Sut y bu i Gaerffili elwa ar Goedwig Fach

Mae Lynn Gazal, mam llawn amser ac ymgyrchydd amgylcheddol a Terry Gordon, peiriannydd Geodechnegol wedi ymddeol, yn adrodd yr hanes sut y daeth grŵp cymunedol â Choedwig Fach i'w parc lleol yn ystod Pandemig Covid-19 a rhai pethau a ddysgont ar hyd y ffordd.

Gan Lynn Gazal a Terry Gordon
Gweithredu Hinsawdd Caerffili

Ym Mharc Morgan Jones yng Nghaerffili, yn tyfu ar lethr ysgafn rhwng maes chwarae i blant a phwll â chyrs a llafrwyn ar hyd ei ymyl, fe welwch “Goedwig Fach”.

Mae 600 o goed ifainc (gwern, bedw, ffawydd, cyll, derw ac eraill sy'n frodorol i'r ardal) yn gwthio am le mewn llecyn wedi'i ffensio sydd ddim mwy na chwrt tennis. Os byddwch yn agor y giât, fe gerddwch i mewn i lecyn agored, crwn a grëwyd ar gyfer gweithgareddau ysgol goedwig, yna ewch yn eich blaen ar hyd llwybr troellog drwy’r goedwig.

 

Coedwig Fach Caerffili, Ionawr 2022 (llun drwy garedigrwydd Kirsty Luff)

Wedi’i blannu ychydig fisoedd yn ôl yn unig, dechreuodd Coedwig  Fach  Caerffili mewn trafodaethau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yn gynnar yn 2020, wrth i’r pandemig daro. Diolch i'r cyngor lleol, grant gan y CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru), a nifer gynyddol o wirfoddolwyr a busnesau lleol, eginodd y syniad yn gynllun, ac yna i goedwig go iawn, yn gynnar ym mis Tachwedd 2021.

Stori yw'r blog hwn am sut ddigwyddodd y cyfan trwyddon ni a beth ddysgon ni ar hyd y ffordd!

 

Pam coedwig fach?

Efallai eich bod yn gofyn i chi’ch hun pam fod angen Coedwig Fach yng Nghaerffili?

Mae Coedwigoedd Bach yn seiliedig ar egwyddorion cynyddol Dull Miyawaki, sef syniad botanegydd o'r enw Akira Miyawaki. Mae rhyw gymaint o waith ymchwil gwyddonol wedi nodi y gall coedwigoedd bach dyfu hyd at ddeg gwaith yn gyflymach yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyntaf a gallant fod hyd at 20 gwaith yn fwy bioamrywiol na choedwigoedd arferol.

Roedd Akira Miyawaki yn dymuno adfer llystyfiant naturiol yn glytiau o dir diffaith, felly plannodd dros 1000 o goedwigoedd bach, trwchus yn Japan, lle’i ganed.

Er bod Coedwigoedd Bach yn ddelfrydol ar gyfer lleiniau bach o dir, maent, hefyd, yn hafan i fywyd gwyllt lleol ac mae eu coed yn amsugno carbon o'r aer ac yn lliniaru Newid yn yr Hinsawdd. Mae eu gwreiddiau yn amsugno dŵr glaw, a all helpu i atal llifogydd.

Mae Coedwigoedd Bach yn gyfle gwych i bobl, yn enwedig y genhedlaeth iau, gysylltu â byd natur a chydag eraill a dysgu am y bywyd gwyllt sydd ar garreg eu drws.

 

Sut y dechreuodd popeth

Yn ystod gwanwyn a haf 2020, roedd trigolion Caerffili, oedd yn bryderus am newid yn yr hinsawdd, yn sgwrsio ar WhatsApp am beth i'w wneud nesaf. Roedd pob un ohonom wedi bod i rai o gyfarfodydd ‘Cychwyn Gweithredu Hinsawdd’ a drefnwyd gan grŵp newydd o’r enw Gweithredu Hinsawdd Caerffili ddiwedd 2019.

Ysbrydolwyd Marianne gan waith Miyawaki ac awgrymodd Goedwig Fach. Cynigiwyd Parc Morgan Jones y tu ôl i Gastell Caerffili yn safle posib. Roedd ynddo gaffi cymunedol, oedd yn boblogaidd gyda theuluoedd, caeau chwarae a pharc oedd yn dueddol o ddioddef gan lifogydd.

Cynigiodd Jamie, sy'n gynghorydd lleol, gysylltu â'r tirfeddiannwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ar ôl un neu ddau o ymweliadau safle o bellter cymdeithasol gydag Ecolegydd y Sir, Maggie Isles a Simon Beacham o'r Adran Barciau, rhoddodd y cyngor ganiatâd i ni fwrw ymlaen. Y rhwystr 

Rhai o aelodau Gweithredu Hinsawdd Caerffili yn sefyll yn y llecyn a fwriadwyd ar gyfer y goedwig fach yn hydref 2020
 

Dechrau Trefnu

Roedd Ecolegydd y Sir, Maggie Isles, wedi awgrymu ein bod yn gwneud cais am Grant Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi gan y CGGC.  Erbyn hynny, roedd Cath wedi ymuno â’n tîm, ac mae ganddi arbenigedd yn y maes hwn. Er mwyn bod yn gymwys, roedd yn rhaid i ni fod yn grŵp cyfansoddiadol, gyda chyfansoddiad grŵp, cyfrif banc ac aelodaeth ffurfiol ar gyfer pleidleisio ar benderfyniadau, a rolau allweddol, megis Cadeirydd, Trysorydd ac Ysgrifennydd. Gweithiodd Marianne a Cath o fore gwyn tan nos i wireddu hyn ac, yn gwbl haeddiannol, trwy bleidlais, cawsant eu hethol yn Gadeirydd ac Ysgrifennydd, yn y drefn honno.

Ymdrech ar y cyd oedd y cais am gyllid, gyda Cath yn tynnu’r cyfan at ei gilydd cyn ei anfon at adran codi arian Cyfeillion y Ddaear i gael eu hadborth. Ym mis Chwefror 2021, fe neidion ni i fyny ac i lawr (ar ein haelwydydd ein hunain!), pan gawsom wybod ein bod wedi bod yn llwyddiannus. Ychydig o amser a gawsom i feddwl dros bethau - roedd angen plannu'r coed yn yr hydref, felly roedd rhaid cynllunio!

Fe drefnon ein hunain yn grwpiau - codi arian, cyhoeddusrwydd, ysgolion, coed a gweithgorau pridd, yna mynd ati i weithio. 

 

Lledaenu’r gair

 

Gweithiodd ein grŵp cyhoeddusrwydd yn agos gyda thîm Cyfathrebu Cyngor Caerffili i ledaenu’r gair. Roedd Coedwig Fach Caerffili yn cael ei phlannu yn y cyfnod cyn sgyrsiau’r Cenhedloedd Unedig ar yr Hinsawdd, bachyn gwych i newyddiadurwyr a neidiodd ar y cyfle i roi sylw i'n stori. Bu i ni rannu’r sylw a gawsom gan y BBCSouth Wales Argus, a’r Caerphilly Observer ar ein cyfrifon newydd ar TwitterFacebook ac Instagram . Gwrandewch ar y sylw a gawsom ar Radio BBC Wales yma.

Fe ddechreuon ni, hefyd, sgwennu blogiau i gofnodi ein taith tuag at greu Coedwig Fach Caerffili. 

Diolch i grant gan Brosiect Cynnal Tirwedd Caerffili, roeddem yn gallu gweithio gyda dylunydd ar ein brand. Felly, yn y cyfnod cyn y diwrnod plannu cyhoeddus (mwy am hyn yn nes ymlaen!) cawsom ein harfogi â logo a phalet lliw, oedd yn ei gwneud yn llawer haws creu print deniadol a deunydd cyhoeddusrwydd ar-lein. 

 

 

Denu Sylw Ysgolion

Ysgol Gynradd Rhydri 

Tra oedd y Grŵp Cyhoeddusrwydd yn hyrwyddo gweithdai haf (helfeydd planhigion a chwilod), ac yn trefnu’r plannu mawr, roedd y Grŵp Ysgolion yn brysur yn denu plant ysgol lleol i mewn i’r gwaith.

Aeth sawl ysgol (Ysgol Gynradd Hendredenny, Plas y Felin, Ysgol Gynradd Rhydri, Ysgol Gymraeg Caerffili) ac oedolion ifanc o Lamau i weithdai sylfaenol bioamrywiaeth ‘Gwyddoniaeth y Dinesydd’ i gofnodi bioamrywiaeth y safle cyn plannu’r coed.

Yn ddiweddarach, byddai disgyblion o'r un ysgol yn ymweld â'r safle eto i blannu coed ifainc. Yn gyntaf, roedd cryn dipyn o waith i'w wneud yn paratoi'r safle ond, yn ffodus, roedd gennym Terry! 

 

Paratoi’r Safle

Doedd yr un ohonom wedi bod yn gysylltiedig â Choedwig Fach o’r blaen, ond buom yn ffodus i gael arweiniad gan eraill, yn enwedig gan IVN (Cwrs ar-lein a Llawlyfr Coedwig Fach) sydd wedi plannu tua 100 o Goedwigoedd Bach yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg ers 2015.

Cynhaliodd Terry arolwg pridd (pyllau arbrofi lle cloddir â llaw) ym mis Rhagfyr 2020 i wirio bod y safle a ddewiswyd yn addas ac i roi gwybodaeth ar gyfer y cais am grant.

Yn ystod gwanwyn/haf 2021, ymwelwyd â choedwigoedd yng Nghaerffili a’r cyffiniau a’u hastudio a chwblhawyd arolwg manwl a rhestr eiddo yng Nghoed y Maerdy, coedwig frodorol hynafol yn ardal Gwern y Domen, sy’n ardal heb ei datblygu.

 

Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, fe benderfynom ar hoff restr blannu o 28 o goed a llwyni brodorol. Heathwood Nurseries (yr Amwythig) a gynigiodd y dyfynbris mwyaf cystadleuol, ar gyfer 600 o goed ifainc a dyfwyd mewn celloedd. Roedd yn well gennym y rhain yn hytrach na chwipiau oedd â gwreiddiau noeth, na fyddai wedi bod ar gael tan ddiwedd mis Tachwedd.

Er mwyn osgoi tywydd gwael a thir gwlyb posibl, ein bwriad oedd paratoi'r safle ddiwedd mis Medi a phlannu'r Goedwig Fach ym mis Hydref. Fel y digwyddodd, bu anhawster gyda chaffael ffensys perimedr golau lliw castan, felly aildrefnwyd y gwaith plannu ar gyfer wythnos gyntaf mis Tachwedd.

Dan gyfarwyddyd Terry, paratowyd y tir ddiwedd mis Medi gan gontractwr tirwedd, JS Lee Ltd, yn gweithio ar ran y Cyngor. Trefnwyd pum tunnell o bridd organig, atodol, lleol. Roedd yn cynnwys compost aeddfed a gynhyrchwyd o wastraff gwyrdd Caerffili ac a roddwyd gan Grŵp Bryn; tail buarth aeddfed, yn rhoddedig gan Fferm Nant y Calch; a gwellt wedi ei dorri. Cyn eu dosbarthu i'r safle, câi’r deunyddiau hyn eu cymysgu yn iard y contractwr, gan ddefnyddio cymysgydd troi.

I baratoi'r safle, roedd rhaid sgimio haen denau o dyweirch ac uwchbridd, cymysgu'r atodiad pridd a'r tyweirch wedi’i stripio yn drylwyr gyda'r pridd oddi tano i ddyfnder o 1m, ac yna ailosod yr haen uwchbridd. Gwnaed hyn dro ar ôl tro, fesul darn, ar draws y lle a gâi ei blannu.

Er mwyn osgoi rhwystrau plannu posibl, cafodd y cobls a'r clogfeini eu dewis â llaw cyn ailosod yr haen uwchbridd. Defnyddiwyd y rhain i ffurfio ymylon i'r llwybr a’r dosbarth. Wedi hynny, adeiladodd gwirfoddolwyr y llwybr a'r ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio sylfaen o wastraff chwarel, a roddwyd gan JS Lee Ltd, a haenen uchaf o raean hunanrwymol.

Gosodwyd y ffens golau lliw castan gan JS Lee Ltd, dan gontract, yn ystod wythnos olaf mis Hydref.

 

 

 

 

Yr Wythnos Blannu

Erbyn dechrau mis Tachwedd roedd y safle'n barod. Roedd angen plannu ychydig o goed - tua 600 i fod yn fanwl gywir, ond nid oeddem yn brin o gymorth!

Yn yr wythnos yn arwain at y diwrnod plannu cyhoeddus, daeth plant ysgol lleol o Ysgol Gynradd Parc Hendredenny, Ysgol Gyfun Martin Sant, Ysgol Gynradd Plas Y Felin, Ysgol Gynradd Rhydri, Ysgol Gymraeg Caerffili, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ac Y Gwyndy i blannu coed, cymryd rhan mewn celf tir Coed Diolchgarwch a helpu i greu arddangosfa o ddymuniadau ac Addewidion Hinsawdd yng Nghaffi Cymunedol yr Hen Lyfrgell gerllaw.

Cafodd y plant eu cyfweld gan BBC Wales Heno (S4C) gan ymddangos ar y prif newyddion a’r radio.

Ar 6 Tachwedd, sef Diwrnod Byd-eang Gweithredu dros yr Hinsawdd, daeth dros 400 o bobl i Barc Morgan Jones i blannu coeden a mwynhau’r gweithgareddau eraill yr oeddem wedi’u cynllunio, megis peintio wynebau, adrodd straeon, bît-bocsio, dawnsio stryd (oedd yn portreadu cylch bywyd coeden), Celf Tir ac Addewidion Hinsawdd.

 

Lluniau o’r diwrnod plannu

(courtesy of Kelly Brightman)

 

 


Beth nawr?

Byddwn yn gofalu am y goedwig ac yn ei dyfrio mewn cyfnodau sych, gan ddefnyddio’r tanc dŵr sy’n cynaeafu dŵr o do’r neuadd eglwys gyfagos, pibell hir iawn a llethr serth.

Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud cynlluniau ar gyfer digwyddiad cymunedol i ddadorchuddio ein harwydd Coedwig Fach. Ein bwriad, hefyd, yw gwella ystafell ddosbarth yr ysgol goedwig gyda gwestai chwilod, gwelyau uchel, baddon adar, a dodrefn dosbarth coedwig. Mae gan rai ohonom ein hyfforddiant Ysgol Goedwig ac eraill yn gobeithio ymgymryd ag o. Yn y tymor hir, hoffem gynnal sesiynau addysgol gydag ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, agwedd bwysig iawn o ethos Coedwig Fach.

Ein gobaith yw creu mynediad i'r anabl i'r Goedwig Fach ar hyd llwybr pren ar hyd y pwll. Mae'r cyngor yn gytûn ond, ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar bosibiliadau ariannu hyn i weld a fydd yn bosibl.

Rydym hefyd yn cynllunio rhaglen lle gall oedolion a phlant fod yn warchodwyr coedwig, creu perchnogaeth o’r goedwig yn y gymuned leol, meithrin cariad at natur a stiwardiaeth amgylcheddol.

Gwyliwch ein fideo YouTube

 

 

 

Yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn

 

Doedd dim digon ohonom! Roeddem yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i wirfoddolwyr oedd ag amser i ymrwymo i'r gwaith cefndir helaeth sydd ei angen i gyflawni'r prosiect hwn. Yn enwedig mewn pandemig, pan olygai salwch neu ynysu ein bod yn gorfod gwneud heb bobl bwysig ar adegau tyngedfennol, gan adael y gwirfoddolwyr oedd yn weddill dan bwysau. Gwnaeth hyn i ni feddwl am bwysigrwydd blaengynllunio i greu cronfa o wirfoddolwyr. Mae'n ymddangos bod pobl eisiau cymryd rhan mewn tasgau ymarferol yn yr awyr agored ac rydym bellach wedi dechrau llunio cronfa ddata o wirfoddolwyr nad ydynt am ymrwymo i gyfarfodydd, ond sy'n hoff o weithio yn yr awyr agored. Daeth galwad yn ystod yr wythnos blannu â mewnlifiad o gynorthwywyr a barodd i’r dyddiau fod yn llawer mwy pleserus.

 

Gall bod yn "destun siarad" fod yn beth da. Bu i ni ddysgu am bwysigrwydd rhwydweithio cymunedol, adeiladu cymunedol ac allgymorth. Daethom yn arbenigwyr ar sicrhau y deuai popeth o ffynonellau lleol a’u bod mor fuddiol i’r gymuned leol â phosibl. Roedd hyn yn help i ni ychwanegu at boblogrwydd y prosiect a chynyddu ei arwyddocâd i bobl Caerffili, a ddaeth yn eu niferoedd mawr. Er enghraifft, rhoddodd y Tad Kelly, o’r eglwys drws nesaf i’r parc, y tir i ni gadw’r tanc dŵr arno er mwyn dyfrio’r goedwig. Rhoddodd gyhoeddusrwydd i'r digwyddiad yn ei gylchlythyr a rhoi gwybod i’w gynulleidfa amdano. Daeth draw ar y diwrnod ac roedd yn llawn cyffro a, thrwy hynny, yn ysbrydoli eraill!

 

Diolch!

 

Hoffem ddiolch i’r canlynol:

Cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

 

  • Simon Beacham, Margaret Iles Phillipa Marsden, Jamie Pritchard

Ariannu:

  • Y CGGC 
  • Prosiect Cynnal Tirwedd Caerffili

 

Cymorth a rhoddion:

  • Grŵp Bryn - compost
  • Collin Elsbury - coed
  • Daan Bleichrodt - IVN – cyngor, gwybodaeth, cwrs.
  • Cyfeillion y Ddaear - cyngor ac arbenigedd
  • John Hickman (Witney Tiny Forest, Rhydychen) - cyngor 
  • Y contractwr J S Lee Ltd – gwastraff chwarel
  • Mighty Oaks Tree Solutions – sglodion coed ar gyfer tomwellt
  • Ffarm Nant y Calch - tail
  • Pat Jones Jenkins - cyngor
  • Ron Davies - cyngor (coed, ecoleg)
  • Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ruperra - giardiau coed wedi’u hailgylchu
  • Y Tad Kelly ac Eglwys Babyddol Santes Helen – cadw tanc dŵr ar dir yr eglwys

 
Busnesau:

  • Rose Innes Designs
  • Yr Hen Lyfrgell
  • Inka Print
  • Kelly Daniel, Ffotograffydd

 

Y Cyfryngau:

  • Ben Price, BBC
  • Lewis Rhys Jones – Heno, S4C

 

Celfyddydau ac Adloniant:

  • David Van Eker
  • Kate Raggett, Arlunydd Tirweddau
  • Megan Lloyd, Storïwr
  • Nyell Graycloud – Bît-bocsiwr
  • Uncle Matt – peintio wynebau

 

Ysgolion ac Addysg

  • Ysgol Gynradd Parc Hendredenny
  • Ysgol Gynradd Plas Y Felin
  • Ysgol Gynradd Rhydri
  • Ysgol Gyfun Martin Sant 
  • Ysgol Gyfun Cwm Rhymni 
  • Ysgol Gymraeg Caerffili 
  • Llamau 

 

Unigolion

  • Delyth Jewell
  • Colin Elsbury
  • Hefin David
  • Wayne David

 

 

 

 

 

Rhanwch yr tudalen hwn

Eisiau sicrhau newidCymrwch Rhan neu Rhoddwch i ni