Cyhoeddiad dur Port Talbot – ymateb Cyfeillion y Ddaear

Published: 22 Jan 2024

Dylai’r symudiad i ddur gwyrdd fod yn symudiad teg, er mwyn sicrhau dyfodol Port Talbot, creu swyddi cynaliadwy, hirdymor a rhoi ardaloedd fel hyn ar flaen y gad yn y newid i economi lân.

 

Picture of Tata Steel works in Port Talbot
Priodoliad y Comin Cyffredin 4.0

Wrth sôn am benderfyniad Tata Steel i gau ei ffwrneisiau glo, dywedodd Tony Bosworth, ymgyrchydd ynni Cyfeillion y Ddaear :

“Mae hyn yn ergyd enfawr i weithwyr a’r gymuned leol.

“Mae’r byd yn symud tuag at gynhyrchu dur gwyrdd, ond mae diffyg Strategaeth Ddiwydiannol flaengar gan lywodraeth y DU wedi gadael gweithwyr heb ddim.

“Dylai Port Talbot fod ar flaen y gad o ran newid i ddur glân – gyda buddsoddiad mewn hydrogen gwyrdd i bweru gweithgynhyrchu dur crai, yn ogystal â ffwrneisiau  trydan. Byddai hyn yn helpu i ddiogelu swyddi, cefnogi cynhyrchu dur cartref, a hybu newid y DU i economi werdd.

“Mae symudiad y diwydiant dur oddi wrth lo hefyd yn dangos ynfydrwydd penderfyniad y llywodraeth, ychydig dros flwyddyn yn ôl, i gymeradwyo pwll glo newydd yn Cumbria – yn rhannol i ddarparu glo ar gyfer dur y DU.

“Rhaid i weinidogion ddod â’u cefnogaeth i’r pwll glo llygredig a diangen hwn i ben – a rhoi ardaloedd fel Gorllewin Cumbria a Phort Talbot wrth galon y dyfodol glanach sydd ei angen arnom ar frys.”

Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru :

“Mae hyn yn newyddion dinistriol i bobl Port Talbot. Dylai’r symudiad i ddur gwyrdd gael ei wneud yn deg, er mwyn sicrhau dyfodol Port Talbot, creu swyddi cynaliadwy, hirdymor a rhoi ardaloedd fel hyn ar flaen y gad yn y broses o drawsnewid i economi lân.”

Dywedodd Kathy Oakwood o Gyfeillion y Ddaear yng Nghastell-nedd Port Talbot, ei bod am weld dur yn cael ei wneud yn wyrddach er mwyn y blaned, ond ei bod yn bwysig diogelu swyddi yn y gymuned:

Yn ei chyfweliad gyda’r BBC, dywedodd:

"Mae'n bwysig iawn fod y gweithwyr yn cael eu trin yn deg - 'dyn ni ddim isie yng nghyfnod yr argyfwng costau byw bod lot o bobl yn colli swyddi. Nid dyma'r trawsnewidiad da ni angen."

Darllenwch mwy

Share this page