Ysgolion cynradd llygredig Cymru yn gweithredu ar Ddiwrnod Aer Glân
Published: 14 Jun 2023
Ni ddylai ble rydych chi’n byw yng Nghymru benderfynu pa mor dda rydych chi’n anadlu, yn enwedig yn yr ysgol, lle y dylech chi deimlo’n ddiogel.
Mae ysgolion sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Dw i eisiau Aer Glân’ mewn ardaloedd o ansawdd aer gwael ar hyn o bryd. Nod yr ymgyrch yw annog pobl ifanc i edrych yn agosach ar lygredd aer, sut mae'n effeithio ar eu hiechyd a beth ellir ei wneud i helpu i fynd i'r afael ag ef.
Daw hyn gan fod Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)3 sy’n ceisio helpu i fynd i’r afael ag aer gwenwynig yng Nghymru, yn dal yn ei gamau cynnar ac angen tystiolaeth i sicrhau bod deddfwriaeth gref yn cael ei sefydlu.
Er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, mae disgyblion yn ysgrifennu llythyrau ac yn anfon posteri at Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, sydd ar hyn o bryd yn craffu ar dystiolaeth yn ymwneud â’r bil.
Mae ymgysylltu ag ysgolion yn hanfodol, dywed Awyr Iach Cymru, clymblaid o sefydliadau sy’n cynnwys Sustrans Cymru, Asthma + Lung UK Cymru a Chyfeillion y Ddaear Cymru, i helpu i greu ymddygiadau newydd yn ymwneud â theithio llesol a sicrhau nad oes neb, beth bynnag fo’u cefndir neu eu hoedran, yn teimlo'n ddi-rym i wneud rhywbeth yn ei gylch.
Dywedodd Sue Hurry, Pennaeth Ysgol Gynradd Llangrallo yng Nghaerdydd, un o’r ysgolion sy’n cymryd rhan:
“Rydym yn pryderu am effaith llygredd aer o fewn ein cymuned ysgol. Mae ein hysgol ar bwys ffordd ddeuol brysur ac mae ansawdd aer gwael a lefelau uchel o lygredd o gerbydau yn peri pryder, yn enwedig i’r disgyblion niferus sy’n dioddef o asthma yn ein hysgol.
“Yn Ysgol Gynradd Llangrallo, rydym yn annog ein disgyblion i fod yn actif ac i feicio, cerdded a sgwter i’r ysgol a ni oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill y Wobr Teithio Llesol Aur.
“Credwn y bydd y Bil Aer Glân yn helpu i sicrhau bod ein disgyblion yn gallu cael mynediad i amgylchedd ysgol diogel, glân ac iach a’i fynychu lle gallant ddysgu, chwarae a ffynnu.”
Dywedodd Samuel Aylward o Ysgol-y-Graig ym Merthyr Tudful:
“Mae teithio llesol wedi bod yn ffocws datblygiad enfawr yn ein hysgol newydd a gwell Ysgol Y Graig. Rydym wedi gweithio’n galed i leihau traffig a thagfeydd o amgylch tiroedd ein hysgol trwy fentrau effeithiol, fel gwella cyfathrebu â’n teuluoedd.
“Rydym nawr yn ymgysylltu trwy gylchlythyrau rheolaidd sy’n herio cynyddu nifer y plant sy’n teithio’n egnïol i’r ysgol. Yn ei dro, mae hyn yn gwella ansawdd yr aer o amgylch ein cymuned ysgol. Rydym yn y broses o ddatblygu bws beicio a fydd, gobeithio, yn lleihau’r tocsinau yn yr aer yn sylweddol.
“Mae’r mesur newydd yn gam enfawr i’r cyfeiriad cywir, ond bydd yn cymryd y gymuned a rhanddeiliaid ehangach i gael effaith wirioneddol.
“Rydym yn edrych ymlaen at ein taith o’n blaenau ym maes teithio llesol a gyda phob menter fach yng nghalendr yr ysgol, rydym yn gwneud newidiadau mawr i’n hamgylchedd dysgu a diwylliant ein hysgol tuag at deithio llesol.”
Dywedodd Joseph Carter, Cadeirwydd Awyr Iach Cymru a Phennaeth Asthma + Lung UK Cymru:
“Llygredd aer yw un o’r materion iechyd cyhoeddus mwyaf enbyd sy’n ein hwynebu, gan gyfrannu hyd at 2000 o farwolaethau cynnar y flwyddyn yng Nghymru.
“Pwrpas yr ymgyrch hon yw ymgysylltu â phobl ifanc i helpu i lunio eu dyfodol ac rydym yn ddiolchgar i’r holl ysgolion sy’n cymryd rhan. Dim ond ar ddechrau ein taith tuag at ddyfodol gwyrddach, tecach ac iachach ydyn ni, lle rydyn ni’n cerdded ac yn beicio mwy ac yn defnyddio llai ar y car.”
use the car less.”
Dywedodd Haf Elgar, Is-Gadeirydd Awyr Iach Cymru a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru:
“Mae llygredd aer yn ddrwg i’n hiechyd ac i’n planed, gan fod y cynnydd mewn allyriadau sy’n newid hinsawdd yn effeithio ar natur a chymunedau yng Nghymru a ledled y byd.
“Dyna pam mae angen deddfwriaeth ddigon cryf i drosglwyddo llygredd aer i’w le haeddiannol yn y llyfrau hanes. Ar Ddiwrnod Aer Glân rydym yn annog holl aelodau’r Senedd, a Llywodraeth Cymru, ac yn wir unrhyw un sy’n ymwneud â chyflwyno’r bil newydd hwn i eistedd i wrando ar leisiau plant ysgol s’yn galw am Gymru lanach, wyrddach.”
Datgelodd ymchwil gan Gyfeillion y Ddaear y llynedd fod y rhan fwyaf o gymdogaethau yng Nghymru yn torri canllawiau llygredd aer Sefydliad Iechyd y Byd, a bod cymunedau agored i niwed, fel pobl ar yr incwm isaf yng Nghymru, yn anadlu’r aer mwyaf llygredig.
Mae plant mewn mwy o berygl o lygredd aer nag oedolion oherwydd bod eu hysgyfaint yn dal i ddatblygu. Maent hefyd yn anadlu'n gyflymach, sy'n golygu eu bod yn cymryd mwy o aer llygredig i mewn. Mae bod yn agored i lygredd fel plentyn yn cynyddu'r risg o ddatblygu asthma a COPD fel oedolyn.
Mae Awyr Iach Cymru yn galw am y ddeddfwriaeth gryfaf posib i helpu i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.