Unioni’r cam o ran gwaddol hanesyddol Cymru

Published: 17 May 2024

Picture of Kirsty Luff

Kirsty Luff, Swyddog Cyfathrebu, Cyfeillion y Ddaear Cymru

Yn y gorffennol, roedd Cymru yn ‘bwerdy’ diwydiannol. Mae cymunedau lleol o bob cwr o’r wlad – y rhai olaf i elwa ar y cyfoeth aruthrol a ddeilliodd o fwyngloddio, gweithfeydd haearn a diwydiannau echdynnol eraill – yn dal i dalu pris sylweddol.
Ty Llwyd quarry
Contaminated water at Ty Llwyd quarry in Caerphilly (photo courtesy of Paul Cawthorne)

 

Rydw i’n byw wrth ymyl Tŷ Llwyd, sef hen chwarel yng Nghaerffili. Yng nghanol yr ugeinfed ganrif, cafodd y cwmni Americanaidd Monsanto a’i bartneriaid ganiatâd i ollwng biffenylau polyclorinedig (PCBs) yma. Mae’r cemegau hyn, y gwyddys eu bod yn achosi canser, yn gollwng o’r safle, gan ddiferu i lawr y bryn a gwenwyno afonydd a nentydd lleol wrth iddynt lifo trwy goedwig – rhywle lle mae plant yn chwarae a lle mae pobl yn mynd â’u cŵn am dro. Erbyn hyn, rydw i’n edifarhau cerdded yno gyda fy mhlentyn bach.

Yn anffodus, mae Cymru yn frith o safleoedd gwenwynig sy’n gollwng cemegau i’n tir a’n pridd – nid yn unig hen chwareli fel Tŷ Llwyd, ond safleoedd tirlenwi hanesyddol hefyd, yn ogystal â hen fwyngloddiau a hen weithfeydd diwydiannol.

Onid yw hi’n hollol annheg mai pobl leol – sydd byth bron yn cael eu cyfran deg o’r cyfoeth a gynhyrchwyd yn sgil mwyngloddiau, gweithfeydd haearn a diwydiannau echdynnol eraill y gorffennol – sy’n gorfod talu’r pris yn y pen draw?

Sut y daeth sefyllfa o’r fath i fodoli yn y lle cyntaf?

 

Y gorffennol

Tan y Chwyldro Diwydiannol, gwlad wledig oedd Cymru yn bennaf ac roedd llawer o bobl yn ennill eu bywoliaeth ar ffermydd. Dechreuodd popeth newid yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Roedd gan Gymru lu o adnoddau naturiol ac esgorodd hynny ar amrywiaeth eang o ddiwydiannau, yn cynnwys gweithfeydd metel, crochendai a gweithfeydd glo, plwm, llechi a chopr. coal, lead, slate and copper mining.

Merthyr Ironworks 1894
Cyfartha Ironworks in Merthyr photographed in 1894 (https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Cyfarthfa_BlastFurnaces_1894.jpg)

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd ffatrïoedd ddisodli gwaith cynhyrchu domestig a daeth Cymru yn bwerdy diwydiannol. Yn sgil gweithfeydd haearn Merthyr Tudful, erbyn 1830 roedd Cymru yn cynhyrchu hanner yr haearn a gâi ei allforio gan Brydain. Adeiladwyd camlesi a rheilffyrdd er mwyn hwyluso’r dasg o gludo glo a haearn i’r marchnadoedd, ac yn sgil hynny datblygodd Cymru yn un o’r prif allforwyr glo a haearn drwy’r byd. Cynyddodd y boblogaeth a dechreuodd y trefi ehangu, gan esgor ar ddiwydiannau eraill fel gweithfeydd nwy.

Yn yr ugeinfed ganrif, dechreuodd diwydiannau Cymru arallgyfeirio ymhellach, gan fentro i feysydd fel gweithgynhyrchu, gweithfeydd cemegol a phurfeydd ymhlith eraill. Roedd y diwydiannau hyn yn cynhyrchu llawer iawn o lygredd; a hyd ddechrau a chanol yr ugeinfed ganrif, arferid cael gwared â gwastraff gwenwynig trwy ei ollwng ar y tir.

 

Y presennol

Ymlaen â ni at heddiw. Erbyn hyn, mae Cymru yn lle gwahanol iawn. Mae’r mwyafrif o’r diwydiannau trwm wedi diflannu a chaewyd mwynglawdd brig olaf Cymru, sef Ffos y Frân ym Merthyr Tudful, ym mis Medi 2023.

 

Ffos y Fran filling with water
Ffos y Fran opencast mine filling with water (photo courtesy of Coal Action Network)

Tra mae’r perchennog a’r cyngor yn dadlau ynglŷn â’r cynlluniau adfer, mae’r safle’n llenwi â dŵr llygredig. Mae’r sefyllfa hon yn symbol o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ledled y wlad ers blynyddoedd.

Y mis diwethaf (Ebrill 2024), nodwyd mewn adroddiad bod 260 o safleoedd tirlenwi arfordirol mewn perygl ar hyn o bryd o ollwng llygredd i amgylchedd y môr, o ganlyniad i erydu arfordirol, llifogydd a newid hinsawdd.

Tynnodd erthygl ddiweddar gan y BBC ein sylw at y ffaith y gall hen fwyngloddiau metel yng Ngorllewin Cymru fod yn beryglus i iechyd pobl – dros gan mlynedd ar ôl i’r gwyddonydd arloesol Kathleen Carpenter ein rhybuddio ynglŷn â’r effaith a gaiff mwyngloddio am arian a phlwm ar fywyd yn afonydd Cymru.

Yn amlwg, mae cymunedau wedi etifeddu gwaddol ar ffurf tomenni gwastraff gwenwynig, ond maent hefyd wedi etifeddu safleoedd tirlenwi sy’n gollwng llygredd a hen safleoedd diwydiannol a adferwyd yn wael – pob un ohonynt yn beryglus i iechyd y cyhoedd ac i iechyd bywyd gwyllt.

 

Beth nawr?

Trwy lwc, mae pobl leol yn gwybod am beryglon Tŷ Llwyd yng Nghaerffili a gallant osgoi’r safle, diolch i ymdrechion preswylwyr a chynghorwyr sy’n sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r stori.

Faint o safleoedd halogedig eraill sydd i’w cael, a ninnau’n gwybod dim amdanynt? Hyd yn oed yng Nghaerffili, ceir o leiaf dri o safleoedd eraill sydd wedi’u llygru â biffenylau polyclorinedig.

Dylid rhoi blaenoriaeth i hysbysu pobl ynglŷn â hyn cyn gynted ag y bo modd, er mwyn eu cadw nhw a bywyd gwyllt yr ardal yn ddiogel. Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod o’r Senedd, wedi gofyn am gael cofrestr gan ei fod yn bendant ei farn y dylai pobl fod â’r hawl i wybod am leoliad safleoedd gwenwynig hanesyddol.

Ar ôl cael gwybod ble mae’r holl safleoedd hyn, bydd gwaith mawr o’n blaenau i sicrhau bod pobl yn ddiogel, bod rhybuddion yn cael eu harddangos a bod y safleoedd dan sylw yn cael eu hadfer yn briodol. Bydd gwaith adfer o’r fath yn dasg enfawr a bydd y tu hwnt i gynghorau prin eu harian. Yn achos Tŷ Llwyd, er enghraifft, mae Arweinydd Cyngor Caerffili wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ei help.

Mae nifer o daleithiau, dinasoedd, gweithwyr a phreswylwyr yn Unol Daleithiau America wedi llwyddo i gael iawndal gan Monsanto. Mae cyfanswm yr iawndal bellach dros $2 biliwn, ac mae’n dal i godi. Mae Grŵp Gweithredu Tomen Wenwynig Tŷ Llwyd, er enghraifft, yn codi arian er mwyn cael cyngor cyfreithiol i weld a ellir mynd â Monsanto (sydd bellach yn eiddo i Bayer) i’r llys, nid yn unig ar gyfer Tŷ Llwyd ond ar gyfer 12 o safleoedd gwenwynig eraill sy’n eiddo i’r cwmni ac a leolir ledled Cymru a Lloegr.

Mewn byd delfrydol, byddai’r llygrwr yn talu; ond fel y dengys y frwydr dros adfer Ffos y Frân, gwaith anodd iawn yw gorfodi gweithredwyr i adfer safleoedd cyfredol, heb sôn am safleoedd 50 neu 60 oed – neu hŷn, hyd yn oed!

 

Ymchwiliad cyhoeddus

Mae Cymru wedi bod yn brin o lywodraethu amgylcheddol priodol ers Brexit, ac mae’r arllwysiad o straeon erchyll yn y cyfryngau ar garthffosiaeth yn cael ei ollwng mewn afonydd a moroedd yn datgelu bod llygredd yn dal i fod yn broblem enfawr (a chynyddol i bob golwg) heddiw. Mae’n rhyddhad gweld bod y Papur Gwyn, “Sicrhau Dyfodol Cynaliadwy: Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth ar gyfer Cymru Wyrddach” yn mynd drwy’r Senedd.

Ni all y corff gwarchod amgylcheddol newydd hwn ddod yn ddigon buan i amgylcheddwyr, cadwraethwyr, ac ymgyrchwyr, sy’n cael sioc a thristwch gan effaith lefelau erchyll o lygredd ar fywyd gwyllt mewn argyfwng natur. Mae hwn yn gyfle gwych i fwrw ymlaen ag ymagwedd seiliedig ar hawliau at gyfraith amgylcheddol (gweler ymateb Cyfeillion y Ddaear i’r ymgynghoriad yma).

Mae mwy o atebolrwydd ac amddiffyniad i bobl a bywyd gwyllt yn hanfodol, ond rhaid inni beidio ag anghofio am y gorffennol ac ailystyried etifeddiaeth hanesyddol Cymru.

Mae’r amser wedi dod i Lywodraeth Cymru hyrwyddo’r achos er mwyn cael cyfiawnder i gymunedau lleol a sicrhau eu bod yn ddiogel, yn ogystal â sicrhau y gall bywyd gwyllt lleol ffynnu. Byddai ymchwiliad cyhoeddus annibynnol yn gam cyntaf priodol.

Mae a wnelo hyn â mwy nag iechyd y cyhoedd neu ddiogelu ein bywyd gwyllt gwerthfawr. Mae a wnelo hyn â chyfiawnder a’r math o wlad y dymunwn ei chael.

Rhaid inni unioni’r cam o ran gwaddol hanesyddol Cymru. Dewch inni weithio gyda’n gilydd i wireddu hyn.

 

Sut y gallwch helpu?

Os ydych yn byw wrth ymyl tomen wastraff wenwynig, safle tirlenwi sy’n gollwng, neu unrhyw dir y credwch ei fod yn halogedig ac sy’n destun pryder ichi, hoffem glywed gennych.

Anfonwch e-bost i’r cyfeiriad [email protected]

Share this page