Mae ymchwil yn dangos cysylltiad rhwng incwm a llygredd aer

Gwelwyd mai ardaloedd amddifad o ran incwmsydd â’r llygredd aer gwaethaf, tra mae pobl o liw 2.5 gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn ardal â llygredd gronynnol uchel, a 5 gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaeth lle ceir llygredd NO2.

Traffic jam showing fumes coming out of exhaust pipes

 

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi canfod yr holl gymdogaethau yng Nghymru sydd uwchlaw terfynau argymelledig y WHO (2021) o ran nitrogen oscid (NO2) a deunydd gronynnol mân (PM2.5).

 

Aethpwyd ati i gymharu Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, ynghyd â data pellach yn ymwneud â pherchnogaeth ceir, ethnigrwydd, poblogaethau plant ac ysgolion, gyda lefel y llygredd aer yng nghymdogaethau Cymru.

Gwelwyd mai ardaloedd amddifad o ran incwm, fel y’u diffinnir gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, sydd â’r llygredd aer gwaethaf, tra mae pobl o liw 2.5 gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn ardal â llygredd gronynnol uchel, a 5 gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaeth lle ceir llygredd NO2.

Hefyd, mae aelwydydd mewn cymdogaethau lle ceir y llygredd aer gwaethaf yn llai tebygol o fod yn berchen ar gar nag aelwydydd yn yr ardaloedd lleiaf llygredig – sef aelwydydd sy’n mynd ati mewn modd anghymesur i achosi llygredd trwy ddefnyddio’u ceir.

Share this page