Cartrefi cynnes - beth ydyn ni'n galw amdano?

Published: 15 Dec 2022

Ar draws Cymru, mae pobl yn gweld eu biliau ynni yn cynyddu’n aruthrol ac yn teimlo baich byw yn rhai o’r cartrefi lleiaf ynni-effeithlon yn y DU. Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu nawr. 
Thermal image of a woman trying to keep warm in her home
Photo courtesy of Grey Hutton

Ar draws Cymru, mae pobl yn gweld eu biliau ynni yn cynyddu’n aruthrol ac yn teimlo baich byw yn rhai o’r cartrefi lleiaf ynni-effeithlon yn y DU. Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu nawr i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw a'r argyfwng hinsawdd.  

Rydyn ni yng nghanol sawl argyfwng - yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni a'r argyfwng hinsawdd. Mae'r argyfyngau hyn yn gysylltiedig, ac maen nhw wedi gwneud un peth yn glir: rydyn ni angen atgyweirio ein system ynni ar frys – mae’r cyfan yn deilchion.   

Mae gennym ni ddatrysiadau i gwtogi biliau a lleihau allyriadau, ac rydyn ni eisiau gweld y rhain yn cael eu rhoi ar waith ar frys i ddarparu cartrefi cynnes nad ydynt yn costio’n drud i ni na’r byd.   

 

 

The Senedd

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

1) Sicrhau bod digon o gymorth brys i aelwydydd bregus gadw'n gynnes y gaeaf yma

Yn y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd parhaus mewn biliau ynni, gyda miliynau o bobl yn suddo i dlodi tanwydd. Hyd yn oed wedi i lywodraeth y DU rewi prisiau a chyflwyno eu cymorth ariannol, mae biliau ynni yn rhy ddrud i lawer. Mae angen rhagor o gefnogaeth ar frys.  

Er ein bod ni’n croesawu mentrau Llywodraeth Cymru i liniaru’r argyfwng costau byw, fel y Taliad Costau Byw a’r Cynllun Cymorth Tanwydd Cymru, rydyn ni angen eu gweld nhw’n mynd ymhellach.  

Rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i addasu’r cynllun tlodi tanwydd presennol “Nyth” i sicrhau fod pobl sy’n byw ar yr incymau isaf, yn y cartrefi lleiaf ynni-effeithlon, yn gymwys i insiwleiddio eu cartrefi mewn ffordd sy’n gyflym ac yn hawdd manteisio arno. Rydyn ni am weld polisïau brys yn cael eu cyflwyno i gynnig cymorth ariannol i aelwydydd bregus, gan gynnwys teithio rhad ac am ddim ar fysiau, cyflymu prydau ysgol am ddim a thai fforddiadwy.  

Rydyn ni hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru alw ar lywodraeth y DU i dalu am y diffyg rhwng y cymorth presennol a’r cynnydd mewn costau byw, wedi’i ariannu drwy osod treth ffawdelw gwirioneddol ar elw cwmnïau ynni. 

 

2) Cyflwyno rhaglen Cartrefi Cynnes uchelgeisiol ar frys i insiwleiddio ein cartrefi

Mae gan Gymru rai o'r cartrefi gwlypaf ac aneffeithlon o ran ynni yn y DU. Mae biliau cynyddol a chartrefi wedi’u hinswleiddio’n wael wedi arwain at 45% o gartrefi yng Nghymru bellach yn wynebu tlodi tanwydd, yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth Cymru.   

Uwchraddio cartrefi drwy insiwleiddio yw’r ffordd hawsaf a rhataf i leihau ein biliau yn barhaol a chadw pobl yn gynnes.   

Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen Cartrefi Cynnes uchelgeisiol ar frys. Dylai’r rhaglen hon gynnwys inswleiddio cartrefi i wella eu heffeithlonrwydd o ran ynni gan ddefnyddio dull stryd wedi stryd, a dechrau yn y cymdogaethau sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan dlodi tanwydd. Dylai hefyd gynnwys cynllun ar alw sy’n galluogi insiwleiddio aelwydydd bregus cyn i’r rhaglen stryd wedi stryd eu cyrraedd. Ochr yn ochr â hyn, dylid sicrhau bod gwybodaeth a chyngor hygyrch ac o ansawdd uchel ar gael i bawb ar y grantiau a’r cymorth sydd ar gael. Ac wrth gwrs, dylid adeiladu pob tŷ newydd i'r safonau effeithlonrwydd ynni uchaf hefyd.  

Dylai Llywodraeth Cymru ymuno â ni i alw ar lywodraeth y DU i gynyddu'r gyllideb ddatganoledig, gan sicrhau bod Cymru yn gallu cyrchu ei chyfran deg o gyllid, a'i bod yn gallu darparu rhaglen inswleiddio cartrefi fwy.  

 

3) Blaenoriaethu system ynni i Gymru yn seiliedig ar ynni adnewyddadwy a gwresogi carbon-isel

Mae ein system ynni bresennol wedi torri. Yn hytrach na sicrhau bod pawb yn gallu fforddio i gadw eu cartrefi’n gynnes, mae’n rhoi blaenoriaeth i gwmnïau tanwydd ffosil.  

Rydyn ni angen adeiladu system ynni sy’n ein cadw ni’n gynnes, heb gostio’r Ddaear, drwy ddatblygu ein hadnoddau adnewyddadwy glân a rhad ein hunain - fel adnoddau solar a gwynt - a symud oddi wrth danwyddau ffosil drud a llygredig.  

Yng Nghymru, mae gennym ni enghreifftiau gwych o gwmnïau ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth y gymuned, gan roi sicrwydd ynni i ni ac ail-fuddsoddi’r elw i gymunedau Cymru. Drwy wneud hyn, gallwn ddod â biliau i lawr a lleihau allyriadau ar yr un pryd.    

Rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Ynni Cymru ar frys fel cwmni dan berchnogaeth y cyhoedd i ehangu ynni adnewyddadwy cymunedol. Rydyn ni am weld cynlluniau i ddatblygu sgiliau'r gweithlu, a chyllid gwell ar gyfer datblygu technolegau cynaliadwy newydd. Rydyn ni hefyd yn galw am gynllun clir i ehangu gwres carbon isel yng Nghymru.   

Ar yr un pryd, rhaid i Lywodraeth Cymru roi terfyn ar gloddio, ymestyn ac ehangu glo yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru alw ar lywodraeth y DU i ddiwygio'r farchnad ynni a mynd ati ar frys i osod treth ffawdelw ar gwmnïau olew a nwy er mwyn ariannu cymorth i'r cartrefi mwyaf bregus.  

 

Eisiau dysgu mwy? 

Darllenwch ein briff llawn  (yn Saesneg) i weld rhagor o fanylion am y camau yr hoffem ni i Lywodraeth Cymru eu cymryd.   

Yng Nghymru, mae'r ymgyrch Unedig dros Gartrefi Cynnes cael ei phweru gan Cyfeillion y Ddaear Cymru. Gyda'i gilydd, maen nhw'n rhan o Climate Cymru, sy'n arwain yr ymgyrch Cynnes y Gaeaf Yma yng Nghymru, gan alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob un ohonom ni fynediad at ynni fforddiadwy nawr ac yn y dyfodol. 

 

Share this page