Preswylwyr yn flin bod glo yn dal i gael ei gloddio yn Ffos y Fran

Published: 26 May 2023

Er bod y caniatâd -i gloddio glo wedi dod i ben ar 6 Medi 2022, ni ddaeth y cloddio i ben, ac mae’n parhau hyd heddiw. Mae hyn er i Gyngor Merthyr wrthod cais am estyniad.
Photo evidence of mining at Ffos y Fran
Mae cloddio’n dal i ddigwydd yn Ffos y Fran ym mis Mai 2023 (llun gan Chris Austin)

Mae tystiolaeth ar ffurf lluniau gan breswylwyr, a ffilmiau wedi’u recordio ar ddronau, yn nodi bod glo yn dal i gael ei gloddio yn Ffos y Fran, er gwaetha’r ffaith nad oes gan weithredwr y pwll glo, Merthyr (South Wales) Ltd, ganiatâd i gloddio mwyach.

Mae’r Rhwydwaith Gweithredu Glo wedi cyfrifo bod dros 1000 tunnell o lo yn cael ei gloddio o’r tir bob dydd, sydd ‘cyfwerth â llosgi 1.5 miliwn litr o betrol o ran CO2’.

Daeth y caniatâd cynllunio i gloddio glo o ddatblygiad Ffos y Fran i ben 6 Medi 2022. Er hyn, parhaodd Merthyr (South Wales) Ltd i gloddio heb ganiatâd. Mae hyn wedi gwylltio preswylwyr ac ymgyrchwyr wrth iddynt aros am ganlyniad y cais i ymestyn eu caniatâd cynllunio hyd at Mawrth 2024.  

 

Ar 26 Ebrill 2023, pleidleisiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr yn unfrydol o blaid dirwyn i ben cloddio yn Ffos y Fran er lles y blaned, gan wrthod ymestyn y caniatâd. 

Roedd hyn yn rhyddhad mawr i breswylwyr fel Chris ac Alyson o Gyfeillion y Ddaear Merthyr, a oedd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y pwll glo ers 20 mlynedd. Fodd bynnag, sylweddolon nhw’n gyflym na fyddai’r llwyddiant yn para’n hir, a bod dim wedi newid. Roedd glo yn dal i gael ei gloddio a’i gludo o’r safle bob dydd.

Er i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr gydnabod bod cloddio’n dal i ddigwydd yn Ffos y Fran, hyd heddiw, nid ydynt wedi rhoi unrhyw gamau gorfodi ar waith, er bod ganddynt y pŵer i wneud hynny. 

Chris and Alyson Austin from Merthyr Friends of the Earth (photo courtesy of Haf Elgar)
Chris ac Alyson (ar y dde ac yn y canol), yn ymgyrchu y tu allan i swyddfeydd Cyngor Merthyr ar 26 Ebrill 2023

 

Yr wythnos hon, ysgrifennodd Chris ac Alyson at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a’r holl Aelodau Seneddol, yn rhoi gwybod iddynt am y sefyllfa ac yn gofyn am gymorth.  

Truck laden with coal leaving Ffos y Fran
Trên lo yn Ffos y Fran (llun gan Chris Austin)

Dywedodd Alyson a Chris Austin:

 

‘Rydyn ni’n gandryll bod glo yn dal i gael ei gloddio yn Ffos y Fran, er gwaethaf ein cynghorwyr yn penderfynu, yn unfrydol, i gau’r pwll glo mis diwethaf. Rydym yn gwybod hyn gan ein bod yn gweld popeth ein hunain bob dydd! Lori ar ol lori, yn llawn glo, yn llwytho a dadlwytho. Mae’n wirion bost ei fod yn dal yn cael digwydd. Ni ddylai fod pwll glo ym Merthyr mwyach. Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac mae pob dydd yn cyfri. ‘Dyw hyn ddim yn iawn. Rydym yn erfyn ar Gyngor Merthyr i stopio hyn nawr.' 

Coal truck leaving Ffos y Fran (photo courtesy of Chris Austin)
Lori glo o bwll glo Ffos y Fran yn cyrraedd pen y rheilffordd (llun gan Chris Austin)
Haf Elgar at Ffos y Fran
Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

 

"Mae’n warthus bod cloddio’n dal i ddigwydd yn Ffos y Fran, er nad yw’r safle wedi bod â chaniatâd cynllunio ers bron 9 mis bellach.

"Nododd Cynghorwyr Merthyr yn berffaith glir bod angen i hyn stopio - gwnaethant bleidleisio’n unfrydol yn erbyn rhoi rhagor o ganiatâd cynllunio ac areithio’n angerddol am yr effaith ar yr hinsawdd a phreswylwyr lleol. Rhaid gweithredu ar hyn nawr, ac mae’n rhaid i’r cyngor weithredu ar unwaith i orfodi eu penderfyniad a stopio’r cloddio.

"Does dim modd dadwneud y niwed - unwaith y mae’r glo wedi’i gloddio a’i losgi, does dim modd ad-dalu’r blaned. Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd, ac mae’n rhaid gweithredu nawr.”

 

Dweud eich dweud

Gofynnwch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr weithredu ar unwaith a gorfodi’r penderfyniad i stopio’r cloddio yn Ffos y Fran. Ebostiwch [email protected] heddiw, gan ddyfynnu cyfeirnod y cais cynllunio P/22/0237 – Ffos y Fran.

 

 

 

 

 

 

Share this page