Torfeydd yng Nghaerdydd a Bangor yn mynnu cael cyfiawnder hinsawdd

Published: 14 Dec 2023

Wrth i arweinwyr gyd-drafod yn Dubai yn Nhrafodaethau Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig – COP28 – mentrodd pobl ledled Cymru ar y strydoedd, yn benderfynol o gael dweud eu dweud.
Friends of the Earth groups gather outside the museum in Cardiff before the Global Day of Action
Ymgasglodd aelodau o grwpiau lleol Cyfeillion y Ddaear yng Nghaerdydd ar gyfer y Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd.

Y bobl sydd wedi cyfrannu leiaf at achosi’r argyfwng hinsawdd sy’n dioddef waethaf.

Mae gwledydd ynysoedd y Môr Tawel yn diflannu i’r môr ac mae gwledydd Affrica yn wynebu argyfwng bwyd na welwyd mo’i debyg erioed o’r blaen oherwydd sychder a llifogydd. Mae pobl sy’n byw mewn cymunedau arfordirol yn wynebu colli eu cartrefi – yn wir, mae rhai yn gwegian ar ymyl y dibyn yn llythrennol.

Mae cymunedau yng Nghymru, fel mewn rhannau eraill o’r byd, yn dioddef mwyfwy yn sgil llifogydd andwyol, sychder, stormydd a thywydd eithriadol o boeth, ac yn aml y bobl leiaf cefnog a’r rhai mwyaf agored i niwed sy’n dioddef waethaf.

Speaker at a rally outside the law courts in Cardiff
Cyn yr orymdaith yng Nghaerdydd, cafwyd areithiau y tu allan i’r llysoedd barn.

Nawr fe Godwn

Ddydd Sadwrn diwethaf (9 Rhagfyr 2023), mentrodd grwpiau gweithredu lleol Cyfeillion y Ddaear i drefi a dinasoedd ar hyd a lled y DU ar gyfer y Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd.

Fel gwladwriaeth a chanddi hanes o ollwng llawer iawn o allyriadau, fe ddylai’r DU arwain y ffordd yn hyn o beth. Ond dengys gwaith ymchwil newydd gan Gyfeillion y Ddaear nad yw Llywodraeth y DU ar y trywydd iawn o ran cyflawni ei thargedau ar gyfer 2030.

Yn waeth fyth, mae’n gwanhau ei haddewidion pan ddaw hi’n fater o gefnogi gwledydd sydd wedi cyfrannu leiaf at achosi newid hinsawdd a gwledydd ag adnoddau annigonol ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd.

Ymunodd aelodau o grwpiau gweithredu lleol Caerdydd, Abertawe, Caerffili a Sir Benfro â grwpiau cymunedol eraill yn y brifddinas ar gyfer digwyddiad a drefnwyd gan Gynghrair Cyfiawnder Hinsawdd Caerdydd.

Buom yn troedio strydoedd Caerdydd er mwyn dangos i’r DU nad oes wiw iddi dorri ei gair a pheidio â chyfrannu at weithredu ar yr hinsawdd – sef rhywbeth a fydd o fudd i bobl yn y DU a thrwy weddill y byd.

Crowds gathering outside the law courts

Y man cychwyn oedd y llysoedd barn, lle gwnaethom gasglu ynghyd i wrando ar areithiau tanbaid. Fel yn nigwyddiadau eraill y Diwrnod Gweithredu Byd-eang, gwnaethpwyd y cysylltiad â’r sefyllfa ddychrynllyd yn Gaza, a gofynnwyd am gadoediad. Fel y pwysleisiwyd gan nifer o’r siaradwyr, ni ellir cael cyfiawnder hinsawdd heb heddwch a hawliau dynol.

Yna, gorymdeithiodd cannoedd ohonom trwy ganol y ddinas, gan floeddio "Be yn ni moyn? Cyfiawnder hinsawdd. Pryd yn ni moyn e. Nawr!”

Demonstration in central Cardiff
Y Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd, Caerdydd, 9 Rhagfyr 2023

Ym Mangor, trefnwyd digwyddiad dan arweiniad pobl ifanc gan gynghrair o grwpiau, yn cynnwys Gweithredu Hinsawdd Gogledd Orllewin Cymru a Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru.

Message making workshop picture
Gweithdy negeseuon ym Mangor, a gynhaliwyd ar y Diwrnod Gweithredu Byd-eang dros Gyfiawnder Hinsawdd

Dechreuwyd y digwyddiad yn adeilad Pontio a chynhaliwyd gweithdy prysur ar wneud negeseuon ar gyfer creu placardiau a phosteri lliwgar a llawn effaith. Yna, heidiodd môr o bobl a phlacardiau trwy’r strydoedd i gymryd rhan mewn gorymdaith heddychlon o amgylch canol y ddinas.

Wedyn, ymgasglodd pawb yn Pontio unwaith eto i glywed gan aelodau’r genhedlaeth iau – eu meddyliau, eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Rally in Bangor

 

 

Share this page