Sut mae Egnïo 2022 wedi rhoi egni i’r rhwydwaith
Published: 4 Jul 2022
Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn gorwynt o brysurdeb i Cyfeillion y Ddaear, yn bennaf oherwydd Egnïo 2022! Am y tro cyntaf cyn y pandemig, cafodd ein cyfeillion, ein hymgyrchwyr a’n cefnogwyr yng Nghymru, y cyfle i gyfarfod wyneb yn wyneb mewn dau ddigwyddiad undydd – un yn ne Cymru a’r llall yng ngogledd Cymru.
Dyma’r tro cyntaf rydyn ni wedi rhoi cynnig ar gynnal digwyddiadau undydd. Yn y blynyddoedd sydd wedi bod rydyn ni wedi dewis cynnal penwythnosau preswyl, ond mae’r byd wedi newid a ninnau wedi newid hefyd.
Pam dod at ein gilydd?
Rydyn ni wedi dod yn agosach ond hefyd wedi pellhau ar yr un pryd. Er bod technoleg fel Zoom wedi rhoi mynediad i rai ohonon ni at ymgyrchoedd cyfiawnder amgylcheddol ac actifiaeth, rhywbeth nad oedd gennyn ni o’r blaen, mae beth arbennig bod mewn ystafell sydd yn llawn pobl sy’n danllyd dros wneud newidiadau hanfodol er mwyn gwneud y byd yn lle mwy cyfiawn.
Mae ceisio newid y byd yn gallu bod yn waith caled ac weithiau mae angen hwb arnoch. Boed hynny wrth weld hen ffrindiau neu gyfarfod rhai newydd, dysgu sgiliau newydd neu rannu eich sgiliau chi, mae yna ffyrdd gwahanol o ganfod yr egni sy’n angenrheidiol ar gyfer dal ati.
Egnïo Pontypridd
Cynhaliwyd y cyntaf o’r ddau ddigwyddiad yn Nhrefforest ychydig y tu allan i Bontypridd. Mae’r grŵp lleol yn un cryf ac roedd grŵp ieuenctid yn y penawdau yn ddiweddar wedi gwrthod gwobr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf oherwydd ei ddiffygion wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae Pontypridd wedi dioddef llifogydd yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’r trigolion yn rheng flaen yr anrhefn hinsawdd. Doedden ni ddim yn gallu cynnig datrysiadau i’w problemau, ond roedden ni yn gallu dod â phobl at ei gilydd mewn undod a rhoi’r gofod i bobl i siarad wyneb yn wyneb ar ôl cyfnod mor hir.
Cawson ni lawer o drafodaethau ynghylch pwy ydy’r bobl a’r cymunedau sydd yn y rhengoedd blaen sydd wedi neu sydd yn mynd i gael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd. Llwyddodd ein prif siaradwr Shavanah Taj – Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru i wirioneddol amlygu’r thema a gosod y diwrnod yn ei gyd-destun
Yn dilyn y prif siaradwr a sesiwn cwestiwn ac ateb cynhaliwyd gweithdai sgiliau yn ymwneud â chyfathrebu perswadiol a datblygu partneriaethau yn ogystal â gweithdai ymgyrchu.
Roedd pawb yn gwerthfawrogi’r cyfle i sgwrsio – mae tair blynedd wedi bod ers i bobl o Gyfeillion Y Ddaear Sir Benfro (FOE), Pontypridd, Cyfeillion y Ddaear Torfaen, Cyfeillion y Ddaear Abertawe, Cyfeillion y Ddaear Pen-y-Bont ar Ogwr, Cyfeillion y Ddaear Merthyr, a CAG Caerffili a Chyfeillion y Ddaear Caerffili fod yn yr un ystafell, ac roedd hyn yn arbennig iawn. Roedd Ella Wilkinson, Hyfforddwr Ymgyrch a myfyriwr o’r rhaglen My World My Home ar gyfer pobl ifanc yn cadw trefn arnon ni i gyd er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl o bob oed yn cynrychioli’r mudiad!
Egnïo Bangor
Prin fod yna amser i anadlu cyn bod rhaid i ni gwblhau’r cynlluniau ar gyfer y digwyddiad nesaf ym Mangor yng ngogledd-orllewin Cymru.
Daeth aelodau grŵp lleol o Gyfeillion y Ddaear Conwy, Rhuthun a Llangollen a Grŵp Gweithredu Hinsawdd Gogledd Orllewin Cymrui’r digwyddiad dwyieithog hwn.
Chawson ni ein swyno gan Meleri Davies, y prif siaradwr wrth iddi siarad am y gwaith mae Partneriaeth Ogwen yn ei wneud yn yr ardal. Mae’r fenter gymdeithasol hon yn cynnig datrysiadau go iawn i gostau byw a materion amgylcheddol gan sicrhau bod y gymuned a’r iaith yn ganolog i’r cyfan.
Gan ehangu ein safbwyntiau ymhellach, cyflwynodd Salamatu Fada bwysigrwydd Cyllid Hinsawdd yn y Rhengoedd Blaen Byd-Eang a pha mor bwysig ydy gweithredu mewn undod i’r actifyddion sy’n ymgyrchu yn Ne’r Byd.
Cynhaliwyd y gweithdai arferol yn y prynhawn a daeth y dydd i ben gyda’n panel lleol, Janine yn siarad am ReSource CIC (Cwmni Buddiannau Cymunedol) a’u gwaith wrth iddynt wneud y gorau o adnoddau sydd eisoes yn bodoli yn eu cymuned yn ogystal â chefnogi pobl anabl yn lleol.
Cawson ni ein hatgoffa gan Kay Polley o'r Finance Innovation Lab, sydd hefyd yn aelod o fwrdd Cyfeillion y Ddaear ac aelod o grŵp Cyfeillion y Ddaear Llangollen a'r Cylch, o’r angen am rym yn ein cymunedau a sut i sicrhau hynny.
Daeth Ize Adave, llysgennad Climate Cymru â’r digwyddiad i glo mewn ffordd drawiadol gan ein hatgoffa bod cyfiawnder hinsawdd yn edrych yn wahanol o gwmpas y byd a dydy gardd gymunedol ddim yn opsiwn yn Delta Niger gan fod y pridd a’r dŵr wedi’u gwenwyno gan gwmnïau tramor sy’n chwilio am olew a nwy. Gofynnodd hi i ni feddwl mewn ffordd ehangach a deall nad yw siarad â’r un bobl yn yr un ystafelloedd yn mynd i newid y byd.
Beth nesaf?
Mae ‘Egnïo’ yn golygu rhoi egni, yn y Gymraeg – a dyma yw hanfod yr hyn rydyn ni wedi ceisio ei gyflawni yn y digwyddiadau hyn.
Ein hamcan yw parhau i adeiladu a chefnogi rhwydwaith y grwpiau yng Nghymru er mwyn i actifyddion a chefnogwyr barhau â’r gwaith gwych rydych chi’n ei wneud yn eich cymunedau chi.
Siaradon ni am ymgysylltu â phobl yn ein cymunedau – pobl dydyn ni ddim wedi siarad â nhw o’r blaen – a sut i’w hysgogi. Oherwydd rydyn ni angen pob un unigolyn wrth symud ymlaen at gymdeithas fwy cyfiawn ond mae’n cymryd amser i ddatblygu perthnasau.
Yn fuan rydyn ni eisiau lansio ein hymgyrch cynhesu’r cartref, ac rydyn ni eisiau i hyn fod yn ffordd i chi a’ch cymunedau ddod ynghyd a chreu cryfder.
Os ydych chi’n darllen hwn ac rydych eisiau cymryd rhan yna darganfyddwch eich grŵp agosaf ar y map hwn a chymryd rhan yn lleol - os nad oes yna grŵp lle rydych chi yna cysylltwch â ni’n uniongyrchol ac fe roddwn ni help llaw i chi er mwyn dechrau ar eich taith.
Bydd llawer i’w wneud a dim llawer o amser i’w wneud, ond mae yna ddigon o bobl sydd eisiau rhoi cynnig arni a dyna sy’n rhaid i ni ei wneud. Rhoi cynnig arni gyda’n gilydd.