Ffos y Fran - gadewch i ni atal mwy o gloddio glo
Published: 30 Sep 2022
Uwchben tref Merthyr Tudful mae Ffos y Fran, pwll glo brig enfawr.
Mae wedi bod yn falltod ar fywydau pobl sy'n byw gerllaw ers 15 mlynedd – yr holl lwch yn yr awyr o'r glo, a sŵn ysbeidiol o ffrwydradau a thryciau. Mae pobl leol yn pryderu am effaith y llygredd aer a sŵn hwn ar eu hiechyd a'u lles.
Ac, wrth gwrs, mae yna effaith ddinistriol sylweddol i hinsawdd o gloddio a llosgi'r holl lo yna.
Roedd y cyfan yn mynd i ddod i ben o’r diwedd ar 6 Medi 2022. Dyna’r dyddiad y daeth y caniatâd i gloddio am lo i ben, a diwrnod yr oedd y gymuned leol, fel Chris ac Alyson o Gyfeillion y Ddaear Merthyr, yn edrych ymlaen ato.
Ond yna ymddangosodd cais newydd. Mae'r cwmni nawr yn gofyn am 9 mis arall i gloddio am lo - gallai fod 240,000 tunnell arall yn fwy o lo - ac i ddefnyddio'r amser hwnnw i baratoi cais am 3 blynedd arall o gloddio.
Mae hon yn ergyd drom i'r gymuned leol, ac yn un y maent yn benderfynol o'i gwrthwynebu.
Ond mae'r amseru'n dynn, ac nid yw'n hawdd - heb unrhyw ffurflen ar-lein, dim ond yn ddiweddar y gosodwyd hysbysiadau lleol yn yr ardal, a dim ond ychydig wythnosau sydd i wneud sylw.
Mae wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd bellach bod y diwydiant glo yng Nghymru yn dod i ben. A thros y 5 mlynedd diwethaf rydym wedi cael datganiadau cryf gan Lywodraeth Cymru nad yw echdynnu tanwydd ffosil bellach yn gydnaws â'n targedau newid hinsawdd, sydd wedi'i ategu gan bolisiau cynllunio a glo a oedd yn ei gwneud yn glir na ddylai fod mwy o lo gael ei gloddio yng Nghymru.
Credwn fod y cais yma yn anghyson â’r polisïau cenedlaethol hynny, gyda taclo newid hinsawdd, yn ogystal â lles y gymuned leol, a’n cyfrifoldebau byd-eang fel cenedl.
Mae manylion y cais ar gael yma.
Ac mae modd cyflwyno sylwadau naill ai drwy ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu anfon e-bost at [email protected] gan ddyfynnu cais cynllunio P/22/0237 – Ffos y Fran.
Helpwch Chris ac Alyson o Gyfeillion o Ddaear Merthyr a thrigolion lleol eraill i atal mwy o gloddio ar garreg eu drws.