraffu oherwydd toeau, waliau a ffenestri heb eu hinsiwleiddio. 

Stoc cartrefi Cymru yw'r hynaf yn y DU, gyda dros chwarter y cartrefi wedi eu hadeiladu cyn 1919 a dim ond 13% wedi eu hadeiladu yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf.Mae'r ffigyrau diweddaraf yn amcangyfrif fod hyd at 45% of aelwydydd yng Nghymru bellach yn dioddef tlodi tanwydd.7

 

Photo of Haf Elgar
Haf Elgar

Dywedodd Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Cymru:  

"Mae'n rhaid i drwsio cartrefi sy'n colli gwres yng Nghymru fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bydd gwneud cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni yn gostwng biliau ac allyriadau carbon, gan greu swyddi medrus mewn cymunedau ar draws Cymru. 

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen Cartrefi Clyd newydd fwy, gwyrddach a fwy deallus, sy'n canolbwyntio ar insiwleiddio er mwyn sicrhau bod gan bawb gartref clyd.” 

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi ymateb i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y rhaglen Cartrefi Clyd yn gynharach eleni 8. Maent yn gofyn iddynt gyflwyno'r rhaglen hon cyn gynted ag y bo modd. Mae'n rhaid canolbwyntio ar fod yn effeithlon o ran ynni, yn enwedig insiwleiddio, a dylid blaenoriaethu'r aelwydydd a'r cymdogaethau mwyaf anghenus.

Lawrlwythwch y data

 

Share this page