Ydy llifogydd yn gwaethygu yng Nghymru?
Crynodeb
Fel y mae gwyddonwyr hinsawdd wedi ei ragweld, mae’r tywydd ledled y byd bellach yn fwy gwyntog, yn wlypach ac yn wylltach ac mae Cymru’n fwy tueddol o brofi digwyddiadau yn sgil y tywydd eithafol hefyd.
Yn ystod y degawd diwethaf, rydym wedi gweld mwy o lifogydd, yn ein dinasoedd ac yn y cefn gwlad, p’run ai yn sgil glaw trwm, cynnydd yn llif afonydd neu ymchwydd moroedd. Hyd yn oed gyda systemau rhybudd ymlaen llaw yn eu lle a gwell amddiffynfeydd rhag llifogydd, mae gofyn i ni ddod yn llawer cadarnach yn wyneb llifogydd a defnyddio cyfres ehangach o offer rheoli llifogydd a’r system gynllunio er mwyn rhoi sylw i’r risg.
Mae’r effaith yn waeth ar aelwydydd incwm is na allant fforddio sicrhau bod eu cartrefi’n gallu gwrthsefyll llifogydd na’r premiymau yswiriant sy’n diogelu rhag llifogydd, er y gall llifogydd greu poen meddwl a all barhau blynyddoedd i unrhyw un sydd wedi dioddef colled nad oedd modd ei adfer.
Mae dros 245,000 o eiddo yng Nghymru mewn perygl llifogydd ar hyn o bryd.
Caiff gwaith rheoli llifogydd yn naturiol ei gydnabod fwyfwy yn arf hanfodol i amddiffyn rhag llifogydd a daw bron bob amser â nifer o fanteision yn ei sgil. Ond nid oes digon o bwyslais wedi’i roi ar adfer natur yn rhan o waith lleihau perygl llifogydd, megis adfer mawndiroedd a morfeydd yn llwyr, plannu coed, ailgyflwyno afancod a chynyddu mannau gwyrdd a storio dŵr mewn ardaloedd trefol, gan gynnwys cael gwared ag arwynebau caled i wella gwaith draenio.
Mae angen i lywodraeth Cymru barhau â’i hymrwymiad i roi blaenoriaeth uchel i’r dull hwn wrth, hefyd, gefnogi deiliaid tai i sicrhau bod eu cartrefi’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn well, a hynny trwy grantiau a chynlluniau yswiriant - rhywbeth y dylai cwmnïau yswiriant gyfrannu ato hefyd. Mae sicrhau bod cartrefi’n gallu gwrthsefyll llifogydd yn llawer iawn rhatach na thalu am ddifrod llifogydd.
A yw llifogydd yn gwaethygu?
Mae llifogydd yn achosi trallod a chaledi ym mhobman. Heb yr adnoddau i adeiladu amddiffynfeydd a lle gall y tywydd fod yn fwy eithafol, gall yr effaith fod yn ddinistriol mewn llawer o wledydd sy'n datblygu. Er enghraifft, yn 2020 bu farw dros 2,000 o bobl mewn llifogydd yn India a symudwyd dros bedair miliwn. Gall llifogydd beri marwolaethau, hyd yn oed yn Ewrop, gyda 240 o bobl yn marw o ganlyniad i'r llifogydd a ‘sgubodd trwy'r Almaen ym mis Gorffennaf 2021.
Yng Nghymru mae pobl wedi marw oherwydd llifogydd ac mae'r wlad yn dod yn fwy tueddol o ddioddef llifogydd annisgwyl. Y ffaith nad oedd systemau rhybuddio cynnar oedd yn bennaf gyfrifol am y 2,000 o farwolaethau o amgylch Môr Hafren yn 1607 - nifer uchaf y bywydau a gollwyd yn sgil trychineb naturiol yn y DU yn y 500 mlynedd diwethaf. Hyd yn oed heddiw , gyda gwell amddiffynfeydd rhag llifogydd a systemau rhybuddio ymlaen llaw, mae llifogydd yn dal i gael effaith sylweddol. Er enghraifft:
- Ym mis Hydref 2018, bu farw dyn yn Sir Gaerfyrddin a thorrwyd amddiffynfeydd rhag llifogydd yn yr hyn a ddisgrifiwyd ar y pryd yn llifogydd gwaethaf Cymru ers degawdau, oherwydd Storm Callum. Roedd bron i 200 o gartrefi dan ddŵr.
- Gwelwyd llifogydd hyd yn oed mwy dinistriol i Gymru ym mis Chwefror 2020 gyda stormydd yn taro, un ar ôl y llall, a’r glaw mwyaf erioed. Canfu’r llifogydd eu ffordd i fwy na 3,000 o eiddo ar gost o fwy nag £81 miliwn.
- Gwelwyd llifogydd hefyd ym Mhontypridd, Cwm Rhondda, Aberystwyth, Dyffryn Conwy a mannau eraill.
- Mae llifogydd yn gwaethygu heriau iechyd meddwl, gyda straen ac iselder yn cynyddu 50% mewn pobl sy’n profi llifogydd. Mae chwarter y bobl hyn yn dal i ddioddef o leiaf ddwy flynedd ar ôl y digwyddiad.
Mae’r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd - cynghorydd swyddogol llywodraeth y DU a Chymru - yn rhybuddio bod y tywydd yn wlypach, yn wyntog ac yn fwy gwyllt.
Pam fod llifogydd yn gwaethygu?
Dywed yr IPCC (Y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd) - y grŵp o wyddonwyr y byd sy’n cynghori llywodraethau -bod y ddynoliaeth wedi cynhesu’r blaned ar gyfradd na welwyd mo’i thebyg o’r blaen. O ganlyniad, mae lefelau’r môr wedi codi’n gyflymach dros y 100 mlynedd diwethaf nag ers o leiaf 3,000 o flynyddoedd ac mae amlder a dwyster digwyddiadau yn sgil glaw trwm wedi cynyddu. Dywedir, wrth i’r byd barhau i gynhesu, y bydd digwyddiadau a brofir yn sgil y tywydd eithafol yn gwaethygu'n gynyddol ac i’w gweld yn amlach. Awyrgylch cynhesach sy’n gallu dal mwy o anwedd dŵr a'i ryddhau mewn cawodydd dwysach sydd i’w gyfrif am hyn.
Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae glawiad wedi bod yn raddol gynyddu yn y DU ac mae bellach dros 7% yn wlypach nag yr arferai fod. Mae lefel y môr wedi codi 1.6cm. Nid yw'r newidiadau hyn i’w gweld yn fawr ddim, ond mae cyfartaleddau yn cuddio achosion o eithafiaeth. Y glaw trwm a'r stormydd yn yr haf a'r gaeaf sy'n achosi'r difrod mwyaf.
Yn y dyfodol, rydym yn debygol o wynebu tywydd mwy eithafol fyth. Gallai’r ffaith bod llai o rew yn yr Arctig beri newidiadau sylfaenol i’r jetlif – sy’n ddylanwad mawr ar dywydd Cymru – neu gallai cynhesu arwain at gynnydd llawer mwy yn lefel y môr, o 1-2 metr erbyn 2100, wrth i gapiau rhew doddi gan arwain at golli tir yn sylweddol i’r môr a llawer mwy o lifogydd arfordirol.
Ond ni ddaw rhagor o lifogydd yn sgil toriad yn yr hinsawdd yn unig. Rydym hefyd wedi niweidio gallu Cymru i wrthsefyll llifogydd drwy ddiraddio’r amgylchedd. Trwy ddraenio mawnogydd, cael gwared â gwrychoedd, dinistrio morfeydd heli, concritio mannau gwyrdd mewn ardaloedd trefol ac adeiladu ar orlifdiroedd, rydym wedi tanseilio gallu’r amgylchedd naturiol i ymdopi.
Faint o gartrefi sydd mewn perygl a phwy sydd fwyaf bregus?
Dywed Llywodraeth Cymru fod dros 245,000 o gartrefi ac eiddo mewn perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Tan yn ddiweddar, roeddid yn parhau i ganiatáu gwaith codi cartrefi ar orlifdiroedd, fel yn Lloegr, ond mae canllawiau newydd Cymru yn dweud na ddylai hyn ddigwydd mewn ardaloedd lle mae risg uchel o lifogydd. Mae'r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi map llifogydd ar gyfer cynllunio.
Mae’r Athro Sarah Lindley a chydweithwyr ym Mhrifysgol Manceinion yn gweithio gyda Chyfeillion y Ddaear i fapio pa gymunedau yng Nghymru sy’n debygol o brofi llifogydd – a gwres eithafol – a pha rai o’r rhain sydd fwyaf gymdeithasol-fregus oherwydd eu demograffeg (e.e., oedran, incwm, anabledd ac ati). Cyhoeddir yr ymchwil hwn yn 2022.
Lle bynnag y mae'n digwydd, mae llifogydd yn drychineb i deuluoedd a chymunedau. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn goroesi pob llifogydd ac eithrio am y rhai mwyaf eithafol, gall difrod i eiddo a cholli eiddo personol, unigryw, megis ffotograffau, cofroddion, dodrefn ac addurniadau, heb sôn am anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm, beri heriau meddyliol sy’n parhau blynyddoedd.
A all adfer natur helpu?
Gall adfer natur helpu i amddiffyn tir ac eiddo rhag llifogydd a lleihau, ond nid dileu, yr angen am amddiffynfeydd rhag llifogydd, megis waliau a rhwystrau.
Caiff gwaith rheoli llifogydd yn naturiol ei gydnabod fwyfwy yn arf hanfodol ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio gyda’r JBA Trust i gyhoeddi mapiau i gyflawni gwaith rheoli llifogydd yn naturiol, gan nodi lleoliadau posibl ar gyfer mesurau o’r fath mewn dalgylch. Mae llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi llawlyfr ar Reoli Llifogydd yn Naturiol ac yn Lloegr, dengys Asiantaeth yr Amgylchedd nifer o enghreifftiau o'r dulliau rheoli llifogydd yn naturiol hyn ar waith. Ymhlith enghreifftiau o Reoli Llifogydd yn Naturiol, mae:
Adfer mawndiroedd a phriddoedd - gall mawndiroedd yr ucheldir fod fel sbyngau anferth, yn amsugno glaw a’i ryddhau’n araf dros amser. Ond mae llawer o’r mawndiroedd hyn wedi’u diraddio drwy ddraenio i wneud y cynefin yn fwy addas i fagu grugieir ar gyfer saethu. Mae adfer mawndiroedd a phriddoedd eraill hefyd yn cynorthwyo bywyd gwyllt a storio carbon.
Plannu mwy o goed - Cymru yw un o wledydd lleiaf coediog Ewrop. Yn haf 2021 cynhaliodd llywodraeth Cymru arolwg oedd yn mynd i wraidd mater coed a phren. Arweiniodd hyn at ymrwymiad i blannu 43,000 hectar o goetir erbyn 2030 a 180,000 erbyn 2050 (tua hanner yr hyn y mae Cyfeillion y Ddaear wedi galw amdano). Bydd Cynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru yn dilyn hyn yng ngwanwyn 2022. Dylai'r cynllun newydd hwn gynnwys camau gweithredu i blannu mwy o goed ger afonydd a dyfrffyrdd. Gall coed fod yn ddeunydd parod ar gyfer gosod argaeau sy’n gollwng, canghennau ar draws nant sy’n dal llawer o’r dŵr yn ôl ond yn caniatáu iddo ddraenio drwy’r argae sy’n gollwng dros amser. Yn ogystal â hyn, gall arafu llif y dŵr a’i gwneud yn haws i’r pridd ei amsugno.
Creu mwy o le i storio dŵr – gall gorlifdiroedd yr ucheldiroedd a’r iseldiroedd storio’r cyfeintiau mawr o ddŵr a ddaw yn sgil stormydd. Gall gorlifdiroedd a reolir yn dda, hefyd, fod yn hafan i fywyd gwyllt. Ychydig iawn o dir amaethyddol yn unig y bydd gofyn ei golli yn sgil hyn. Gellir storio mwy o ddŵr, hefyd, trwy adeiladu mwy o byllau a llynnoedd. Mewn ardaloedd trefol, gellir storio dŵr o stormydd mewn casgenni dŵr, gan gynnwys casgenni dŵr sy'n gwagio cyn storm, gyda chymorth posibl Wi-Fi. Dylid sicrhau fod cartrefi newydd yn gallu storio dŵr.
Adfer llif naturiol afonydd – mae gan lawer o afonydd rannau lle mae eu llif wedi’i sythu’n annaturiol a/neu concrid wedi’i osod yn lle glannau afonydd. Gall hyn gyflymu llif yr afon ac achosi perygl llifogydd ymhellach i lawr yr afon. Mae glannau afonydd naturiol a rhai sydd wedi'u hadfer yn medru bod yn sbyngau, yn amsugno unrhyw ddŵr sy’n weddill. Gall afonydd sy’n ymdroelli, hefyd, storio mwy o ddŵr.
Ailgyflwyno afancod – yn beirianwyr gwych, mae afancod yn ffrind naturiol arall wrth dorri perygl llifogydd, trwy adeiladu argaeau a lleihau faint o ddŵr sy'n cyrraedd cymunedau i lawr yr afon. Dengys astudiaeth gan Brifysgol Caerwysg sut mae afancod wedi cynyddu’r dŵr a gedwir ar y tir, gan leihau’r perygl llifogydd i lawr yr afon.
Cynyddu gallu dŵr i lifo i ffwrdd – mae llawer o’n hardaloedd trefol wedi’u concritio. Gan mai llifogydd dŵr wyneb yw'r perygl mwyaf mewn nifer o ardaloedd, mae'n gwneud synnwyr atal rhagor o waith concritio a defnyddio deunyddiau mwy mandyllog, lle bo hynny'n ymarferol, yn lle’r hyn sydd eisoes yno.
Ymhlith achosion o reoli llifogydd yn naturiol mae:
- Bro Tawe: mae ardal storio llifogydd wedi'i chreu sydd, yn ogystal â lleihau llifogydd, hefyd wedi creu ardal o wlyptir naturiol sy'n fan gwyrdd i bobl leol ei fwynhau ac yn gynefin newydd i gynnal bywyd gwyllt.
- Ystradgynlais: mae argaeau sy'n gollwng, argaeau byrnau gwellt a strwythurau helyg wedi'u gosod i arafu llif y dŵr mewn cwrs dŵr bach yn Ystradgynlais. Mae hyn wedi cynyddu nifer y bywyd gwyllt yn yr ardal, lleihau llifddyfroedd brig ac wedi lleihau erydiad yr argloddiau.
Ydy cynlluniau’r llywodraeth yn ddigon da?
Yn y dyfodol, polisïau a chamau gweithredu’r llywodraeth i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr fydd yn pennu maint llifogydd, er mwyn arafu’r newid yn yr hinsawdd. Yn y DU gyfan, fel mewn rhannau eraill o’r byd, mae bwlch enfawr rhwng addewidion i leihau allyriadau a pholisïau i wneud hynny. Mae llywodraeth Lafur Cymru wedi cytuno ar gytundeb gyda phartneriaid y glymblaid, Plaid Cymru, i edrych ar bosibilrwydd cyrraedd nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2035. Mae hyn yn hynod uchelgeisiol. Mae hefyd wedi ymuno â'r Gynghrair Ryngwladol Beyond Oil and Gas. Mae angen i’r ymrwymiadau hyn, sydd i’w croesawu, ychwanegu at y cynllun Sero Net Cymru presennol. I’r perwyl hwn, mae’n bosibl y rhoddir llyffethair ar y gallu i gyflawni hyn oherwydd nad oes pwerau a chyllid, gan iddynt gael eu rheoli gan Lywodraeth San Steffan.
Ond pa mor llwyddiannus bynnag yw Cymru wrth dorri allyriadau, rhaid iddi hefyd fod yn llawer cryfach i wrthsefyll digwyddiadau a ddaw yn sgil tywydd eithafol - llifogydd, gwres eithafol, a gwyntoedd cryfion. Golyga hyn wario ar amddiffynfeydd rhag llifogydd (gan gynnwys Rheoli Llifogydd yn Naturiol ond mae, hefyd, yn golygu sicrhau bod deiliaid tai sydd mewn perygl yn barod ar gyfer llifogydd ac yn gallu cael yn ôl ar eu traed yn gyflym.
Y gwir amdani yw nad oes modd i aelwydydd tlotach fuddsoddi cymaint yn eu heiddo i sicrhau y byddant yn gwrthsefyll llifogydd (e.e. gatiau llifogydd) ac yn gryfach (e.e., yn haws i’w glanhau a’u sychu). Nid yw rhai yn medru ymateb cystal pan geir llifogydd os ydynt yn anabl neu'n fregus oherwydd oedran neu salwch. At hyn, mae llawer yn methu cael yn ôl ar eu traed ar ôl llifogydd. Awgryma ffigurau ar gyfer y DU nad oes gan tua 50% o’r holl bobl sy’n rhentu, o bosib, yswiriant ar gynnwys eu cartref ac mae hyn yn codi i 61% o’r bobl hyn sydd ar incwm isel.
Mae Llywodraeth Cymru’n gwario’r arian mwyaf erioed ar amddiffynfeydd rhag llifogydd (gweler isod), ond mae angen llawer mwy i helpu aelwydydd sy’n fregus i sicrhau y gall eu cartrefi wrthsefyll llifogydd a sicrhau eu bod wedi’u hyswirio’n ddigonol fel y gallant gael yn ôl ar eu traed ar ôl llifogydd.
Rhagor o grantiau ar gyfer atal llifogydd a chryfhau tai yn eu herbyn
Mae Cyfeillion y Ddaear o'r farn y dylai mwy o grantiau fod ar gael i bobl sy'n byw mewn ardaloedd lle ceir risg uchel o lifogydd, a hynny er mwyn gwneud eu cartrefi'n gryfach i wrthsefyll llifogydd. Ar hyn o bryd, nid yw llywodraeth Cymru’n cynnig grantiau i ddeiliaid tai unigol osod mesurau gwrthsefyll a chryfhau. Yn lle hynny, mae'n rhoi arian i Awdurdodau Rheoli Risg (cynghorau ac eraill) gydlynu gosodiadau yn gymunedol, gan ddadlau bod hyn yn fwy cost-effeithiol. Er y gallai hyn fod yn wir, mae lefel y cyllid yn parhau i fod yn isel, gan olygu mai dim ond 594 o gartrefi a ddiogelwyd drwy’r cynllun hwn yn 2020-21.
Dylai’r diwydiant yswiriant hefyd fod yn cyfrannu at raglen y DU gyfan o sicrhau y gall cartrefi fod yn ddigon cryf i wrthsefyll llifogydd, yn bennaf oherwydd bod atal difrod yn sgil llifogydd yn llawer rhatach na chost ei adfer. Ar gyfartaledd, mae yswirwyr yn talu £50,000 yr eiddo am ddifrod yn sgil llifogydd, tra bod cost sylfaenol gwrthsefyll llifogydd tua £4,000 a chostau mwy cyflawn gwrthsefyll llifogydd tua £12,000. Dywed llywodraeth y DU ei bod yn ystyried sut y gall y diwydiant yswiriant gyfrannu drwy'r Cynllun Flood Re, a ddeddfwriaethir yn y DU.
Dylai, hefyd, fod yn ofynnol i landlordiaid osod mesurau gwrthsefyll llifogydd a chryfhau eiddo mewn eiddo rhent sydd mewn perygl mawr o lifogydd. Nid yw’n glir a oes gan Lywodraeth Cymru’r pwerau i wneud hyn yn ofynnol.
Diogelwch yswiriant gwell
Mae yswiriant rhatach ar gynnwys tŷ ar gael trwy gynllun o’r enw Flood-Re i ddeiliaid tai incwm isel mewn ardaloedd sy’n dueddol o brofi llifogydd. Mae’r cynllun hwn, sydd ar gyfer y DU gyfan, yn codi ardoll ar bob yswiriant cartref ac yn defnyddio’r arian hwn i roi cymhorthdal rhannol i yswiriant mewn ardaloedd lle mae risg uchel o lifogydd. Mae, hefyd, yn rhoi cronfa o arian ar gyfer taliadau gan gwmnïau yswiriant ar ôl llifogydd. Fodd bynnag, mae yswiriant yn dal yn ddrytach i eiddo sydd mewn perygl o lifogydd nag i'r rhai nad ydynt mewn perygl. Gall hyn arwain at aelwydydd incwm is yn arbennig yn dewis yswiriant cartref nad yw’n diogelu rhag llifogydd neu ddim yn yswirio o gwbl.
Fel yr argymhellwyd gan Adolygiad Blanc 2020 o yswiriant llifogydd a gomisiynwyd gan lywodraeth y DU, mae angen i’r llywodraeth wneud yswiriant yn fwy fforddiadwy i ddeiliaid tai incwm isel mewn ardaloedd lle ceir llifogydd, yn enwedig i denantiaid incwm isel, a’i gwneud yn ofynnol i landlordiaid fod ag yswiriant adeiladau sy’n golygu y gallant ailgartrefu tenantiaid am gyfnod os ceir llifogydd. Mae llywodraeth y DU wedi dweud na fydd yn gofyn am bremiymau yswiriant is ond bydd yn edrych ar ddulliau dienw eraill ar gyfer cynyddu'r nifer sy'n hawlio yswiriant.
Canolbwyntio mwy ar natur wrth amddiffyn rhag llifogydd
Mae angen yr hyn a elwir yn ‘amddiffynfeydd caled rhag llifogydd’, megis waliau amddiffyn rhag llifogydd, i warchod eiddo. Ond, yn hanesyddol, nid oes digon o bwyslais wedi’i roi ar adfer natur yn rhan o waith lleihau perygl llifogydd, megis adfer mawndiroedd (y mae 90% ohonynt wedi’u diraddio) a morfeydd yn llwyr, plannu coed, ailgyflwyno afancod, a chynyddu mannau gwyrdd a storio dŵr mewn ardaloedd trefol, gan gynnwys cael gwared ag arwynebau caled i wella gwaith draenio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £36 miliwn mewn grantiau cyfalaf i gynghorau ac i Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2020-21 i’w helpu i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd newydd, gwaith cynnal a chadw a chynlluniau rheoli llifogydd yn naturiol. Roedd hwn y swm uchaf erioed mewn un flwyddyn. Ynghyd ag arian ar gyfer gwariant parhaus, arweiniodd hyn at grant o £65.4 miliwn, sydd ychydig yn fwy na’r gwariant y pen yn Lloegr (£20.82 o’i gymharu â £17.85 y pen). Nid yw wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod eto. Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn gynnar yn 2021, yn rhoi mwy o bwyslais ar Reoli Llifogydd yn Naturiol, gan ei gwneud yn ofynnol i bob cynllun lliniaru llifogydd ei ystyried a chyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru. Neilltuwyd £2 filiwn ar wahân i Reoli Llifogydd yn Naturiol yn 20-21. Rhaid aros i weld a yw'r pwyslais cynyddol hwn yn arwain at ddefnyddio llawer mwy ar Reoli Llifogydd yn Naturiol.
Un rhan o'r stori gwrthsefyll llifogydd a chryfhau tai yw’r gwariant ar amddiffyn rhag llifogydd. Rhaid i'r llywodraeth, hefyd, roi sylw i’r ffaith nad oes tir athraidd mewn ardaloedd trefol. Er 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol sicrhau bod arwynebau caled mewn adeiladau newydd yn athraidd fel bod llai o ddŵr yn rhedeg ar y wyneb. Gelwir hyn yn Ddraenio Cynaliadwy. Mewn ardaloedd sydd eisoes wedi’u hadeiladu, gellir ôlosod gwaith draenio cynaliadwy drwy greu mwy o fannau gwyrdd trefol, rhoi toeau gwyrdd ar adeiladau a chyfyngu ar faint o arwynebau caled sydd ar erddi a rhodfeydd o flaen tai. Fel sgil-gynnyrch, byddai hefyd yn sicrhau na fyddai systemau carthffosiaeth yn gorlwytho cymaint – systemau sy’n aml yn cyfuno carthion o’n cartrefi â dŵr draenio o strydoedd – ac yn gostwng nifer yr adegau y caiff carthion amrwd eu pwmpio i’n hafonydd wrth i garthffosydd cyfunol orlifo.
Beth sy’n rhaid digwydd?
Mae llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen gwneud mwy. Mae Cyfeillion y Ddaear yn galw am:
- Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu cyllid i Awdurdodau Rheoli Risg fel y gellir sicrhau bod mwy o gartrefi, yn enwedig cartrefi incwm isel mewn ardaloedd risg uchel oherwydd llifogydd, yn gallu gwrthsefyll llifogydd yn well a’u bod yn gryfach i wneud hynny. Dylai'r diwydiant yswiriant gyfrannu at gostau'r rhaglen hon drwy'r Cynllun Flood-Re.
- Dylid lleihau rhagor ar gost yswiriant cynnwys tai drwy'r cynllun Flood-Re i ddeiliaid tai incwm isel sy'n wynebu risg uchel o lifogydd. Ni ddylai fod yn ddrytach iddynt yswirio eu cartref na fyddai i yswirio cartref cyfatebol nad yw’n dueddol o brofi llifogydd (ac eithrio pan fyddant yn gwrthod gosod mesurau gwrthsefyll llifogydd a chryfhau, sydd wedi’u hariannu’n llawn). Bydd raid i lywodraeth y DU gymryd camau gweithredu yn hyn o beth. Y deiliaid tai hyn fydd wedi cyfrannu leiaf at newid yn yr hinsawdd, sy'n gynyddol gyfrifol am y peryglon llifogydd y maent yn eu hwynebu.
- Rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru ddilyn i fyny ar ei gefnogaeth leisiol i reoli llifogydd yn naturiol drwy roi blaenoriaeth uchel i’r dull hwn yn ei Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd i Gymru sydd ar ddod, ac y mae ei ddisgwyl yng ngwanwyn 2022. Yn hwn, dylid bod argymhellion i lywodraeth Cymru a, lle bo rhaid, llywodraeth y DU, gymryd camau i ddileu rhwystrau rhag gweithredu (er enghraifft, rhwystrau ariannol sy’n atal tirfeddianwyr rhag troi tir ar gyfer ailgoedwigo neu wneud gwaith adfer mawn neu gynllunio neu gostio rhwystrau rhag creu mannau gwyrdd ar gyfer draenio trefol, cynaliadwy mewn lleoliadau trefol). Mae angen i'r diweddariad sydd ar ddod i Gynllun Gweithredu Coetiroedd i Gymru hefyd roi blaenoriaeth uchel i blannu coed i leihau llifogydd.