Dylai pawb fod â hawl i amgylchedd iach

Published: 25 Jul 2024

Photo of Kierra Box

Kierra Box
Ymgyrchydd Rheoliadau Masnach ac Amgylcheddol
Cyfeillion y Ddaear

Ers blynyddoedd, mae gormod o lygrwyr wedi cael llonydd i wneud fel y mynnont yng Nghymru. Fel yr esbonia Kierra, does gan y cymunedau hynny yng Nghymru sy’n dioddef effeithiau llygredd ddim corff gwarchod amgylcheddol o’r iawn ryw y gallant droi ato. Ond efallai y bydd hyn yn newid.
Floating turds sign
Robert Brooks (Getty Images)

Pam y mae llygrwyr yn parhau i lygru

Gwyddom fod Cymru yn frith o safleoedd gwenwynig sy’n gollwng cemegau a metelau niweidiol i’n tir a’n pridd – o hen chwareli fel Tŷ Llwyd i safleoedd tirlenwi hanesyddol, hen fwyngloddiau fel Ffos y Frân a hen weithfeydd diwydiannol. Ond nid llygredd hanesyddol yn unig sy’n andwyo ein cymunedau a’n byd natur. Daethpwyd o hyd i ficroblastigau mewn priddoedd a dyfroedd ledled Cymru. Rhwng 2020 a 2022, gwelwyd bod 80% o ffermydd llaeth Cymru wedi torri rheolau llygredd. Hefyd, y llynedd gollyngwyd carthion i afonydd a moroedd Cymru fwy na 100,000 o weithiau.

Mae’r cymysgedd gwenwynig hwn, law yn llaw ag effeithiau llygredd aer, colledion bioamrywiaeth a dinistrio mannau gwyrdd, yn cael effaith ofnadwy ar bobl a natur, yn enwedig yn y cymunedau mwyaf difreintiedig.

Nid yw pob enghraifft o lygredd mor amlwg a gweladwy â charthion mewn dŵr neu blastig wedi’i wasgaru ar y ddaear. Er mwyn atal llygredd yn y lle cyntaf, rydym angen cyfreithiau a rheolau cryf ynglŷn â’r hyn y caiff / na chaiff cwmnïau ei wneud. Ac mae angen i’r llywodraeth, i reoleiddwyr ac i awdurdodau lleol fonitro’r dŵr, yr aer a’r pridd am fathau eraill o lygredd, a gwirio bod systemau ar waith fel y gellir atal neu ddatrys problemau a allai effeithio ar bobl neu natur. Yn syml, nid yw’r mesurau diogelu hollbwysig hyn yn gweithio’n iawn.

 

Picture of contaminated land
Robert Brooks (Getty Images)

 

1. Diffyg arian

Mae’r diffyg arian ar gyfer rheoleiddwyr amgylcheddol yn golygu bod llai o wybodaeth ar gael. Mae hefyd yn golygu bod ansawdd yr wybodaeth sydd ar gael yn is a bod llygrwyr yn llai tebygol o wynebu camau gorfodi, camau cyfreithiol neu gosbau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gorfod wynebu toriad o 36% yn ei gyllid ers 2013/2014, ac yn amlwg mae hyn wedi effeithio ar waith monitro a gorfodi. Yn wir, darganfu’r Byd ar Bedwar fod CNC wedi peidio â mynychu mwy na hanner y digwyddiadau llygredd y tynnwyd sylw’r corff atynt rhwng mis Ionawr 2023 a mis Ionawr 2024.

Gallwn weld canlyniadau hyn oll yn y sgandal carthion, oherwydd daeth yn amlwg nad oedd nifer o safleoedd yn cael eu monitro o gwbl a bod nifer o systemau ar chwâl ac nad oeddynt yn cofnodi pethau drwy gydol y flwyddyn.

 

2. Diffyg gwybodaeth

Mae gwaith ymchwil diweddar yn amcangyfrif bod 200,000 o bobl ledled Cymru yn byw o fewn cilometr i orlifdir sydd wedi’i halogi gan weithfeydd mwyngloddio metel hanesyddol. Ond hyd yn hyn, ni cheir unrhyw fap cenedlaethol o’r peryglon er mwyn gweld ble yn union y mae tocsinau i’w cael, ac ar ba lefel. Os nad yw pobl yn gwybod bod eu hamgylchedd yn wenwynig neu wedi’i lygru, ni allant gymryd camau i osgoi niwed na gofyn am gael clirio a glanhau’r problemau


3. Diffyg deddfwriaethau a rheoliadau effeithiol

Ty Llwyd quarry
Ty Llwyd quarry in Caerphilly (Paul Cawthorne)

 

Y broses gynllunio sy’n delio â thir halogedig; rhan fechan yn unig sydd gan ddeddfwriaeth yn y broses (Rhan 2A o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a Thir Halogedig: Canllawiau i Awdurdodau Lleol 2012).

Hyd yn oed pan fo cymunedau’n ymwybodol o ryw broblem, gallant wynebu brwydr anodd o ran dynodi’r tir yn ‘dir halogedig’, a hynny oherwydd deddfwriaeth hen ffasiwn ac aneffeithiol a luniwyd cyn datganoli. Er enghraifft, er bod Cyngor Caerffili wedi cael rhybudd gan CNC am adael i ddŵr halogedig lifo ar y ffordd, nid yw’r safle gwenwynig byth wedi’i ddynodi’n safle halogedig, er gwaethaf ymdrechion ymgyrchwyr, dadlau mawr yn lleol a sylw ar y cyfryngau. Y llygrwyr, nid y bobl, sy’n meddu ar y pŵer.

Ffos y Fran
Ffos y Fran, a former opencast mine, has yet to be remediated and is filling with water (photo courtesy of Coal Action Network)

 

Beth yw’r ateb?

Yn gryno, os ydym eisiau amgylchedd iachach a mwy cynaliadwy, rydym angen cyfreithiau gwell a gaiff eu gorfodi’n well a’u hintegreiddio’n well â mesurau eraill er mwyn amddiffyn ein hawliau dynol, ynghyd â’r offer cyfreithiol priodol y gall pawb eu defnyddio i fynnu cyfiawnder.

The Senedd
The Senedd (Welsh parliament)

Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth newydd

Mae Cymru ar ôl gweddill y DU o ran disodli’r mesurau hynny a ddaeth i ben ar ôl Brexit mewn perthynas â diogelu’r amgylchedd, a hefyd o ran sefydlu corff gwarchod amgylcheddol parhaol i Gymru. Ond bydd y Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth newydd yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Dylai osod targedau ar gyfer gwella amgylchedd Cymru, dylai gyflwyno cyfres o ‘egwyddorion amgylcheddol’ a all arwain llunwyr polisïau a dylai sefydlu Asesydd Amgylcheddol parhaol i Gymru.

Ond mae modd i Gymru fynd ymhellach fyth.
 

Gwneud ein hawliau yn realiti

Yn rhyngwladol, mae’r DU wedi ymrwymo i Gonfensiwn Aarhus 1998, sy’n cydnabod y dylai pawb fod â hawl i gael amgylchedd iach a chynaliadwy. Ond nid oes yr un gyfraith wedi’i phasio erioed ar gyfer gweithredu’r hawl hon i bobl sy’n byw yn y DU – nac ar gyfer rhoi’r offer priodol iddynt gogyfer ei defnyddio.

Yn 2022, cytunodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fod yr hawl ddynol hon yn bwysig o ran ategu hawliau dynol sylfaenol eraill. Ac yn yr Alban yn ddiweddar, cynhaliodd y llywodraeth ymgynghoriad ynglŷn â Deddf Hawliau Dynol, yn cynnwys hawl gyfreithiol i amgylchedd iach.

Mae hi’n amser troi hynny’n realiti yng Nghymru hefyd.
 

Sicrhau cyllid, annibyniaeth a chryfder

 

Mae Cymru wedi bod ag Asesydd Amgylcheddol ‘interim’ ers tair blynedd bellach. Mae pwerau, gallu a chwmpas yr asesydd interim hwn wedi bod yn gyfyngedig, ac o’r herwydd mae hi wedi bod yn anos i bobl Cymru ysgogi camau ar gyfer gwella’r modd y cydymffurfir â chyfreithiau amgylcheddol, o gymharu â phobl yng ngweddill y DU. Er mwyn i hyn newid, rhaid i’r asesydd parhaol allu cynnig systemau priodol ar gyfer canfod problemau, gwneud iawn i gymunedau ac ysgogi camau gan gyrff cyhoeddus.

Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr y bydd ganddo’r cyllid, yr annibyniaeth a’r cryfder i ddelio â chwynion gan unigolion, lansio ymchwiliadau a goruchwylio’r modd y bydd Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â chyfreithiau amgylcheddol – yn yr un modd â Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ac Environmental Standards Scotland yn yr Alban.

Mae hefyd yn golygu dysgu ar sail profiadau Asesydd Amgylcheddol Interim Cymru a’r cyrff gwarchod statudol sy’n bodoli eisoes, er mwyn i’r corff gwarchod newydd allu mynd i’r afael â’r gwaith yn syth a chanolbwyntio ar y materion pwysicaf, gan esgor ar y canlyniadau mwyaf effeithiol posibl.

Dylai’r Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth wneud mwy na llenwi’r bylchau a adawyd ar ôl Brexit, y daethpwyd o hyd iddynt yn gyntaf yn 2018. Gall wneud mwy i adeiladu ar nodau a dyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sy’n mynnu y dylai cyrff cyhoeddus ‘ymgymryd â datblygu cynaliadwy’ trwy gyflwyno hawl benodol i amgylchedd iach a dyletswydd benodol i holl rannau’r llywodraeth weithredu mewn modd a fydd yn cyd-fynd â’r hawl hon.

Gellid datblygu hyn ar sail profiad diweddar yn yr Alban, lle caiff Deddf Hawliau Dynol newydd ar gyfer yr Alban ei hystyried – ac yn y Cenhedloedd Unedig, lle mae’r hawl ddynol i amgylchedd iach wedi bod ar frig yr agenda yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac fe allai weithredu ymrwymiadau a wnaed gan lywodraeth y DU dan Gonfensiwn Aarhus dros 25 mlynedd yn ôl – sef hawl ddynol gyfreithiol i amgylchedd iach, a ategir gan lwybrau cyfranogi, hawl i gael mynediad at wybodaeth a hawl i fynd ar drywydd cyfiawnder.

 

Sut y gallai hyn weithio’n ymarferol?

Efallai fod mwynglawdd ger tref yng Nghymru wedi cau yn y gorffennol agos neu beth amser yn ôl. Ychydig iawn o bobl sy’n cofio’r mwynglawdd heddiw, er eu bod yn gallu gweld olion cloddio a diwydiant ar y tir.

Ymlaen â ni i 2027. Mae’r trigolion yn sylwi ar bethau sy’n peri pryder iddynt. Mae da byw yn clafychu ac yn marw ar ôl llifogydd blynyddol, a gwaharddwyd yr arfer o dyfu cynnyrch ar randiroedd lleol gan fod pobl wedi mynd yn sâl ar ôl bwyta llysiau a dyfwyd yno. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi troi at ddefnyddio dŵr potel gan fod blas ‘od’ ar y dŵr tap ar brydiau.

Mae aelodau’r gymuned wedi clywed bod hen fwynglawdd i’w gael gerllaw ac maent yn poeni mai hen lygredd o’r mwynglawdd sy’n gyfrifol am halogi tir a dŵr yr ardal. Ond ar ôl holi’r cyngor, ni cheir unrhyw gofnod bod y tir wedi’i halogi gan hen lygryddion ac ni cheir cynlluniau i wneud unrhyw beth ynglŷn â’r sefyllfa.

Mae aelodau’r gymuned yn dechrau treiddio’n ddyfnach i’r mater. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi deddfu bod gan bawb hawl i gael gafael ar wybodaeth, daw aelodau’r gymuned o hyd i ragor o wybodaeth am y llygredd hanesyddol sy’n gysylltiedig â’r mwynglawdd, a gwelant nad oes unrhyw archwiliadau wedi’u cynnal ar y priddoedd a’r dyfroedd o amgylch y dref. Gwelant fod y gwaith glanhau wedi canolbwyntio ar y mwynglawdd ei hun, heb ystyried sut y gallai llygredd ledaenu trwy briddoedd a dyfroedd. Maent yn anfon cwyn at y cyngor ac yn dweud bod angen cynnal archwiliad lleol, fel y gellir dynodi’r tir yn ‘dir halogedig’, gan fynd ati wedyn i ddatrys y broblem. Maent yn atgoffa’r cyngor bod y gyfraith newydd yn gwarantu bod gan bawb yng Nghymru hawl gyfreithiol i amgylchedd iach. Mae’r corff gwarchod wedi clywed am y broblem hefyd ac mae’n dechrau ymchwilio i’r math hwn o lygredd ledled Cymru.

Yn awr, mae llygaid y gymuned a’r corff gwarchod ar y cyngor ac ar Lywodraeth Cymru. Gall pobl yr ardal a’r corff gwarchod fynd â’r cyngor neu’r llywodraeth i’r llys os na fyddant yn gweithredu. Byddent yn debygol iawn o lwyddo – oherwydd mae anwybyddu tir halogedig a’r niwed a wna i bobl a natur yn anghydnaws â’r hawl i amgylchedd iach. A chan fod y gyfraith newydd hon hefyd yn gwarantu mynediad at gyfiawnder, mae aelodau’r gymuned yn gwybod y bydd unrhyw gamau cyfreithiol yn fforddiadwy gan y bydd cap yn cael ei osod ar eu costau cyfreithiol.

O ganlyniad, mae’r cyngor yn ymchwilio i lefel y llygredd hanesyddol yn yr ardal, mae’n dynodi rhannau o’r tir yn ‘dir halogedig’ ac mae’n llunio cynllun ar gyfer datrys y sefyllfa. Enghraifft ddychmygol yw hon, wrth gwrs, ond mae’n debyg i sefyllfaoedd eraill ledled Cymru – sefyllfaoedd nad eir i’r afael â nhw ar hyn o bryd.

 

Cyfle hanesyddol

Fel y dengys y straeon ar y cyfryngau, mae llygrwyr wedi cael llonydd i wneud llu o bethau ofnadwy ar hyd a lled Cymru ers blynyddoedd.

Mae rhai cyfreithiau’n rhy wan ac ni chaiff cyfreithiau eraill eu gorfodi na’u rhoi ar waith yn briodol. Mae hyn yn esgor ar anghyfiawnder amgylcheddol enfawr. Mae pobl a natur yn dioddef, ac ni allant wneud unrhyw beth ynglŷn â’r sefyllfa.

Mae’r Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth yn gyfle unwaith mewn oes i unioni’r cam. Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yn fawr ohono. Dylai pob un ohonom fod â hawl i amgylchedd iach. Dewch inni wireddu hyn. 

 

Share this page