Mae diogelwch tomenni glo yn bwysig, ond nid ar draul y blaned

Published: 13 Mar 2024

Dros gyfnod o bum mlynedd, mae Energy Recovery Investments (ERI) Reclamation Ltd yn cynnig symud 500,000 tunnell o lo o ddwy domen lo ym Medwas, gan ddefnyddio’r arian a gaiff wrth werthu’r glo i adfer y safle.

 

The 'Mile Climb', Sirhowy Valley Country Park - a section of the forestry road proposed for the haul route
Y 'Dringfa Miletir', Parc Gwledig Cwm Sirhywi - rhan o'r ffordd goedwigaeth arfaethedig ar gyfer y llwybr cludo

Mae’n bosibl mai ‘Cynllun Adfer Tomenni Bedwas’, fel y’i gelwir, fydd y prawf nesaf – a’r mwyaf – ar bolisi glo Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, sef “osgoi parhau i echdynnu a defnyddio tanwydd ffosil” ac arwain at “ddiwedd rheoledig i gloddio a defnyddio glo.”

Ceir mwy na 2500 o domenni glo yng Nghymru. Rhaid i 350 ohonynt gael eu harchwilio’n rheolaidd a’u rheoli’n ofalus er mwyn sicrhau na fyddant yn esgor ar unrhyw berygl i drigolion yr ardal. Mae’r ddwy domen sy’n eiddo i’r cyngor ym Mynydd y Grug ym Medwas, Caerffili yn perthyn i gategori D – y categori risg uchaf – felly rhaid eu harchwilio ddwywaith bob blwyddyn.

Mae’r cyngor wedi mynd i’r afael â chryn dipyn o waith yn ddiweddar i wella’r draenio, ond mae rheoli’r tomenni hyn yn waith costus a pharhaus, ac yn aml cynghorau prin o arian sy’n gorfod talu’r bil.

 

Yn ôl Papur Gwybodaeth ERI, deellir mai'r prif risgiau sy'n gysylltiedig â'r tomenni hyn yw 'risg o dân tomen a halogi cyrsiau dŵr lleol (gan gynnwys Afon Rhymni) gyda sefydlogrwydd tir yn llai o bryder'.

Mae trigolion yr ardal wedi cael eu gwylltio gan fwriad ERI Reclamation Ltd i symud y glo a’i gludo trwy barc Gwledig Cwm Sirhywi ar ffordd bwrpasol. Bydd blynyddoedd o lygredd aer a sŵn yn sgil y gwaith a’r holl lorïau yn cael effaith niweidiol ar eu bywydau.

Graig Goch local nature reserve
Mae gwarchodfa natur leol Graig Goch yn goetir derw a ffawydd hynafol

Mae trigolion yr un mor bryderus am yr effeithiau ar fywyd gwyllt ac ar amwynder lleol poblogaidd a fwynheir gan drigolion, cymunedau eraill ar draws Caerffili a hyd yn oed yn ehangach.

Mae Gwarchodfa Natur Leol Graig Goch ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi yn goetir derw a ffawydd hynafol gyda choed gwarchodedig, ac mae Mynydd y Grug ei hun yn Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC) gyda phoblogaeth nythu o fadfallod dŵr cribog, rhywogaeth warchodedig.

Mae dros 3000 o bobl eisoes wedi arwyddo deiseb yn erbyn y cynnig.

Mae’r cwmni wedi dweud ei fod yn bwriadu gwerthu’r glo i’r diwydiant sment. Gan fod ffwrneisi sment yn rhedeg ar lo, a chan fod y lludw’n cael ei ddefnyddio fel ychwanegyn, bydd y glo hwn yn siŵr o gael ei losgi. Pe bai 100,000 o dunelli o’r glo hwn yn cael eu llosgi bob blwyddyn am bum mlynedd, mae ERI wedi dweud y gallai hynny gynhyrchu 1.25M tunnell o CO2 – swm enfawr!

Mae sicrhau bod ein tomenni yn ddiogel yn waith hollbwysig. Ond nid trwy werthu a llosgi’r glo y dylid gwneud hynny.

Mae hyn yn groes i bolisi glo Llywodraeth Cymru a byddai’n arwain at allyriadau niweidiol i’r amgylchedd.

Disgwylir y bydd ERI Reclamation yn cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y cynnig hwn y ddiweddarach yn y mis.

Sunday 18th Feb different users of the park gathered for a rally
Rali gan wahanol ddefnyddwyr Parc Gwledig Cwm Sirhywi ddydd Sul 18 Chwefror 2024

 

Share this page