Mynnwch ddeddf cryf ar gyfer bobl a natur yng Nghymru
Published: 17 Jul 2025

Mae llygredd yn difrodi ein bywyd gwyllt ac yn effeithio ar ein hiechyd.
Mae Cymru heb gael corff gwarchod amgylcheddol priodol ers Brexit. Rydym yn llusgo’n traed tu ôl i'r holl wledydd eraill y DU, sydd eisoes wedi sefydlu rhai.
Mae llygrwyr wedi osgoi gorfod talu'r pris am hyn ers degawdau. Ac mae dylanwad hyn yn glir: Mae 1 ym mhob 5 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu ac mae ein cymunedau'n dioddef.
Dyma gyfle i ni wella pethau.
Mae deddf amgylcheddol newydd yn cael ei rhoi gerbron y Senedd. Bydd yn:
- rhoi egwyddorion amgylcheddol wrth wraidd y broses benderfynu
- creu corff gwarchod i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd
- arwain at osod targedau bioamrywiaeth i wrthdroi'r dirywiad mewn rhywogaethau.
Mynnwch ddeddf cryf i warchod yr amgylchedd ar gyfer pobl a natur yng Nghymru.
Gadewch i ni sicrhau bod Cymru’n elwa o gorff gwarchod cryf ac annibynnol a all ddwyn gweinidogion a chyrff cyhoeddus i gyfrif a thargedau sy’n ddigon uchelgeisiol i wrthdroi’r cwymp rhydd yn niferoedd ein bywyd gwyllt.