Cynllun Pensiwn ACau yn symud oddi wrth danwyddau ffosil

Published: 24 May 2020

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn croesawu'r newyddion bod Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cymru wedi penderfynu symud y rhan fwyaf o'u buddsoddiadau oddi wrth gwmnïau tanwydd ffosil a gosod amserlen iddynt eu hunain i gael gwared â'r gweddill.

Image removed.

Mae hyn yn dilyn cyfarfodydd adeiladol gydag Aelodau Cynulliad, y Bwrdd Pensiwn a'u cynghorwyr ariannol.  

Dywedodd y llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear Cymru, Bleddyn Lake: 

"Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir a groesewir yn fawr, ac mae'n golygu bod Cynllun Pensiwn yr ACau yn gyson â thros 1000 o sefydliadau ledled y byd sydd wedi addo i roi'r gorau i fuddsoddi eu pensiwn a buddsoddiadau eraill mewn cwmnïau tanwydd ffosil sy'n dinistrio'r hinsawdd. 

"Mae ein hymgyrch wedi derbyn cefnogaeth sylweddol gan filoedd o bobl ledled Cymru sydd wedi ysgrifennu at eu Haelodau Cynulliad, neu wedi cwrdd â nhw, i ofyn iddynt gefnogi ein galwad i ddadfuddsoddi

Mae nifer fawr o Aelodau Cynulliad o bleidiau gwleidyddol gwahanol wedi cefnogi ein galwad yn gyhoeddus a hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth. 

"Ond mae llawer i'w wneud o hyd ac rydym yn ailadrodd ein galwad i holl gyrff cyhoeddus Cymru dynnu eu buddsoddiadau allan o'r cwmnïau tanwydd ffosil hyn. Mae'n gwneud synnwyr o safbwynt ariannol a moesegol, ac nid oes gennym amser ar ôl i osgoi'r gwir, edrych i ffwrdd a rhoi pen yn y tywod lle mae'r penderfyniadau hyn yn y cwestiwn. 

"Yfory bydd Cyngor Ceredigion yn cymryd eu pleidlais eu hunain ar ddadfuddsoddi, a gobeithiwn y byddant yn ymuno â Chynllun Pensiwn yr ACau i wneud yr wythnos hon yn wythnos galonogol yng Nghymru yn y frwydr yn erbyn anhrefn hinsawdd fyd-eang." 

Mae'r Bwrdd Pensiwn wedi cytuno i symud 15% o asedau'r Cynllun, oddeutu £6 miliwn, i gronfa adenillion cynaliadwy, gan weld buddsoddiadau'r Cynllun yn y sector olew a nwy yn gostwng oddeutu 30% i oddeutu 1.99%. Mae hefyd wedi mabwysiadu polisi i ostwng buddsoddiadau'r Cynllun yn y sector olew a nwy i sero dros gyfnod o bum mlynedd, yn amodol ar argaeledd cyfryngau buddsoddi addas dros y cyfnod hwnnw, o ystyried maint y Cynllun. 

Share this page