Llythyr agored i'r Senedd ar Fil yr Amgylchedd

Mae dros 30 o sefydliadau, gan gynnwys Cyfeillion y Ddaear Cymru, wedi ysgrifennu at y Senedd yn gofyn iddynt bleidleisio dros ddeddfwriaeth aer glân gryfach.

Photo of lady with two children, holding up a poster

 

Yn ôl ymgyrchwyr aer glân, nid yw’r ddeddfwriaeth yn mynd yn ddigon pell, hyd yn oed wrth ystyried y diwygiadau a basiwyd hyd yn hyn.

Mewn llythyr agored1 a gyhoeddwyd heddiw (21 Tachwedd 2023), mae’r grŵp hwn o sefydliadau iechyd a sefydliadau amgylcheddol yn annog aelodau’r Senedd i gefnogi galwad Awyr Iach Cymru i gynnwys targed ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2) ym Mil yr Amgylchedd pan fydd yn cael ei ddadl ar ddydd Mawrth Tachwedd.

Darllenwch y llythyr agored isod.

Share this page