Grwpiau cymuned yn mynnu gweithredu dros gartrefi cynnes

Published: 11 Dec 2023

Photo of Jenny Lloyd

Jennifer Lloyd
Swyddog Gweithredu Lleol ac Ymgyrchoedd Cymunedol
Cyfeillion y Ddaear Cymru

Cymunedau ledled Cymru yn gwneud crefftau ar gyfer Diwrnod Gweithredu Unedig dros Gartrefi Cynnes ar 18 Tachwedd.

Mae'r ymgyrch, wedi’i gefnogi gan grwpiau Cyfeillion y Ddaear Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn galw ar lywodraeth y DU i ddarparu cartrefi cynnes a biliau ynni is i bawb.

Y llynedd, canolbwyntiodd yr ymgyrch yng Nghymru ar Lywodraeth Cymru a’r Senedd.  Eleni mae’r sylw ar Aelodau Senedol yn hytrach nag Aelodau’r Senedd. Rydym yn galw am gymorth brys i gartrefi sy’n agored i niwed, rhaglen inswleiddio ac effeithlonrwydd ynni ar gyfer cartrefi, ac ynni rhad sy’n cael ei bweru gan ynni adnewyddadwy.

 

People holding draught excluders spelling out 'winter;
Photo courtesy of Growing Space Pontypridd

 

Crefftau i atal drafftiau

Aeth grŵp Cyfeillion y Ddaear Pontypridd ati i gydweithredu â Growing Space Pontypridd, sef The Crafty Crew a Purple Shoots, i gynhyrchu pethau atal drafftiau lliwgar a chynnes o ddeunydd sgrap ac fe’u rhoddwyd yn garedig i'r banc bwyd lleol.

Dywedodd Hannah Hitchins o Growing Space Pontypridd, “Dyma syniad gwych. Gwnaethom ddefnyddio gymaint o ddeunydd sgrap a allai fod wedi mynd i safle tirlenwi. Aethom ati i greu eitemau defnyddiol, a dod â phobl o bob oedran a chefndir economaidd-gymdeithasol ynghyd.”

Life-sized back silhouettes behind a banner, 'warm homes for all'
Llun gan Climate Cymru

Codi Llais gyda Chysgodluniau

Yng Nghaerdydd, cafodd Cyfeillion y Ddaear Cymru gwmni grwpiau Cyfeillion y Ddaear Caerdydd, Caerffili a Merthyr ar gyfer digwyddiad wedi’i drefnu gan Climate Cymru ar fore’r diwrnod o weithredu.

Cafodd cysgodluniau du o faint go iawn eu gosod y tu allan i Swyddfeydd Llywodraeth y DU yn ystod y bore er mwyn cynrychioli’r bobl a fu farw mewn cartrefi oer y llynedd.

Dywedodd Bethan Sayed, sy’n arwain yr ymgyrch Cynnes y Gaeaf Hwn yng Nghymru: "Mae'n warthus bod bron i 300 o bobl wedi marw yng Nghymru'r llynedd oherwydd eu bod yn byw mewn cartrefi oer, llaith - mae hynny'n 300 yn ormod! Mae angen gweithredu ar frys, ond dim ond hyn a hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud.

“Dyna pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu £11.8bn o gymorth ychwanegol i’r rhai sydd ei angen, gan gynnwys rhaglen o ryddhad dyledion cynaliadwy. Mae’n llythrennol yn fater o fywyd neu farwolaeth.

“Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i bobl ychwanegu eu lleisiau a’u pryderon. Ysgrifennodd pawb negeseuon ar y cerfluniau, y gwnaethom eu trosglwyddo i lywodraeth y DU."

 

People holding placards in Cardiff
Llun gan Gyfeillion y Ddaear Cymru

'Knitting Nanas of Nant Garw'

Trefnodd myfyrwyr yng Ngholeg y Cymoedd eu digwyddiad creu cwiltiau eu hunain, gyda chymorth grŵp 'Knitting Nanas of Nant Garw.'

Gwnaethant y cwilt syfrdanol hwn, y maent yn gobeithio mynd ag ef i San Steffan i ddangos i wleidyddion faint o ots sydd gan bobl ifanc am gostau byw cyfunol ac argyfyngau hinsawdd.

Person holding up a handmade patchwork quilt
Llun gan Knitting Nanas of Nant Garw

Cwiltiau i gadw’n gynnes

Yn ystod y prynhawn, cynhaliodd grŵp Cyfeillion y Ddaear Caerdydd ddigwyddiad Cwilt Cymunedol yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.

Bu i’r digwyddiad ddwyn ynghyd pobl o bob oedran i gymryd rhan mewn crefftau, a oedd yn golygu creu sgwariau bach i'w gwnïo gyda’i gilydd i wneud cwilt er mwyn codi ymwybyddiaeth o dlodi tanwydd a'r angen am gartrefi cynnes i bawb.

People sitting around table making a quilt
Photo courtesy of Friends of the Earth Cymru

 

Cynhaliwyd cannoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y DU, a gwelwyd ymdrech cenedlaethol yn pwysleisio’r un neges, sef na ddylai unrhyw un fyw mewn cartref oer a bod angen i'r rheini sy’n gwneud penderfyniadau weithredu.

Two people holding placards
Llun gan grŵp Cyfeillion y Ddaear Caerdydd

Os hoffech chi fod yn rhan o’n hymgyrch am Gartrefi Cynnes yng Nghymru, anfonwch e-bost i: [email protected]

 

Mae oddeutu 45% o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd

Mae oddeutu 45% o bobl yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, a’r llynedd bu farw 300 o bobl oherwydd bod eu tai yn oer ac wedi’u hynysu’n wael. Yn y DU, mae gennym rai o’r cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni a gwaethaf o ran gollwng dŵr, ac wrth i aeaf oer arall ein cyrraedd ni, bydd pobl unwaith eto yn wynebu biliau ynni uchel, yn poeni sut fyddant yn talu am wres, ac effeithiau cartref oer ar iechyd.

Y llynedd, canolbwyntiodd yr ymgyrch ar Lywodraeth Cymru a’r Senedd. Gan weithio’n agos â Climate Cymru (sy’n arwain yr ymgyrch Cynnes y Gaeaf Hwn yng Nghymru), aethom ati i drefnu deiseb i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru a gwnaeth nifer o Aelodau’r Senedd addewid i gadw pobl yn gynnes y gaeaf hwn, a gaeafau sydd i ddod.

Fis Rhagfyr 2022, daethom ynghyd ar risiau'r Senedd ar gyfer y diwrnod cyntaf o weithredu dros gartrefi cynnes. Cyn y cyhoeddiad gan Julie James yn canolbwyntio ar Gartrefi Cynnes, y nod oedd rhoi pwysau ar yr adeg gywir er mwyn sicrhau bod y cyhoeddiad yn ddigon uchelgeisiol. A bu’n llwyddiant - darllenwch y stori hon am ragor o wybodaeth!

 

 

Share this page