"Sicrhau Dyfodol Cynaliadwy" papur gwyn - ein hymateb

Darllenwch ymatab ymgynghoriad Cyfeillion y Ddaear i'r papur gwyn, "Sicrhau Dyfodol Cynaliadwy: Egwyddorion amgylcheddol, trefniadau llywodraethu a thargedau bioamrywiaeth"

Women walking hand in hand with children in green fields

 

Mae’r Bil hwn yn rhoi’r cyfle i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau i gyfraith amgylcheddol. Gallai hyn gynnwys ymgorffori’r hawliau i wybodaeth am yr amgylchedd, cyfranogiad a mynediad at gyfiawnder – a warchodir o dan Gonfensiwn Aarhus – a chyflwyno’r hawl i amgylchedd glân, iach a chynaliadwy. O leiaf, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyrdd i archwilio sut i ymgorffori’r hawliau pwysig hyn yn llawnach yng nghyfraith Cymru.

Rydym yn croesawu’n fras y cynnig am fframwaith adfer natur statudol newydd ac yn cefnogi ei brif elfennau – prif darged mewn deddfwriaeth sylfaenol; cyfres o dargedau statudol ategol a gyflwynwyd drwy is-ddeddfwriaeth; strategaeth genedlaethol hirdymor; cynllun cyflawni cenedlaethol tymor byrrach; a phroses i gefnogi a sicrhau darpariaeth ar lefel leol. Gan dynnu ar ein profiadau yn ystod y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r fframwaith gosod targedau yn Neddf yr Amgylchedd 2021 Llywodraeth y DU, mae pedwar prif faes lle rydym yn awgrymu y dylid cryfhau’r fframwaith arfaethedig yn y Papur Gwyn mewn nifer o ffyrdd.

Lawrlwythwch ein hymateb llawn isod (yn Saesneg).

Share this page