Gweithredu ar ficro-ffibrau
Published: 28 Mar 2022
Pob diwrnod, mae miliynau o ronynnau plastig bychain yn mynd i’r môr.
Mae darnau mwy o blastig hefyd yn torri yn gronynnau bychan ac yn mynd i’r gadwyn fwyd hefyd o bosib. Mae micro-blastig hyd yn oed yn yr aer!
Mae llawer o’n dilladau, er enghraifft, yn cynnwys plastigau fel polyester, neilon, acrylig a pholyamid.
Pob tro y byddwn ni’n golchi’r defnyddiau hyn, maent yn colli miliynau o ficro-ffibrau plastig nad yw’r gweithfeydd trin dŵr gwastraff yn eu codi, felly maent yn mynd i’r môr.
O hynny ymlaen, mae pethau’n gwaethygu fwy ond mae ffyrdd y gallwch chi leihau’r llygredd hwn!
Mae Ffederasiwn Genedlaethol Sefydliadau’r Merched (NFWI) hefyd wedi gwneud gwaith da ar hyn ac mae ganddynt restr wirio ddefnyddiol. Edrychwch i weld faint o’u hawgrymiadau y gallwch chi eu gwneud.