Mai pobl ar yr incwm isaf sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig

Published: 16 Jun 2022

Dengys gwaith ymchwil newydd gan Gyfeillion y Ddaear, a ryddhawyd gan Awyr Iach Cymru ar y Diwrnod Aer Glân, mai pobl ar yr incwm isaf yng Nghymru yw’r rhai sy’n anadlu’r aer mwyaf llygredig.
Paul Dunster, a mum from Cardiff, with her son
Paula Dunster a'i mab

Mae'r ymchwil hwn hefyd yn datgelu bod aelwydydd mewn cymdogaethau lle ceir y llygredd aer gwaethaf yn llai tebygol o fod yn berchen ar gar nag aelwydydd yn yr ardaloedd lleiaf llygredig – sef aelwydydd sy’n mynd ati mewn modd anghymesur i achosi llygredd trwy ddefnyddio’u ceir.

Daeth 30 o Aelodau’r Senedd o bob plaid wleidyddol i ddigwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth (14 Mehefin) i adnewyddu galwadau i gyflwyno deddfwriaeth aer glân a thargedau uchelgeisiol ar gyfer ansawdd yr aer.

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi canfod yr holl gymdogaethau yng Nghymru sydd uwchlaw terfynau argymelledig y WHO (2021) o ran nitrogen oscid (NO2) a deunydd gronynnol mân (PM2.5).

Aethpwyd ati i gymharu Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru5, ynghyd â data pellach yn ymwneud â pherchnogaeth ceir, ethnigrwydd, poblogaethau plant ac ysgolion, gyda lefel y llygredd aer yng nghymdogaethau Cymru.

Gwelwyd mai ardaloedd amddifad o ran incwm, fel y’u diffinnir gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, sydd â’r llygredd aer gwaethaf, tra mae pobl o liw 2.5 gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn ardal â llygredd gronynnol uchel, a 5 gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn cymdogaeth lle ceir llygredd NO2.

 

Mae Paula Dunster, mam o Gaerdydd, yn teimlo y dylai data llygredd aer fod yn fwy gweladwy mewn cymunedau fel y gall pobl wneud penderfyniadau addysgiadol ar deithio:

“Ar y ffordd i’r ysgol mae’n rhaid i ni gerdded rhan o’r A48 ymlaen i Ffordd Llanederyn. Mae’n hynod o brysur, ac mae’r ysgol yn agos iawn at y gylchfan. Rwy'n poeni am effeithiau llygredd aer, yn enwedig gan fod fy mhlant yn dal yn ifanc iawn.

“Rwy’n ymwneud yn weithredol â Rhwydwaith Gweithredu Hinsawdd y Mamau ond nid yw pawb yn ymwybodol o beryglon aer gwenwynig. Oni bai bod y data yn weladwy i bawb, mae'n hawdd anwybyddu llygredd aer. Un diwrnod, fe ddangoson ni i fam yn yr ysgol pa mor uchel oedd y llygredd aer, ac roedd hynny’n peri cymaint o bryder iddi, mae hi bellach yn cerdded i’r ysgol bob dydd.”

 

Picture of Joseph Carter
Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru

Yn ôl Joseph Carter, Cadeirydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru:

“Mae’r gwaith ymchwil newydd hwn yn syfrdanol, ond nid yw’n annisgwyl. Mae gan bob un ohonon ni yr hawl i anadlu awyr iach, ni waeth ble rydyn ni’n byw, faint o arian rydyn ni’n ei ennill na beth yw ein cefndir ethnig ac ati.

“Mae llygredd aer yn gwneud niwed difrifol i’n hysgyfaint ac mae’n rhoi ein hiechyd yn y fantol. Er mwyn achub bywydau a diogelu ein hiechyd ni a’r amgylchedd, rhaid inni gael Deddf Aer Glân i Gymru cyn gynted â phosibl.”

 

Photo of Haf Elgar
Haf Elgar, Is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru

Medd Haf Elgar, Is-gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:

“Mae llygredd aer yn ddrwg i’n hiechyd ac i’r blaned. Mae’r gwaith ymchwil newydd hwn yn tynnu sylw at yr hyn y mae nifer ohonon ni wedi’i amau ers tro byd – a hefyd, mae’n fater sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, ac mae’n effeithio fwyaf ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sydd, yn aml, yn cyfrannu leiaf at achosi llygredd aer. Os yw Cymru am fod yn genedl deg a chyfiawn, yn ogystal â bod yn genedl werdd, rhaid inni weithredu nawr.”

 

Sylw yn y cyfryngau

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-61816057

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/61819306

https://www.itv.com/news/wales/2022-06-16/people-on-lowest-incomes-breathe-most-polluted-air-in-wales

https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/most-polluted-areas-wales-revealed-24236468

https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/south-wales-much-more-polluted-24239649

 

 

Share this page