Dywedwch wrth Gyngor Sir Gâr: peidiwch ag ymestyn pwll glo Glan Lash

Published: 15 May 2023

Cymerwch ein camau gweithredu ar-lein i ddweud wrth Gyngor Sir Caerfyrddin i beidio ag ymestyn y caniatâd i gloddio am lo ar y safle glo brig.
Glan Lash


 

Cymerwch ein camau gweithredu ar-lein

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn penderfynu'n fuan a ddylid ymestyn y caniatâd i gloddio am lo ar safle glo brig Glan Lash. Rhaid atal echdynnu glo newydd.

Rydym mewn argyfwng ecolegol yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Os caiff hyn ei gymeradwyo, gallai hyd at 95,000 tunnell yn fwy o lo gael ei echdynnu o’r pwll, gan ryddhau lefelau annerbyniol o nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer.

Mae ymestyn y pwll hefyd yn bygwth ecoleg sensitif a bywyd gwyllt gwerthfawr yr ardal o’i gwmpas, yn enwedig Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr. Mae'n rhaid i ni gadw tanwydd ffosil yn y ddaear lle mae’n perthyn a chanolbwyntio ar ynni gwyrddach a glanach yn ogystal â chreu swyddi gwyrdd cynaliadwy yn Sir Gâr.

Gan ddefnyddio ein ffurflen, cysylltwch â'r adran gynllunio a gofyn bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwrthod y cais hwn cyn ei bod hi'n rhy hwyr.

 

Share this page