Rhaid i Lywodraeth Cymru atal y cloddio anghyfreithlon yn Ffos-y-Fran
Published: 4 Jul 2023
Ar 30 Mehefin 2023, ysgrifennodd y mudiad at Lywodraeth Cymru a Chyngor Merthyr, yr awdurdod cynllunio, i ofyn iddynt gyhoeddi hysbysiad stop ar unwaith.
Darllenwch ein llythyr i Lywodraeth Cymru
Gan nad yw’r cyngor wedi cyhoeddi hysbysiad stop hyd yma, mae Cyfeillion y Ddaear nawr yn annog Gweinidogion Cymru i wneud hynny cyn gynted â phosib.
Fel mae’r llythyr yn ei nodi, ‘mae’n hanfodol bod [Gweinidogion Cymru] yn gweithredu ar unwaith i atal unrhyw gloddio pellach ac i gyfyngu ar ragor o niwed diwrthdro i’r hinsawdd. Fel y gwyddoch rydym mewn argyfwng hinsawdd sy’n gwaethygu. Bydd y cloddio parhaus ond yn ychwanegu at hyn, gan achosi niwed i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.’
Mae Coal Action Network wedi cyfrifo bod dros 1000 tunnell o lo’n cael ei echdynnu o’r ddaear bob dydd, sef ‘y cyfwerth CO2 o losgi 1.5 miliwn tunnell o betrol’.
Er bod y caniatâd i gloddio am lo wedi dod i ben ar 6 Medi 2022, mae’r cloddio’n parhau hyd heddiw, hyd yn oed ar ôl i gynghorwyr pwyllgor cynllunio Cyngor Merthyr Tudful wrthod eu cais am estyniad yn unfrydol ym mis Ebrill.
Mae tystiolaeth ffotograffig a dynnwyd gan drigolion, a sawl recordiad drôn, yn dangos bod glo yn parhau i gael ei gloddio yn Ffos-y-Fran, er nad oes gan Merthyr (south Wales) Ltd, perchnogion y pwll glo, y caniatâd i wneud hynny bellach.
Roedd disgwyl i hysbysiad gorfodi yn erbyn Ffos-y-Fran ddod i rym ar ddydd Mawrth 27 Mehefin, a fyddai wedi rhoi 28 diwrnod iddynt roi’r gorau i gloddio, ond apeliodd y perchnogion y hysbysiad gorfodi ar y funud olaf. Gallai’r broses apelio gymryd misoedd – ac mae perygl y bydd y cloddio’n parhau ar y safle yn ystod y cyfnod hwnnw os na fydd gweithredu’n digwydd.
Yn eu llythyr, mae Cyfeillion y Ddaear yn nodi os na fydd gweithredu’n digwydd bydd hynny’n ‘anfon neges ddifrifol bod cloddio anghyfreithlon yn cael ei oddef yng Nghymru, er gwaethaf eich polisïau hinsawdd yn nodi’r gwrthwyneb’.
Dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Mae’n warthus bod cloddio’n cael parhau yn Ffos-y-Fran, yn erbyn dymuniadau’r gymuned leol a lles y blaned.
“I Gymru gael ei hystyried yn flaenllaw o ran yr hinsawdd, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu nawr i atal y cloddio, a defnyddio ei phŵerau i ddod a'r cloddio i ben ar unwaith.”
Dywedodd Magnus Gallie, arbenigwr Cynllunio, Cyfeillion y Ddaear:
“Os na fydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â hyn ac yn cyflwyno’r hysbysiad stop mae’n debygol ei bod yn anochel y bydd y cloddio anghyfreithlon yn parhau dros y misoedd neu hyd yn oed y blynyddoedd i ddod.
“Rhaid i weinidogion weithredu nawr i warchod yr hinsawdd a phrofi i weithredwyr mwyngloddio eraill na fydd ‘chwarae’ gyda’r system gynllunio yn cael ei oddef mwyach.”