Methiant i adfer safleoedd glo brig yn siom i gymunedau
Published: 17 Oct 2024
Yn dilyn ymchwiliad, pan gymerwyd tystiolaeth gan gyrff cyhoeddus perthnasol, grwpiau ymgyrchu a thrigolion lleol, cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ym mis Awst 2024.
Mae’r adroddiad clir a phwerus hwn yn condemnio’r rhestr faith o addewidion a dorrwyd mewn perthynas ag adfer safleoedd, gan ddangos model aflwyddiannus o ecsbloetio glo a chymunedau, o bolisïau hyd at gamau gorfodi.
Dengys yr adroddiad yn glir na chaiff perchnogion pyllau glo eu dwyn i gyfrif yn ddigonol ac na chânt eu cosbi’n ddigonol am rai pethau, megis torri rheolau cynllunio, peidio â chyflawni eu rhwymedigaethau a gadael safleoedd mewn cyflwr peryglus.
Yn ôl yr adroddiad, mae Ffos y Frân yn “symbol o fethiannau’r system”, a phwysleisir bod angen “[p]olisïau cadarn, camau gorfodi effeithiol, a chynnwys y gymuned yn wirioneddol […] wrth adfer safle.”
Mae'r gymuned yn Merthyr Tudful wedi cael ei siomi’n fawr gan y methiant systemig hwn. Mae hafn ddyfrllyd beryglus wedi cael ei gadael yn y ddaear a allai fod yn graith barhaol ar y dirwedd, yn hytrach na safle wedi ei adfer yn ôl yr addewid. Disgwylir i’r cwmni gyflwyno cais ar gyfer cynllun adfer diwygiedig, rhatach o lawer, erbyn diwedd y flwyddyn.
Fel yn achos pob ‘cynllun adfer’ fel y’i gelwir, mae’r manteision wedi llifo i gyfeiriad y cwmnïau yn hytrach nag i'r cymunedau sy’n dioddef. Efallai y dylid cadw’r ffaith hon mewn cof wrth bwyso a mesur y cynnig i gloddio am lo yn nhomenni glo Bedwas – cynnig arall a elwir yn ‘gynllun adfer’.
Nid Ffos y Frân yw’r unig safle lle mae gweithredwyr wedi “cymryd elw o’r safle [a lle] mae’r arian a gafodd ei addo ar gyfer gwaith adfer ar goll.” Mae East Pit yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dal i fod yn safle peryglus ac yn destun pryder parhaus i drigolion lleol yn dilyn gwaith adfer annigonol a rhad, yn yr un modd â safle Parc Slip ym Margam a safle Selar yng Nglyn-nedd ymhlith eraill. Mae’r cymdogaethau a’r cymunedau hyn, sydd wedi dioddef sŵn a budreddi glo brig am flynyddoedd, yn haeddu gwell.
Yn wir mae yna batrwm o safleoedd glo brig wedi eu adfer yn wael gan gwmnïau preifat ers preifateiddio’r diwydiant glo ym 1994.
Yn ôl yr adroddiad, rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i “sicrhau bod polisïau…yn gadarn a chyfredol, a’u bod yn darparu amddiffyniadau priodol i awdurdodau lleol a chymunedau”. Hefyd, rhaid i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei pholisïau ynglŷn ag adfer tomenni glo. Ys dywed yr adroddiad:
“Mae safbwynt presennol Llywodraeth Cymru yn gadael y drws ar agor ar gyfer codi glo mewn amgylchiadau eithriadol. At hynny, gallai Llywodraeth Cymru yn y dyfodol wrthdroi ei safbwynt a chynnig cyfleoedd [i] gloddio o’r newydd yng nghymoedd de Cymru.”
Dywed Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, y gofynnwyd iddi roi tystiolaeth i ymchwiliad y Senedd, y dylid rhoi blaenoriaeth i “adfer safleoedd presennol ar frys ac mewn ffordd briodol, yn arbennig Ffos y Frân – tra mae’r cwmni’n dal i fodoli a thra mae ganddo gyfrifoldeb dros y safle.
“Rydym angen i gyrff cyhoeddus weithio gyda’i gilydd a chyda chymunedau i asesu a thrafod yr hyn y mae angen ei wneud, a sut y gellir ei ariannu.
“Ni ddylem bwyso ar ein rhwyfau a meddwl nad oes modd i hyn ddigwydd eto – rydym yn wynebu bygythiad y bydd tomenni glo’n cael eu datblygu gan gwmnïau preifat gyda’r un addewidion, a’r un risgiau i gymunedau.”
Yr unig ffordd y gallwn roi stop ar gloddio am lo a rhwystro’r sefyllfaoedd hyn rhag datblygu yn y lle cyntaf yw trwy wahardd echdynnu lo. A dyna pam y mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, ochr yn ochr â llu o sefydliadau eraill, yn galw am waharddiad o’r fath cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Wrth ymateb i adroddiad y pwyllgor, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i fod yn genedl heb danwyddau ffosil, a chryfder ei pholisi glo. A datgan mai go brin y bydd sefyllfaoedd tebyg i’w gweld eto yn y dyfodol o gnalyniad i hyn.
Ond, yn ystod y mis diwethaf gwelsom ymgais arall eto i ailddechrau glo brig yng Nglan Lash yn Sir Gaerfyrddin, ac mae cynigion ar ddod ar gyfer cloddio glo yn nhomenni Bedwas.
Mae adroddiad y pwyllgor yn rhybudd llwm na ddylem bwyso ar ein rhwyfau. Ni ddylem edifarhau ymhen 10 mlynedd arall eto ein bod wedi peidio â chymryd camau mwy pendant yn awr.
Rhaid inni sicrhau mai rhan o’n treftadaeth yw glo, yn hytrach na rhan o’n dyfodol.
Disgwylir i’r Senedd drafod yr adroddiad hwn yn ei chyfarfod llawn ym mis Tachwedd.