Dim mwy o lo – o Glan Lash nac unlle arall

Published: 1 Sep 2023

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cydsefyll â phreswylwyr ac ymgyrchwyr yn erbyn cynnig i ymestyn pwll glo Glan Lash. Byddwn yn ymuno â nhw y tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Gâr cyn i’r cyfarfod cynllunio ddechrau.

 

Glan Lash coal mine
Pwll Glo Glan Lash (trwy garedigrwydd y Rhwydwaith Gweithredu Glo)

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru yn cydsefyll â phreswylwyr ac ymgyrchwyr yn erbyn cynnig i ymestyn pwll glo Glan Lash. Byddwn yn ymuno â nhw y tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Gâr cyn i’r cyfarfod cynllunio ddechrau.

Yn ystod y cyfarfod cynllunio nesaf a gynhelir ar 14 Medi, bydd Cyngor Sir Gâr benderfynu a fydd modd cloddio am ragor o lo yng Nglan Lash.

Os caiff hyn ei gymeradwyo, mae’n bosibl y bydd hyd at 95,000 tunnell yn ychwaneg o lo yn cael ei gloddio o’r pwll! Hefyd, byddai ymestyn y pwll glo yn bygwth ecoleg fregus a bywyd gwyllt gwerthfawr yr ardal, yn enwedig Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr.

Yn hytrach, rhaid inni gadw glo yn ei briod le – sef yn y ddaear – gan ganolbwyntio ar ynni gwyrddach a glanach a chreu swyddi gwyrdd cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin.

 

Carmarthenshire County Council offices
Neuadd y Sir, Caerfyrddin

 

Ymunwch â ni y tu allan i swyddfeydd y cyngors

Mae Glan Lash ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf, a byddwn ni yno! Os ydych yn byw yn yr ardal, ymunwch â ni, ochr yn ochr â phreswylwyr lleol ac ymgyrchwyr eraill, y tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin o 9am ymlaen ddydd Iau 14 Medi.

Os ydych yn bwriadu dod draw, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad [email protected].

 

 

Share this page