Pam y dylai mwy ohonom wybod am Kathleen Carpenter?
Published: 10 Feb 2023
Dychmygwch ei bod yn ddiwrnod cymylog yn 1911. Ar hyd cefnen welltog dal yr afon Ystwyth yng Ngorllewin Cymru, mae merch ifanc yn cerdded, ei llygaid ar lan yr afon, ei sgert hir lawn yn chwifio yn erbyn ei choesau. Roedd ganddi fynegiant dwys, effro, ac mae ei gwallt brown hir wedi cael ei glymu yn rhydd mewn bynsen uchel, ar dop ei phen gan gadw at ffasiwn y cyfnod. Mae’r ffrog yn dynnach o gwmpas ei chorff na llawer o ferched eraill sy’n fyfyrwyr, sydd eisoes wedi symud at ffrogiau mwy llac.
Mae ei ffrindiau wedi mynd o’i blaen, felly mae hi’n mwynhau’r foment hon i’w hun. Gan blygu drosodd, mae hi’n codi carreg gweddol fawr, gan edrych oddi tani. Mae hi’n codi ychydig o waddod yn un llaw, ac yn rhwbio ychydig o’r gronynnau brown gwlyb gyda’r llall. Mae hi’n edrych yn fanwl ar y ffurfiau bychan iawn o fywyd yn ei llaw, cyn eu rhoi yn ei photyn a cherdded yn gyflym er mwyn dal i fyny â’r gweddill.
Yn 1911, roedd Kathleen Zimmerman (1891-1970) yn fyfyrwraig ôl-raddedig yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth (Prifysgol Aberystwyth erbyn hyn). Roedd hi’n byw wrth y môr yn Neuadd Alexandra ac yn cerdded ar hyd y promenâd bob dydd. Yn ddifrifol a myfyrgar, datblygodd Kathleen angerdd dwfn am ecoleg dŵr croyw. Bu iddi ysgrifennu yn ddiweddarach, “mae’n fyd o harddwch diddiwedd, amrywiaeth diddiwedd, swyn diddiwedd; byd hefyd, sy’n rhydd i ni ei archwilio, ond faint o bobl, hyd yn oed biolegwyr proffesedig, sydd wedi mynd y tu hwnt i’w drothwy”.
Mae’r unig ddisgrifiad o Kathleen yn dod gan Michael Moynihan, gohebydd rhyfel. Yn ei hunangofiant, mae’n disgrifio sut bu iddi ymweld ag ef yn annisgwyl ar y diwrnod y cyhoeddwyd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn fympwyol ac yn chwithig yn gymdeithasol, roedd ganddi arferiad o edrych arno gydag edrychiad adwythig ac roedd ‘yn tueddu i wneud rhai arsylwadau personol hallt fel “Mae gen ti wddf hyll.” Unwaith ysgrifennodd, ‘cododd ei phen ac anadlu yn gyflym, “Paid â dweud dim. Paid â siarad. Fedra i ddim meddwl am ddim ar wahân i’r aderyn du yna. Gwranda.” Roedd Moynihan yn amlwg wedi’i syfrdanu gan Kathleen, gan gasglu drwy ddweud mai ‘astudio pysgod dŵr croyw oedd yn ei chadw rhag anobeithio.’
Dim yn hir ar ôl yr ymweliad hwnnw, penderfynodd Kathleen newid ei henw o Zimmerman i Carpenter (y cyfieithiad Saesneg o’r gair Almaeneg) , ar ôl i griw anfon darlithydd Almaeneg o’r dref.
Efallai bod yr angerdd hollgynhwysol wedi bod ychydig o rwystr mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ond dyma oedd yn gyrru iddi lwyddo mewn sefydliad academaidd patriarchaidd Edwardaidd, gan roi’r penderfynoldeb iddi oresgyn y rhwystrau y wynebodd ar ei thaith i ddod y ‘fam ecoleg dŵr croyw’.
Tra yn Aberystwyth, dechreuodd Kathleen ei hastudiaethau trefnus o afonydd Cymru. Roedd ei gwaith yn arloesol. Yn ôl yr ecolegydd, Catherine Duigan, cynhyrchodd ‘yr asesiad manwl cyntaf o ffawna afonydd sy’n rhedeg ym Mhrydain, yn cynnwys rhannu'r rhestrau rhywogaethau cynhwysfawr yn fathau ecolegol’. Mae diagram ‘perthnasau bwyd’ yn ei thraethawd ymchwil Ph.D, un o’r dehongliadau cyntaf o gwe bwyd dŵr croyw ym Mhrydain’.
Roedd gan Kathleen ddiddordeb arbennig yn effaith llygredd metel. Efallai ei bod yn ymwybodol bod gwartheg wedi marw o fwyta ‘glaswellt a oedd wedi llygru yn Nyffryn Ystwyth wedi llifogydd. Mae’r stori newyddion BBC hon yn dangos nad yw’r broblem wedi diflannu.
Roedd yr ardal o gwmpas Aberystwyth wedi cael ei chloddio am arian a phlwm drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yn hysbys ers peth amser bod mwyngloddiau yn gallu gollwng i afonydd, a chael effaith negyddol ar fywyd yno. Bu i Ymholiad Pysgodfeydd Eogiaid adrodd "difodiant llwyr anifeiliaid" yn afonydd Rheidiol ac Ystwyth yn 1961.
Roedd y Mwynglawdd mwyn arian-plwm, Mwynglawdd Llywernog, yn arafu ei weithrediadau erbyn i Kathleen gyrraedd Aberystwyth yn 1907 ar gyfer ei gradd baglor, ond roedd mwyngloddiau eraill yn agor neu’n ailddechrau yn ogystal â chau, felly roedd hi’n gallu olrhain yr effaith ar ecosystemau dŵr croyw.
Er enghraifft, fe brofodd drwy arbrawf y gallai halwynau metelig fygu silod y dom, brithyll a chrethyll, ac, yn 1924, bu iddi ddarganfod bod y molwsg Ancylus fluviatilis a Trichoptera larvae wedi diflannu o’r Teifi o fewn blwyddyn o fwynglawdd yn ailddechrau ei weithgareddau.
Pedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1928, cyhoeddwyd ei gwerslyfr, Life in Inland Waters. Hwn oedd llawlyfr ecoleg dŵr croyw cyntaf i’w ysgrifennu yn Saesneg. Yn meddu ar MSc a Ph.D o Brifysgol Aberystwyth, gadawodd Kathleen Gymru yn fuan wedi hynny ar gyfer swydd ymchwil ym Mhrifysgol Talaith Illinois yn yr Unol Daleithiau. Aeth yn ei blaen i addysgu yng Ngholeg Washington, Maryland, cyn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yng nghanol yr 1930 i weithio ym Mhrifysgol Lerpwl. Bu farw yn 1970 yn Cheltenham.
Efallai nad ei chyfoedion bob amser yn ei deall, ond mae dull trefnus, gwyddonol Kathleen, a’i phryder am effeithiau amgylcheddol llygredd, yn dangos ei bod o flaen ei hamser. Dylai fwy o bobl wybod beth y cyflawnodd ar adeg pan coginio a bod yn fam yn unig oedd byd dynes. Roedd rhaid i athrawon a oedd yn ferched ffurfio eu gyrfaoedd mewn Prifysgolion Prydeinig ugain mlynedd wedi marwolaeth Kathleen ‘frathu eu tafodau yn wyneb rhagfarn rhyw’ . Mae’n rhaid ei bod llawer anoddach i Kathleen, a ddechreuodd ei gyrfa academaidd yn ystod oes Edwardaidd, gan ddangos sut oedd ei hangerdd a’i phenderfynoldeb- a’i pharodrwydd i fod yn wahanol- o fantais iddi.