500 o fannau ag argyfwng ynni uchel yng Nghymru
Mae ymchwil gan Gyfeillion y Ddaear yn dangos bod 500 o fannau ag argyfwng ynni uchel yng Nghymru
- Mae'r cymdogaethau sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan brisiau ynni'n codi yng Nghymru wedi eu hadnabod gan Gyfeillion y Ddaear.
- Rhondda Cynon Taf a Chaerffili sydd â'r nifer uchaf o fannau ag argyfwng ynni uchel.
- Mae ymgyrchwyr yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno ei Rhaglen Cartrefi Clyd ar frys, gan flaenoriaethu'r aelwydydd a chymdogaethau sydd mewn angen fwyaf ar gyfer inswleiddio.