Pwll glo Ffos y Fran - gobaith ar y gorwel

Published: 19 Apr 2023

Mae adroddiad gan swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cynghori cynghorwyr i wrthod cais i gloddio mwy o lo.
Aerial shot of Ffos y Fran coal mine
Pwll glo Ffos y Fran, ger Merthyr, pwll glo brig mwyaf y DU

Mae’r cwmni sy’n berchen ar Ffos y Fran, pwll glo brig ger Merthyr, eisiau cadw mwyngloddio glo tan fis Mawrth 2024, ond fe allai eu cais gael ei wrthod mewn cyfarfod o’r cyngor ddydd Mercher nesaf (26 Ebrill 2023).

Mae'r adroddiad gan swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cynghori cynghorwyr i wrthod eu cais i gloddio mwy o lo, gan nodi '"na fyddai unrhyw fuddion lleol na chymunedol yn cael eu darparu sy'n amlwg yn drech nag anfanteision niwed amgylcheddol parhaol y datblygiad."

Dywedasant hefyd y byddai echdynnu'r glo ychwanegol hwn yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru a pholisi Cymru ar lo.

 

Rali

Bydd cynghorwyr yn penderfynu a ddylid cymeradwyo’r cais hwn ai peidio yn y cyfarfod cynllunio am 5pm ar 26 Ebrill 2023.

Ymunwch â ni y tu allan i Siambrau'r Cyngor (Canolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN) cyn y cyfarfod am 4.30pm i anfon neges gref.

 
Ein hymateb

Photo of Haf Elgar
Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru



Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

"Rydyn ni'n hynod o falch bod yr asesiad gan Gyngor Merthyr yn argymell yn glir y dylid gwrthod y cais i barhau i gloddio glo yn Ffos y Fran.

"Mae hyn wedi rhygnu mlaen am hen ddigon o amser ac mae'n rhaid dod â hyn i ben nawr - er lles trigolion lleol sy'n dioddef llygredd aer a sŵn, ac er mwyn y blaned.

"Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd ac mae glo yn rhan o'n treftadaeth, nid o'n dyfodol. Rydym yn galw ar gynghorwyr Merthyr i ddilyn cyngor eu swyddogion a gwrthod y cais yn eu cyfarfod wythnos nesaf."

 

 

 

 

 

 

Share this page