Dros 30 o fudiadau yn mynnu cael Bil yr Amgylchedd cryfach
Published: 20 Nov 2023
The legislation does not go far enough, even with the amendments that have been made so far, according to clean air campaigners.
Yn ôl ymgyrchwyr aer glân, nid yw’r ddeddfwriaeth yn mynd yn ddigon pell, hyd yn oed wrth ystyried y diwygiadau a basiwyd hyd yn hyn.
Mewn llythyr agored a gyhoeddwyd heddiw (21 Tachwedd 2023), mae’r grŵp hwn o sefydliadau iechyd a sefydliadau amgylcheddol yn annog aelodau’r Senedd i gefnogi galwad Awyr Iach Cymru2 i gynnwys targed ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) ym Mil yr Amgylchedd.
Medd Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma + Lung UK Cymru:
“Mae nitrogen deuocsid yn nwy gwenwynig sy’n dod allan o bibellau egsôst ceir a cherbydau eraill pan fo’r injans yn troi. Gall y nwy hwn lidio leinin eich llwybrau anadlu. Mae pobl â chyflyrau sy’n effeithio ar eu hysgyfaint a’u calon, yn ogystal â phlant, sydd â’u hysgyfaint a’u hymennydd yn dal i ddatblygu, yn arbennig o agored i niwed. Dyna pam mae hi mor bwysig inni osod targedau ar gyfer NO2. Mae bywydau pobl yn dibynnu ar hyn.”
Yn ôl Haf Elgar, Is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Dyma gyfle ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ i lanhau ein haer, felly mae angen i ni gael targedau ar gyfer NO2 a llygryddion peryglus eraill, nid ar gyfer PM 2.5 yn unig. Er lles ein plant, ein cymunedau bregus, a’n planed, rydym yn annog aelodau’r Senedd i bleidleisio dros gael Bil yr Amgylchedd cryfach.”
Mae llygredd aer yn cyfrannu at farwolaethau oddeutu 2000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae’n argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae’n effeithio’n anghymesur ar ein plant a’n pobl ifanc a hefyd ar gymunedau sy’n fwyaf agored i niwed, ac mae allyriadau sy’n newid yr hinsawdd yn ddrwg i natur ac i iechyd ein planed.
Nod Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a gyflwynwyd gerbron y Senedd am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2023, yw lleihau’r effaith a gaiff llygredd aer ar wahanol bethau, yn cynnwys iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’n heconomi.
Bydd gan Weinidogion ddyletswydd i osod targedau ansawdd aer ar gyfer PM 2.5 (gronynnau mân), gan osod y ddyletswydd hon ar sail canllawiau diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd. Ond ar hyn o bryd, ni roddir dyletswydd ar ysgwyddau’r llywodraeth hon na llywodraethau’r dyfodol i osod targedau ar gyfer lygrydd mor beryglus â nitrogen deuocsid (NO2).
Bydd cam 3 y drafodaeth ynghylch Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yn cael ei gynnal ar 21 Tachwedd. Disgwyliwn y bydd y bil yn cael ei basio cyn diwedd y flwyddyn ac y bydd yn cael Cydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2024.