Dywedwch wrth Lywodraeth Cymru - gweithredwch nawr i gadw pobl yn gynnes y gaeaf yma
Published: 5 Dec 2022
Mae disgwyl i’r argyfwng ynni gael effeithiau dinistriol yng Nghymru y gaeaf yma.
Gall cymaint â 45% o’n haelwydydd fod yn wynebu tlodi tanwydd. Mae hynny'n golygu bod miloedd yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau amhosibl rhwng hanfodion fel gwresogi a bwyta.
Ni fydd yr argyfwng hwn yn datrys ei hun. Mae biliau ar fin cynyddu eto yn y gwanwyn ac mae cartrefi Cymru yn parhau i fod ymhlith y rhai sy’n gollwng gwres y fwyaf yn Ewrop, sy'n golygu ei bod yn costio mwy i ni gadw'n gynnes.
Dyna pam rydym ni wedi uno â chlymblaid Climate Cymru i lansio Cynnes Gaeaf Yma, ymgyrch i atal cymunedau yng Nghymru rhag mynd yn oer, yn barhaol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu datrysiadau synnwyr cyffredin i'n hargyfwng ynni: inswleiddio cartrefi, mwy o ynni adnewyddadwy, rhoi terfyn ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil a gwell cymorth ariannol i'r rhai mewn angen.
Gallwn ddefnyddio'r un datrysiadau i ateb yr argyfyngau costau byw, ynni a hinsawdd, ac maent i gyd o fewn cyrraedd. Gyda'n gilydd gallwn ac mae'n rhaid i ni fynnu dyfodol cynaliadwy rhag tlodi tanwydd.
Llofnodwch ein deiseb heddiw i fynnu datrysiadau i gadw Cymru’n gynnes y gaeaf yma – ac ar gyfer gaeafau i ddod.