Ein gofynion ar gyfer y Prif Weinidog newydd

Published: 21 Mar 2024

Rydym yn galw ar y Prif Weinidog newydd i roi pobl a’r blaned yn gyntaf er mwyn sicrhau trawsnewidiad cyfiawn i wlad ddi-garbon.

Photo of Vaughan Gething

Mae Vaughan Gething AS bellach wedi'i gadarnhau fel Prif Weinidog newydd Cymru.

Rydym yn galw arno i roi pobl a’r blaned yn gyntaf er mwyn sicrhau trawsnewidiad cyfiawn i genedl ddi-garbon mewn ffordd gyfrifol ar lefel fyd-eang.

2023 oedd y flwyddyn boethaf a gofnodwyd erioed, sef 2.12 gradd yn uwch na’r 20fed ganrif. Mae hyd yn oed gwyddonwyr wedi dychryn pa mor gyflym y mae ein hinsawdd yn diraddio. Mae tonnau gwres, sychder, newyn, tanau gwyllt, llifogydd yn dod yn fwyfwy aml ac yn gyflymach fyth nag a ragwelwyd.

Ond mae gobaith, ac mae gennym ni amser o hyd i wneud gwahaniaeth, os byddwn ni'n gweithredu fel petai hyn yn wir argyfwng trwy roi'r bobl a'r blaned yn gyntaf bob amser.

Rhaid i Brif Weinidog newydd Cymru edrych ar bob penderfyniad drwy’r lens hon, a rhaid i gyfiawnder hinsawdd fod wrth galon eu rhaglen llywodraethu.

Cymunedau sy'n gwneud y lleiaf i achosi'r hinsawdd i gynhesu sy'n dioddef fwyaf. Maent hefyd yn ei chael hi'n anodd iawn addasu.

Mae hyn yn wir am Gymru yn ogystal â gwledydd y De Byd-eang. Y rhai ar incwm isel, pobl o liw, a chymunedau y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar ddiwydiannau carbon-ddwys, sy'n cael eu taro waethaf ac felly bydd angen y cymorth mwyaf arnynt.

Mae Cymru’n wlad sy’n doreithiog o ran adnoddau naturiol, fel llanw a gwynt, ac rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i ddarparu cyfleoedd i bobl o bob cefndir ffynnu ac addasu i’r byd newydd hwn.


Rydym yn galw ar y Prif Weinidog newydd Cymru i ymrwymo i wneud cyfiawnder hinsawdd yn ganolog i’w llywodraeth, ac i flaenoriaethu’r canlynol:

 

  • Gweithredu ar waith annibynnol Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 a gadeirir gan Jane Davidson.
     
  • Gwarantu dyfodol Cymru fel cenedl ddi-ffosil drwy gyflwyno gwaharddiad ar echdynnu glo yng Nghymru. 
     
  • Adfer hen safleoedd glo brig fel eu bod yn ddiogel ac yn hygyrch i’r gymuned leol, a chychwyn ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i safleoedd tir halogedig ac etifeddiaeth diwydiannol peryglus yng Nghymru.
     
  • Ymrwymo i leihau microblastigau yng Nghymru drwy ddod â phanel o arbenigwyr ynghyd a chytuno ar gynllun gweithredu.
     
  • Cyflwyno targedau ansawdd aer ar gyfer Nitrogen Deuocsid (No2), fel mater o frys, a sicrhau bod y cynllun aer glân a’r ddeddfwriaeth yn cael eu gweithredu’n gyflym ac yn effeithiol er lles ein hiechyd, lleihau anghydraddoldebau, a’r amgylchedd.
      
  • Cadw at yr ymrwymiadau a wnaed yn dilyn cyhoeddi adroddiad panel adolygu ffyrdd annibynnol, cefnogi’r terfyn cyflymder 20mya, a gwneud penderfyniadau dewr eraill sy’n angenrheidiol i ddatgarboneiddio ein system drafnidiaeth ac annog newid moddol yn y ffordd y mae pobl yn teithio o amgylch Cymru. 
     
  • Gweithredu rhan 1 o’r rhaglen Cartrefi Clyd ar frys, i gefnogi cartrefi sy’n dioddef tlodi tanwydd, cyflwyno cynigion ar gyfer effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio cartrefi Cymru gyfan, a lobïo llywodraeth y DU am arian ychwanegol i gyflawni’r polisïau hyn yng Nghymru.
     
  • Blaenoriaethu economi sy’n gweithio i bobl a’r blaned, drwy ganolbwyntio ar yr economi sylfaenol, a dilyn arweiniad Seland Newydd drwy ddatblygu Fframwaith Safonau Byw i fesur cynnydd a llunio polisi yn hytrach na chanolbwyntio ar Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC).
     
  • Peidio buddsoddi na rhoi caniatâd i seilwaith carbon uchel newydd, sy’n anghydnaws â’n targedau sero net, a sicrhau bod y gyllideb gyllidol flynyddol yn cyd-fynd â’n hymrwymiadau carbon a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
     
  • Ymdrechu i drawsnewid Cymru yn ‘bwerdy’ economi werdd i alluogi trawsnewid teg i ddyfodol carbon isel mewn ffordd sy’n amddiffyn gweithwyr a’r rhai mwyaf agored i niwed, gan greu swyddi a buddsoddi i wneud ein cenedl yn fwy ffyniannus a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
     
  • Sicrhau bod sefydliadau’r sector cyhoeddus yn rhoi blaenoriaeth i ddatgarboneiddio ac yn cyrraedd carbon sero net erbyn 2030.
     
  • Hyrwyddo’r cynllun dychwelyd ernes (DRS) ar gyfer Cymru a’r cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig (EPR) drwy weithio’n agos gyda’r DU a llywodraethau datganoledig eraill i osgoi oedi pellach wrth eu cyflwyno.
     
  • Diogelu’r cymunedau a’r grwpiau mwyaf agored i niwed rhag effeithiau newid hinsawdd, a chynllunio’n rhagweithiol ar gyfer risgiau hinsawdd heddiw ac yn y dyfodol e.e. safonau tai sy’n gallu addasu i dywydd poeth, a chyflwyno lefel defnydd dŵr a argymhellir fesul person.
     
  • Ei gwneud yn genhadaeth i fynd i’r afael â’r argyfwng natur ochr yn ochr â’r argyfwng hinsawdd drwy gyflawni’r targed 30 erbyn 30 ac ar yr argymhellion yn y plymiad dwfn bioamrywiaeth, yn enwedig yr argymhelliad i osod targedau adfer natur statudol ar gyfer Cymru.

Darllenwch ei ymateb

 

Share this page