Llygredd microblastig wedi'i ganfod o fewn amgylchoedd dyfrol Cymru
Published: 11 Mar 2019
Rhaid monitro dyfrffyrdd mewndirol yn rheolaidd ar gyfer llygredd microblastig
Credir mai'r astudiaeth hon yw'r cyntaf o'i math, ac edrychodd ar ddeg safle yn cynnwys llynnoedd yn Ardal y Llynnoedd, dyfrffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Loch Lomond a'r Trossachs, gwlyptir a chronfa ddŵr yng Nghymru - a chanfuwyd microblastig ym mhob un ohonynt.
Mae Cyfeillion y Ddaear a Dr Christian Dunn, o Brifysgol Bangor (a fu'n arwain yr ymchwil) yn dweud bod y canfyddiadau'n awgrymu y dylid ystyried microblastigau fel halogydd sy'n dod i'r amlwg - a bod rhaid yn awr monitro holl ddyfroedd y DU yn rheolaidd.
Gan ddefnyddio system goleuadau fflworoleuo, roedd yr ymchwilwyr yn gallu adnabod a chyfrif llygryddion microblastig (llai na 5mm) - fel darnau o blastig, ffibrau a ffilm plastig - fesul litr o ddŵr.
Dangosodd y canfyddiadau cychwynnol lefelau llygredd microblastig yn amrywio o dros 1,000 o ddarnau o blastig fesul litr yn afon Tame ym Manceinion Fwyaf [2], i 2.4 darn y litr yn Loch Lomond.
Y llynedd, roedd adroddiad gan Eunomia ar gyfer Cyfeillion y Ddaear [3], wedi amcangyfrif bod symiau enfawr o lygredd microblastig yn mynd i mewn i ddyfrffyrdd y DU o nifer o ffynonellau bob blwyddyn. Mae'r prif ffynonellau llygredd yn cynnwys teiars ceir (7,000-19,000 tunnell), dillad (150-2,900 tunnell), pelenni plastig a ddefnyddir i wneud eitemau plastig (200-5,900 tunnell) a phaent ar adeiladau a marciau ffyrdd (1,400-3,700 tunnell).
Dywed Cyfeillion y Ddaear a Dr Christian Dunn bod rhaid gwneud gwaith pellach i ymchwilio'n llawn i unrhyw beryglon iechyd o ficroblastig - i bobl ac ecosystemau - fel y gellir canfod lefelau "diogel", a rhoi prosesau symud a lliniaru ar waith.
Y dyfrffyrdd a arolygwyd (yn cynnwys darnau o blastig fesul litr o ddŵr) oedd:
- Llyn Cefni - cronfa ddŵr; Ynys Môn, Cymru (43.2)
- Afon Cegin - afon; Gogledd Cymru (76.9)
- Afon Tafwys, Llundain (84.1)
- Gwely cyrs Caer (7.6)
- Ullswater, Ardal y Llynnoedd (29.5)
- Afon Irwell, Salford, Manceinion Fwyaf (84.8)
- Afon Tame, Tameside, Manceinion Fwyaf (> 1,000)
- Afon Blackwater, Essex (15.1)
- Rhaeadr Dochart, Parc Cenedlaethol Loch Lomond a'r Trossachs (3.3)
- Loch Lomond, Parc Cenedlaethol Loch Lomond a'r Trossachs (2.4)
Dywedodd Dr Christian Dunn, o Brifysgol Bangor:
"Roedd yn eithaf brawychus i ddarganfod bod microblastigau yn bresennol hyd yn oed yn y safleoedd mwyaf anghysbell a brofwyd gennym, ac roedd yn ddigalon i weld eu bod mewn rhai o leoliadau mwyaf eiconig ein gwlad. Rwy'n siŵr na fyddai Wordsworth yn hapus i wybod bod ei annwyl Ullswater yn Ardal y Llynnoedd wedi'i lygru â phlastig.
"Mae'r canfyddiadau cychwynnol hyn, gan ein tîm ym Mhrifysgol Bangor a Chyfeillion y Ddaear, yn dangos bod rhaid inni ddechrau trin y broblem blastig yn ein dyfroedd mewndirol o ddifrif.
"Mae plastig yn llygru ein hafonydd, ein llynnoedd a'n gwlyptiroedd mewn ffordd debyg i'r llygryddion a elwir yn 'halogyddion sy'n dod i'r amlwg' fel gwastraff fferyllol, cynhyrchion gofal personol a phlaleiddiaid.
"Fel gyda'r holl halogyddion sy'n dod i'r amlwg, nid ydym eto'n gwybod yn iawn sut maent yn peryglu bywyd gwyllt ac ecosystemau, neu hyd yn oed iechyd pobl, ac i ba raddau y maent yn bresennol yn ein holl systemau dŵr.
"Ond mae bellach yn glir y dylid ystyried microblastigau fel halogydd difrifol sy'n dod i'r amlwg ac mae angen ymdrech ar y cyd i fonitro ein holl ddyfroedd mewndirol yn rheolaidd.
"Mae ein dull yn cynnig ffordd syml a rhad o wneud hyn, felly mae angen i ni nawr ei ddatblygu a gweld a yw'n canlyniadau cychwynnol yn ddim ond crafu’r wyneb."
Dywedodd Julian Kirby, ymgyrchydd plastig gyda Chyfeillion y Ddaear:
"Mae'r halogiad eang o'n hafonydd a'n llynnoedd â llygredd microblastig yn bryder mawr, a bydd pobl wrth gwrs eisiau gwybod pa effaith y gall ei gael ar eu hiechyd a'u hamgylchedd.
"Mae llygredd plastig ym mhobman - mae wedi'i ganfod yn ein hafonydd, ar ein mynyddoedd uchaf ac yn ein cefnforoedd dyfnaf.
"Mae'r pwysau nawr ar San Steffan a llywodraethau datganoledig yn y DU i gyflwyno deddfwriaeth er mwyn lleihau'n sylweddol y llif o lygredd plastig sy'n niweidiol i'n hamgylchedd."
Er y gwnaed nifer o astudiaethau ar lygredd plastig yn yr amgylchedd morol a rhai ar waddod dyfrffyrdd, nid oes cymaint o ymchwil wedi'i wneud ar lygredd microblastig mewn samplau dŵr o systemau mewndirol yn y DU. Mae'r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon yn cynnig ffordd syml a rhad o gasglu a dadansoddi samplau, fel y gellir monitro dyfrffyrdd yn rheolaidd yn genedlaethol.